Apêl yn erbyn penderfyniad gan awdurdod perthnasol
16.—(1) At ddibenion y Rheoliadau hyn ystyr “apêl” yw:
(a)unrhyw apêl o dan adran 30(3) o'r Ddeddf (apêl gan berson â buddiant mewn tir yn erbyn penderfyniad gan awdurdod perthnasol i beidio â gweithredu yn unol â chais neu sylwadau a gyflwynwyd gan y person hwnnw); a
(b)unrhyw gyfeiriad o dan adran 29(2) o'r Ddeddf (cyfeiriad gan y corff ymgynghorol perthnasol os yw'r awdurdod perthnasol yn penderfynu peidio â gweithredu yn unol â chyngor a roddwyd gan y corff hwnnw).
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), dim ond drwy anfon neu fynd â ffurflen apêl wedi'i chwblhau i'r Cynulliad Cenedlaethol fel ei bod yn dod i law cyn diwedd y cyfnod apelio y caiff apêl gael ei dwyn.
(3) Caiff apêl gael ei dwyn hefyd drwy anfon neu fynd â ffurflen apêl wedi'i chwblhau i'r Cynulliad Cenedlaethol fel ei bod yn dod i law ar ôl diwedd y cyfnod apelio os yw'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn nad oedd yn rhesymol ymarferol i'r apelydd gydymffurfio â gofynion paragraff (2) ac ar yr amod bod y ffurflen apêl sydd wedi'i chwblhau yn dod i law o fewn unrhyw gyfnod pellach ar ôl diwedd y cyfnod apelio y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn barnu ei fod yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.
(4) Os yw person sy'n dymuno dwyn apêl yn anfon neu'n mynd â hysbysiad ysgrifenedig o'r bwriad hwnnw i'r Cynulliad Cenedlaethol fel ei bod yn dod i law cyn diwedd y cyfnod apelio yna, ar yr amod bod y person hwnnw yn anfon neu'n mynd â ffurflen apêl wedi'i chwblhau i'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn unrhyw gyfnod pellach y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei wneud yn ofynnol, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r person hwnnw, mae'r ffurflen apêl honno i'w thrin fel petai wedi dod i law cyn diwedd y cyfnod apelio.
(5) Mae'r wybodaeth y mae'n rhaid i ffurflen apêl sydd wedi'i chwblhau ei chynnwys fel a ganlyn:
(a)enw, cyfeiriad a chod post yr apelydd;
(b)digon o fanylion am y tir y mae'r apêl yn ymwneud ag ef er mwyn ei gwneud yn bosibl i adnabod y tir hwnnw ar fap sydd i'w ddarparu gan yr apelydd;
(c)unrhyw fanylion a fydd yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i ddeall ar ba sail y mae'r apêl wedi'i dwyn;
(ch)natur buddiant yr apelydd yn y tir sy'n destun yr apêl; a
(d)a yw'r apelydd yn dymuno cael ei wrando gan berson a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn cysylltiad â'r apêl (yn hytrach na bod yr apêl yn cael ei phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig) ac, os felly, a yw'r apelydd yn dymuno cael ei wrando mewn ymchwiliad lleol neu, fel arall, mewn gwrandawiad.
(6) Caiff ffurflen apêl fod naill ai yn Gymraeg neu Saesneg ond, os yw'r apelydd yn dymuno bod yr apêl yn cael ei thrin yn gyfan gwbl neu'n rhannol drwy gyfrwng yr iaith heblaw'r un y mae'r ffurflen apêl wedi'i mynegi ynddi, dylai'r ffurflen apêl ymgorffori cais i'r perwyl hwnnw neu rhaid i gais felly fynd gyda hi.