2.—(1) Yn achos gofal dydd, newid yn y personau canlynol—
(a)unrhyw berson sy'n gyfrifol,
(b)unrhyw un sy'n gofalu am blant ar y safle perthnasol,
(c)unrhyw un sy'n byw neu'n gweithio ar y safle hwnnw (ar yr amod na ddylid trin personau fel rhai sy'n gweithio ar y safle at ddibenion y paragraff hwn os nad oes dim o'u gwaith yn cael ei wneud yn y rhan o'r safle lle mae plant yn derbyn gofal neu os nad ydynt yn gweithio ar y safle ar adegau pan yw plant yn derbyn gofal yno), ac
(ch)os yw'r gofal dydd yn cael ei ddarparu gan bartneriaeth, pwyllgor neu gorff corfforaethol neu anghorfforaethol, y Cadeirydd, yr Ysgrifennydd, y Trysorydd (neu berson sy'n dal swydd gyffelyb yn y corff).
(2) Dyddiad geni, enw llawn, ac enwau blaenorol neu enwau eraill y person newydd a'i gyfeiriad cartref yw'r wybodaeth sydd i'w darparu.