Rhan VIIIAMRYWIOL
Defnyddio cyfathrebiad electronig
19. Caiff unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol ei hanfon neu yr awdurdodwyd ei hanfon gan un person i berson arall o dan ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn, ei hanfon drwy'r post neu drwy gyfrwng gyfathrebiad electronig a dylid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at ysgrifen, sut bynnag y mae wedi'i fynegi, fel cyfeiriad sy'n cynnwys cyfeiriad at ffurf y mae modd ei storio, ei throsglwyddo i gyfrifiadur ac ohono, a'i darllen drwy gyfrwng cyfrifiadur.
Disgrifiad o dir
20. Pan fydd y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi hysbysiad i awdurdod perthnasol sy'n cynnwys disgrifiad o unrhyw dir, a bod yr awdurdod perthnasol hwnnw wedi neilltuo o'r blaen i'r darn o dir hwnnw gyfeirnod i'r perwyl hwnnw, dylid ystyried bod dynodi'r tir hwnnw drwy gyfeirio at y rhif hwnnw yn ddigon i gydymffurfio â'r gofyniad hwnnw.