Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 1DATGANIADAU SAFONAU GOFYNNOL CENEDLAETHOL

Y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gwarchodwyr Plant

Y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Dydd Llawn

Y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal y tu allan i'r Ysgol

Y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Crèches

Y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Sesiynol

Y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Darpariaethau Chwarae Mynediad Agored

Rheoliadau 4 ac 16

ATODLEN 2YR WYBODAETH SY'N OFYNNOL MEWN PERTHYNAS Å PHERSONAU SY'N CEISIO GWEITHREDU FEL GWARCHODWYR PLANT NEU DDARPARWYR GOFAL DYDD NEU'N CEISIO GWEITHIO DROSTYNT

1.  Prawf o bwy yw'r person gan gynnwys ffotograff diweddar.

2.  Naill ai—

(a)os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud ag adran 115(5)(e) o Ddeddf yr Heddlu 1997 (cofrestru o dan Ran XA o Ddeddf Plant 1989)(1), neu os yw'r swydd yn dod o fewn adran 115(3) o Ddeddf yr Heddlu 1997(2), tystysgrif cofnod troseddol fanwl a roddwyd o dan adran 115 o'r Ddeddf honno ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi; neu

(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol o dan adran 113 o'r Ddeddf honno, ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi,

gan gynnwys, os yw'n gymwys, y materion a bennir yn adran 113(3A) neu (3C) neu 115(6A) neu (6B) o'r Ddeddf honno(3).

3.  Dau dystlythyr ysgrifenedig, gan gynnwys tystlythyr gan y cyflogwr diwethaf, os oes un.

4.  Os yw person wedi gweithio o'r blaen mewn swydd yr oedd ei ddyletswyddau'n golygu gweithio gyda phlant neu oedolion hawdd eu niweidio, yna, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, cadarnhad o'r rheswm y daeth y gyflogaeth neu'r swydd i ben.

5.  Tystiolaeth ddogfennol am unrhyw gymhwyster perthnasol.

6.  Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol am unrhyw fylchau mewn cyflogaeth.

7.  Manylion unrhyw dramgwyddau troseddol—

(a)y cafwyd y person yn euog ohonynt, gan gynnwys manylion unrhyw gollfarnau sydd wedi darfod o fewn ystyr “spent” yn adran 1 o Ddeddf Adsefydlu Tramgwyddwyr 1974(4) ac y gellir eu datgelu yn rhinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Tramgwyddwyr 1974 (Eithriadau) 1975(5); neu

(b)y mae'r person wedi'i rybuddio amdanynt gan swyddog heddlu ac yr oedd y person wedi'u cyfaddef adeg rhoi'r rhybudd.

Rheoliad 18

ATODLEN 3Y COFNODION SYDD I'W CADW

1.  Enw, cyfeiriad a rhif ffôn y person cofrestredig, yr unigolyn cyfrifol a phob person arall sy'n byw, sy'n gweithio neu sy'n cael ei gyflogi ar y safle perthnasol.

2.  Enw, cyfeiriad cartref a rhif ffôn unrhyw berson arall a fydd mewn cysylltiad rheolaidd heb oruchwyliaeth â'r plant perthnasol.

3.  Enw, cyfeiriad cartref, dyddiad geni a rhyw pob plentyn perthnasol.

4.  Ar gyfer pob plentyn perthnasol, enw, cyfeiriad cartref a rhif ffôn rhiant.

5.  Ar gyfer pob plentyn perthnasol, enw a chyfeiriad yr ymarferydd meddygol cofrestredig y mae'r plentyn wedi'i gofrestru gydag ef.

6.  Cofnod dyddiol o enwau'r plant perthnasol, yr oriau yr oeddent yn bresennol ac enwau'r personau a oedd yn gofalu amdanynt.

7.  Cofnod o ddamweiniau, afiechydon difrifol a digwyddiadau arwyddocaol eraill a ddigwyddodd ar y safle perthnasol ac a effeithiodd ar les y plant perthnasol.

8.  Cofnod o unrhyw gynnyrch meddyginiaethol a roddwyd i blentyn perthnasol ar y safle perthnasol, gan gynnwys dyddiad ac amgylchiadau ei roi a chan bwy y cafodd ei roi, gan gynnwys cynhyrchion meddyginiaethol y caniateir i'r plentyn eu rhoi iddo ef ei hun, ynghyd â chofnod o gydsyniad rhiant.

9.  Unrhyw anghenion deietegol neu anghenion iechyd arbennig neu alergedd sydd gan unrhyw blentyn perthnasol.

10.  Datganiad o'r weithdrefn sydd i'w dilyn os digwydd tân neu ddamwain.

11.  Datganiad o'r weithdrefn sydd i'w dilyn os oes gan riant gwyn ynghylch y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu gan y person cofrestredig.

12.  Datganiad o'r trefniadau sydd wedi'u sefydlu ar gyfer amddiffyn plant perthnasol, gan gynnwys trefniadau i ddiogelu'r plant rhag cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso a'r gweithdrefnau sydd i'w dilyn os ceir honiadau o gam-drin neu esgeuluso.

