Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithredol a Threfniadau Amgen) (Addasu Deddfiadau a Darpariaethau Eraill) (Cymru) 2002

Datgymhwysiadau ar gyfer ethol a dal swydd fel maer etholedig

5.  Yn adran 80 o Ddeddf 1972 (datgymhwysiadau ar gyfer ethol a dal swydd fel aelod o awdurdod lleol), yn is-adran (1)—

(a)ar ôl “member of a local authority”, mewnosodwch “, and be disqualified for being elected or being an elected mayor,”; a

(b)yn is-adran (a), ar ôl “appointments”, mewnosodwch “or elections”.