Rhan IVHYSBYSU O GYFNODAU GWAHARDD A CHYFYNGU

Hysbysu o waharddiad neu gyfyngiad13

1

Mae'r rheoliad hwn yn gymwys os yw'n ofynnol o dan gyfarwyddyd:

a

i geisydd am gyfarwyddyd o dan adran 24(1) o'r Ddeddf; neu

b

i berson a bennwyd mewn cyfarwyddyd a roddwyd gan yr awdurdod perthnasol o dan adran 25(1) neu 26(1) o'r Ddeddf,

er mwyn i'r gwaharddiad neu'r cyfyngiad ddod yn weithredol, hysbysu'r awdurdod perthnasol bod y gwaharddiad neu'r cyfyngiad hwnnw wedi dechrau.

2

Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), rhaid rhoi'r hysbysiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1) yn ysgrifenedig fel y bydd yn dod i law'r awdurdod perthnasol o leiaf bum diwrnod (neu'r nifer arall o ddiwrnodau sydd wedi'i bennu yn y cyfarwyddyd) cyn bod y gwaharddiad neu'r cyfyngiad yn dechrau a rhaid iddo gynnwys:

a

enw, cyfeiriad a chod post y person hwnnw;

b

os oes cyfeirnod wedi'i roi o'r blaen gan yr awdurdod perthnasol i'r person hwnnw at ddibenion hysbysu o dan y rheoliad hwn, y cyfeirnod hwnnw; ac

c

y dyddiadau ac, os bydd y gwaharddiad neu'r cyfyngiad yn para am lai na 24 awr ar ddyddiad penodol, yr amserau pan fydd y gwaharddiad neu'r cyfyngiad ar waith.

3

Caiff person sydd wedi rhoi hysbysiad yn unol â pharagraff (2) amrywio'r hysbysiad hwnnw neu ei dynnu'n ôl drwy roi hysbysiad ysgrifenedig pellach i'r awdurdod perthnasol, ar yr amod bod hysbysiad o'r fath yn dod i law o leiaf ddau ddiwrnod gwaith cyn y diwrnod y mae'r gwaharddiad neu'r cyfyngiad y mae'n ymwneud ag ef i ddechrau.

4

Caiff yr awdurdod perthnasol, os yw o'r farn nad oedd yn rhesymol ymarferol rhoi'r hysbysiad yn unol â gofynion y rheoliad hwn, dderbyn hysbysiad sy'n cael ei roi gan berson â hawl i roi hysbysiad o'r fath unrhyw bryd cyn i'r cyfyngiad y mae'n gymwys iddo ddechrau ac, os yw'n penderfynu gwneud hynny, rhaid i'r awdurdod perthnasol anfon hysbysiad o'r penderfyniad hwnnw at y person a roddodd yr hysbysiad cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl iddo ddod i'r penderfyniad hwnnw.