- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
6.—(1) Os yw hysbysiad wedi'i gyflwyno yn unol ag is-baragraff (1)(a) o erthygl 5, rhaid i arolygydd milfeddygol fynd ar y safle sy'n destun yr hysbysiad a gwneud yr ymholiadau, yr archwiliadau a'r profion a chymryd y samplau (gan gynnwys adar byw a charcasau), sy'n angenrheidiol er mwyn canfod a oes clefyd yn bodoli yno neu wedi bodoli yno, ac, yn benodol, i gadarnhau
(i)pa mor hir y mae'r clefyd wedi bodoli ar y safle,
(ii)tarddiad posibl y clefyd ar y safle,
(iii)pa safle allai fod wedi bod yn agored i halogiad â'r clefyd o'r safle sy'n destun yr ymchwiliad, a
(iv)i ba raddau y mae clefyd wedi'i gario i'r safle sy'n destun yr ymchwiliad neu ohono.
(2) Os yw hysbysiad wedi'i gyflwyno yn unol ag is-baragraff (1)(b) o erthygl 5 neu baragraff (2) o erthygl 5, rhaid i arolygydd milfeddygol
(a)gwneud unrhyw ymholiadau y mae eu hangen er mwyn darganfod unrhyw seiliau rhesymol dros amau clefyd, ac wrth wneud hynny, caiff gynnal archwiliadau a phrofion a chymryd samplau fel y gwêl yn dda;
(b)cyfrif y dofednod; a
(c)monitro eu symudiadau.
(3) Caiff arolygydd milfeddygol farcio, neu beri marcio, at ddibenion adnabod unrhyw aderyn, unrhyw garcas neu unrhyw beth arall y mae unrhyw un o'r pwerau o dan baragraffau (1) a (2) wedi'i arfer mewn perthynas ag ef, neu beri iddynt gael eu marcio felly.
(4) Rhaid i samplau gael eu casglu a phrofion labordy gael eu cynnal o dan yr erthygl hon (mewn perthynas â ffliw adar) yn unol ag Atodiad III o Gyfarwyddeb y Cyngor 92/40/EEC ac, (mewn perthynas â chlefyd Newcastle a pharamycsofirws mewn colomennod), yn unol ag Atodiad III o Gyfarwyddeb y Cyngor 92/66/EEC.
(5) Rhaid i feddiannydd y safle neu geidwad unrhyw adar ar y safle neu unrhyw berson sy'n cael ei gyflogi ganddo roi unrhyw gymorth rhesymol i arolygydd milfeddygol y bydd arno ei angen er mwyn arfer ei bwerau o dan baragraffau (1), (2) a (3) uchod.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: