Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002.

2

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “yr Atodlen” (“the Schedule”) yw'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn;

  • ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Safonau Gofal 20002;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Plant 1989.

3

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.