Offerynnau Statudol Cymru
2003 Rhif 151 (Cy.21)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau Premiwm Blynyddol Defaid (Diwygio) (Cymru) 2003
Wedi'u gwneud
29 Ionawr 2003
Yn dod i rym
3 Chwefror 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi() at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972() mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo o dan yr adran 2(2) a enwyd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol :
Teitl a chychwyn
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Premiwm Blynyddol Defaid (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 3 Chwefror 2003.
Dehongli
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “cynhyrchydd” yw cynhyrchydd fel y diffinnir “producer” yn Erthygl 3 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 2529/2001 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn cig defaid a chig geifr();
ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “daliad” (“holding”) yw'r holl unedau cynhyrchu sy'n cael eu rheoli gan gynhyrchydd sydd wedi'i leoli yn y Deyrnas Unedig;
ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Premiwm Blynyddol Defaid (Diwygio) (Cymru) 1992(); ac
ystyr “Rheoliadau IACS” (“the IACS Regulations”) yw Rheoliadau'r System Integredig Rheoli a Gweinyddu 1993().
Diwygio'r prif Reoliadau
3.—(1) Cyn belled ag y maent yn ymwneud i raddau perthnasol â chynhyrchydd, diwygir y prif Reoliadau yn unol â darpariaethau paragraffau (3) i (5) o'r rheoliad hwn.
(2) Ym mharagraff (1) uchod, ystyr “i raddau perthnasol” yw'r graddau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn awdurdod cymwys perthnasol at ddibenion y Rheoliadau IACS mewn perthynas â daliad y cynhyrchydd o dan sylw.
(3) Yn rheoliad 5 (pwerau swyddogion awdurdodedig), rhoddir y paragraff canlynol yn lle'r paragraff (5)(a) presennol—
“(a)require any producer or any employee, servant or agent of a producer to produce any record that producer is required to keep pursuant to regulation 8 and to supply such additional information in that person’s possession or under his control relating to an application for premium as the authorised officer may reasonably request;”.
(4) Ar ôl rheoliad 7, mewnosodir y rheoliad canlynol—
“Record keeping
8.—(1) Where at any time during a marketing year a producer fails to comply with the record keeping requirements of paragraphs (2) to (4) of this regulation, the National Assembly may withhold or recover on demand the whole or any part of any premium payable or paid to the producer in respect of that marketing year.
(2) On or before 31st January each year, the producer shall record the total number of female sheep on the holding on 1st January of that year which either were over 12 months old or had given birth, and the date the entry was made.
(3) Without prejudice to the requirements of paragraph (2), within 14 days of any of the following events—
(a)the intentional movement on or off the holding of female sheep which either were over 12 months old or had given birth;
(b)a female sheep which has not given birth
reaching the age of 12 months;
(c)a sheep under 12 months old giving birth;
(d)the discovery that a female sheep which either was over 12 months old or had given birth has been lost from the holding, either because it has died or because it is missing from the holding.
the producer shall record the total number of female sheep on the holding which have given birth or are over 12 months old, the date of the entry and the reasons that the total number of such sheep on the holding has changed.
(4) All records under this regulation shall be retained by the producer for a period of four years.”.
(5) Dilëir Rheoliad 8A.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998().
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
29 Ionawr 2003
Nodyn Esboniadol
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 3 Chwefror 2003, yn diwygio Rheoliadau Premiwm Blynyddol Defaid 1992 (O.S. 1992/2677, fel y'u diwygiwyd eisoes gan O.S. 1994/2741, 1995/2779, 1996/49, 1997/2500 a 2000/2573) (“y prif Reoliadau”).
Maent yn diwygio'r prif Reoliadau cyn belled ag y mae'r rheiny'n ymwneud “i raddau perthnasol” ag unrhyw gynhyrchydd at ddibenion Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2529/2001 sy'n gosod rheolau cyffredinol ar gyfer rhoi premiwm i gynhyrchwyr cig defaid a chig geifr (OJ Rhif L341, 22.12.2001, t.3). Y “graddau perthnasol” at y diben hwn yw'r graddau y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mewn perthynas â daliad y cynhyrchydd o dan sylw, yn awdurdod cymwys perthnasol at ddibenion Rheoliadau System Integredig Gweinyddu a Rheoli 1993 (O.S. 1993/1317, fel y'u diwygiwyd gan O.S. 1994/1134, 1997/1148, 1999/1820 a 2000/2573).
Mae'r Rheoliadau yn mewnosod yn y prif Reoliadau reoliad 8 newydd sy'n gosod gofynion ar y cynhyrchwyr hynny i gadw cofnodion ynglŷn â digwyddiadau penodedig. Yn ychwanegol, maent yn gwneud diwygiadau canlyniadol i'r prif Reoliadau. Mae'r gofynion hyn ynglŷn â chadw cofnodion yn gweithredu Erthygl 4(1)(b) o Gyfarwyddeb y Cyngor (EC) Rhif 92/102 ar adnabod a chofrestru anifeiliaid (OJ Rhif L355, 5.12.92, t.32) ac maent yn ofynion a gafodd eu pennu o'r blaen yn erthygl 5 o Reoliadau Adnabod Defaid a Geifr (Cymru) 2000 (O.S. 2000/2335 (Cy.152)).
Nid oes Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.