10.—(1) Rhaid i gyfarwyddyd a roddir o dan adran 24(1), 25(1) neu 26(1) o'r Ddeddf gan awdurdod perthnasol:
(a)dwyn y dyddiad y cafodd ei roi arno;
(b)nodi'r ddarpariaeth yn y Ddeddf y mae wedi'i roi odani;
(c)disgrifio (boed hynny drwy gyfrwng map neu fel arall) leoliad a hyd a lled y tir y mae'r gwaharddiad neu'r cyfyngiad i fod yn gymwys iddo;
(ch)pennu ai effaith y cyfarwyddyd yw gwahardd mynediad i'r tir, neu fel arall, gyfyngu arno;
(d)yn achos cyfarwyddyd sy'n cyfyngu mynediad ond nad yw'n ei wahardd, pennu graddau'r cyfyngiad; ac
(dd)pennu'r cyfnod pryd y mae'r gwaharddiad neu'r cyfyngiad i fod yn gymwys neu, os oes rhywun ac eithrio'r person sy'n rhoi'r cyfarwyddyd i gael y pŵer i benderfynu'r cyfnod hwnnw yn unol ag adran 24(2)(b)(i), 25(2)(b)(i), 26(2)(c)(i) neu 28(2)(c)(i) o'r Ddeddf, yn ôl fel y digwydd, unrhyw amodau sy'n gymwys i'r pŵer hwnnw.
(2) Rhaid i gyfarwyddyd a roddir o dan adran 27(2) o'r Ddeddf sy'n dirymu neu'n amrywio cyfarwyddyd sy'n bodoli eisoes:
(a)dwyn y dyddiad y cafodd ei roi arno;
(b)nodi o dan ba ddarpariaeth yn y Ddeddf y mae wedi'i roi;
(c)bod yn un y mae copi o'r cyfarwyddyd y mae'n ei ddirymu neu'n ei amrywio wedi'i atodi iddo;
(ch)datgan a yw ei effaith yn dirymu'r cyfarwyddyd sy'n bodoli eisoes neu'n ei amrywio; a
(d)os ei effaith yw amrywio'r cyfarwyddyd sy'n bodoli eisoes, datgan sut y mae'n cael ei amrywio.