(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Adran 16 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (“y Ddeddf”) yn galluogi person sy'n dal buddiant mewn tir (a hwnnw'n fuddiant rhydd-ddaliadol neu'n fuddiant prydlesol y mae nid llai na 90 o flynyddoedd ohono yn dal heb ddod i ben) i gyflwyno'r tir hwnnw fel “tir mynediad” at ddibenion Rhan I o'r Ddeddf.

Bydd tir sydd wedi'i gyflwyno o dan adran 16 o'r Ddeddf yn ddarostyngedig i hawl mynediad cyhoeddus yn yr un modd â phetai'r tir wedi'i gynnwys mewn map a baratowyd gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru (“y Cyngor”) o dan Ran I o'r Ddeddf a bydd yn ddarostyngedig i'r un cyfyngiadau cyffredinol (a nodir yn Atodlen 2 i'r Ddeddf), ac eithrio i'r graddau y mae'r sawl sy'n cyflwyno'r tir yn dileu neu'n llacio'r cyfyngiadau hynny yn ôl telerau'r cyflwyniad.

O dan adran 16 o'r Ddeddf, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) ragnodi'r camau sydd i'w cymryd i gyflwyno tir fel tir mynediad.

Mae Rheoliad 3 yn rhagnodi ffurf a chynnwys yr offeryn ysgrifenedig y mae'n rhaid ei weithredu er mwyn cyflwyno tir, gan gynnwys yr hyn y mae'n rhaid iddo gynnwys er mwyn dynodi'r tir y mae'n ymwneud ag ef, y personau sy'n ei gyflwyno, y personau eraill sydd, oherwydd eu buddiant yn y tir, yn cydsynio â'r cyflwyniad, a graddau unrhyw ddileu neu lacio'r cyfyngiadau sydd i'w hufuddhau gan bersonau sy'n arfer hawl mynediad iddo.

Mae Rheoliad 4 yn rhagnodi sut mae offeryn cyflwyno i'w weithredu ac yn ei gwneud yn ofynnol i'r sawl sy'n gwneud hynny roi rhybudd o dri mis i wahanol gyrff y mae'n debyg bod ganddynt ddiddordeb yn y cynnig i gyflwyno'r tir cyn iddo wneud hynny.

Mae Rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i offeryn cyflwyno, os yw i fod yn effeithiol, gael ei adneuo o fewn un mis ar ôl cael ei weithredu gyda'r awdurdod mynediad ar gyfer y tir y mae'n ymwneud ag ef (neu un ohonynt os oes mwy nag un) ac i'r offeryn ddod i rym chwe mis ar ôl gweithredu'r offeryn cyflwyno.

Mae Rheoliad 6 yn darparu bod copïau o'r offeryn cyflwyno yn cael eu hanfon at gyrff â diddordeb ac eithrio'r awdurdod mynediad y mae wedi'i adneuo gydag ef.

Mae Rheoliad 7 yn darparu bod dileu neu lacio cyfyngiadau cyffredinol ar fynediad yn dod yn weithredol yn unol â thelerau offeryn cyflwyno ac ar gyfer dileu ymhellach neu lacio ymhellach drwy gyfrwng offeryn cyflwyno sy'n diwygio.

Mae Rheoliad 8 yn darparu ar gyfer defnyddio cyfathrebu electronig.