13.  Datganiad o'r weithdrefn sydd i'w dilyn os bydd plentyn perthnasol yn mynd ar goll neu'n peidio â chael ei gasglu.

Rheoliad 19

ATODLEN 4DIGWYDDIADAU I'W HYSBYSU I'R CYNULLIAD CENEDLAETHOL

1.—(1Yn achos gwarchod plant, newid yn y personau canlynol—

(a)unrhyw berson sy'n gofalu am blant ar y safle perthnasol, neu

(b)unrhyw berson sy'n byw neu'n cael ei gyflogi ar y safle hwnnw.

(2Dyddiad geni, enw llawn, ac enwau blaenorol neu enwau eraill y person newydd a'i gyfeiriad cartref yw'r wybodaeth sydd i'w darparu.

2.—(1Yn achos gofal dydd, newid yn y personau canlynol—

(a)unrhyw berson sy'n gyfrifol,

(b)unrhyw un sy'n gofalu am blant ar y safle perthnasol,

(c)unrhyw un sy'n byw neu'n gweithio ar y safle hwnnw (ar yr amod na ddylid trin personau fel rhai sy'n gweithio ar y safle at ddibenion y paragraff hwn os nad oes dim o'u gwaith yn cael ei wneud yn y rhan o'r safle lle mae plant yn derbyn gofal neu os nad ydynt yn gweithio ar y safle ar adegau pan yw plant yn derbyn gofal yno), ac

(ch)os yw'r gofal dydd yn cael ei ddarparu gan bartneriaeth, pwyllgor neu gorff corfforaethol neu anghorfforaethol, y Cadeirydd, yr Ysgrifennydd, y Trysorydd (neu berson sy'n dal swydd gyffelyb yn y corff).

(2Dyddiad geni, enw llawn, ac enwau blaenorol neu enwau eraill y person newydd a'i gyfeiriad cartref yw'r wybodaeth sydd i'w darparu.

3.  Unrhyw newid yn enw neu gyfeiriad cartref y person cofrestredig neu'r personau hynny a ddisgrifir ym mharagraff 1(1) neu baragraff 2(1)(a) i (c).

4.  Unrhyw newid yn y math o ofal plant sy'n cael ei ddarparu gan berson cofrestredig.

5.  Unrhyw newid yng nghyfeiriad y safle perthnasol.

6.  Yn achos gofal dydd, unrhyw newid yn y cyfleusterau sydd i'w defnyddio ar gyfer gofal dydd ar y safle perthnasol, gan gynnwys newidiadau i'r nifer o ystafelloedd, eu swyddogaethau, y nifer o doiledau a basnau ymolchi, unrhyw gyfleusterau ar wahân ar gyfer gweithwyr sy'n oedolion a mynedfa i'r safle ar gyfer ceir.

7.  Unrhyw newid yn yr oriau y mae gofal dydd neu wasanaeth gwarchod plant yn cael ei ddarparu ynddynt.

8.  Brigiad unrhyw glefyd heintus ar y safle perthnasol sydd ym marn unrhyw ymarferydd meddygol cofrestredig sy'n ymweld â phlentyn neu berson arall ar y safle yn ddigon difrifol i'w hysbysu felly neu unrhyw anaf difrifol i unrhyw blentyn neu berson arall ar y safle, neu salwch difrifol neu farwolaeth unrhyw blentyn neu berson arall ar y safle.

9.  Unrhyw honiadau bod niwed difrifol wedi'i wneud yn erbyn plentyn gan unrhyw berson sy'n gofalu am blant perthnasol ar y safle, neu gan unrhyw berson sy'n byw, yn gweithio neu'n cael ei gyflogi ar y safle, neu unrhyw gamdriniaeth yr honnir ei bod wedi digwydd ar y safle.

10.  Unrhyw ddigwyddiad arall a all effeithio ar addasrwydd y person cofrestredig i ofalu am blant neu addasrwydd unrhyw berson sy'n byw, yn gweithio neu'n cael ei gyflogi ar y safle i fod mewn cysylltiad rheolaidd â phlant.

11.  Unrhyw ddigwyddiad arwyddocaol arall sy'n debyg o effeithio ar les unrhyw blentyn ar y safle.

(1)

Mae adran 115(5)(e) wedi'i diwygio gan adran 116 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a pharagraff 25 o Atodlen 4 iddi.

(2)

Mae swydd o fewn adran 115(3) os yw'n golygu bod y person wrthi'n rheolaidd yn hyfforddi, yn goruchwylio neu'n gofalu am bersonau o dan 18 oed neu os yw'n golygu mai'r unig berson sy'n gyfrifol amdanynt yw deiliad y swydd.

(3)

Mae adrannau 113(3A) a 115(6A) yn cael eu hychwanegu at Ddeddf yr Heddlu 1997 gan adran 8 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1997 (p.14) ar ddyddiad sydd i'w bennu, ac yn cael eu diwygio gan adrannau 104 a 116 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a pharagraff 25 o Atodlen 4 iddi ar ddyddiad sydd i'w bennu. Mae'r diwygiad o dan baragraff 25 wedi'i ddwyn i rym mewn perthynas â Lloegr yn unig. Mae adrannau 113(3C) a 115(6B) yn cael eu hychwanegu at Ddeddf yr Heddlu 1997 gan adran 90 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ar ddyddiad sydd i'w bennu.

(5)

O.S. 1975/1023. Mae diwygiadau perthnasol wedi'u gwneud gan O.S. 1986/1249, O.S. 1986/2268 ac O.S. 2001/1192.