- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Wedi'i wneud
29 Ionawr 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 118(6) a (7) a 122 o Ddeddf Safonau Gofal 2000(1) drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1.—(1) Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 10) a Darpariaethau Trosiannol (Cymru) 2003.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000;
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
2.—(1) 30 Ionawr 2003 yw'r diwrnod a benodwyd ar gyfer dwyn i rym ddarpariaethau canlynol y Ddeddf—
(a)adrannau 8, 9(1) a (2), 10(2) i (7), 11 i 15, 17 i 21, 24, 26 i 32, 36 a 37 i'r graddau y mae eu darpariaethau —
(i)yn ymwneud â chanolfannau preswyl i deuluoedd, asiantaethau maethu, ac asiantaethau mabwysiadau gwirfoddol; a
(ii)nad ydynt eisoes mewn grym;
(b)adrannau 45 a 46;
(c)adran 53 i'r graddau y mae'n ymwneud â swyddogaethau maethu perthnasol;
(ch)adran 116 i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraffau 5 (2), (4), (5), (7)(a) a (9) i (11) o Atodlen 4;
(d)adran 117 i'r graddau y mae'n ymwneud â:
(i)paragraff 2 o Atodlen 5; a
(ii)Atodlen 6 i'r graddau y mae'n ymwneud ag adrannau 3, 4(1) a 4 (3), 5 a 9 (1) o Ddeddf Mabwysiadu 1976(2).
(2) 1 Chwefror 2003 yw'r diwrnod a benodwyd ar gyfer dwyn i rym adrannau 105 a 106 a pharagraff 21 o Atodlen 4 o'r Ddeddf.
3. Bydd asiantaeth fabwysiadu gwirfoddol a gymeradwywyd, yn union cyn 30 Ebrill 2003, o dan adran 3 o Ddeddf Fabwysiadu 1976, yn cael ei thrin o 30 Ebrill 2003 ymlaen fel petai wedi gwneud cais am gael ei chofrestru o dan y Ddeddf a chael ei chofrestru o dan y Ddeddf honno.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
29 Ionawr 2003
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gochymyn hwn yn dod â nifer o ddarpariaethau Deddf Safonau Gofal 2000 i rym mewn perthynas â rheoleiddio Canolfannau Preswyl i Deulueodd, Asiantaethau Mabwysiadu Gwirfoddol, Asiantaethau Maethu a Gwasanaethau Mabwysiadau Awdurdodau Lleol. Effaith y Gorchymyn hwn fydd dod â'r sefydliadau a'r asiantaethau hyn o fewn fframwaith rheoleiddio Deddf Safonau Gofal 2000, a gaiff ei orfodi yng Nghymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae darpariaethau pellach yn ymwneud â rhai darpariaethau o Ran VIII o Ddeddf Safonau Gofal 2000 eu heffaith yw diwygio Rhan XII o Ddeddf Plant 1989 (“Deddf 1989”) ac sy'n dod i rym ar 1 Chwefror 2003. Effaith y diwygiadau yw ehangu'r ddyletswydd i fonitro lles plant sy'n preswylio i bob ysgol a choleg addysg bellach sy'n darparu llety i blant. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn disodli'r awdurdod lleol fel y corff monitro. Mae darpariaethau adrannau 87A ac 87B o Ddeddf 1989 sy'n caniatáu i sefydliadau benodi arolygydd wedi'i gymeradwyo i fonitro eu darpariaeth les yn yr un modd yn cael eu hestyn i bob ysgol a choleg addysg bellach sy'n darparu llety i blant.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau Deddf Safonau Gofal 2000 (“y Ddeddf”) y gwneir cofnod mewn perthynas â hwy yn y Tabl isod wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Chymru ar y dyddiad a bennir gyferbyn â'u cofnod. Cafodd y darpariaethau hynny y dilynir y cofnod amdanynt ag '(a)' eu dwyn i rym gan O.S. 2000/2992 (Cy.192) (C.93); cafodd y rhai a ddilynir gan '(b)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/139 (Cy.5) (C.7); cafodd y rhai a ddilynir gan '(c)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2190 (Cy.152) (C.70); cafodd y rhai a ddilynir gan '(ch)' eu dwyn i rym gan O.S.. 2001/2354 (Cy.192) (C.80); cafodd y rhai a ddilynir gan '(d)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2504 (Cy.205) (C.82); cafodd y rhai a ddilynir gan '(dd)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2538 (Cy.213) (C.83); cafodd y rhai a ddilynir gan '(e)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2782 (Cy.235) (C.92); cafodd y rhai a ddilynir gan '(f)' eu dwyn i rym gan O.S. 2002/920 (Cy.108) (C.24) a chafodd y rhai a ddilynir gan '(ff)' eu dwyn i rym gan O.S. 2002/1175 (Cy.123) (C.31).
Y Ddarpariaeth | Dyddiad Cychwyn |
---|---|
Adrannau 1 i 5 (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 7(7) (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 8 (yn rhannol) (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 8 (yn rhannol) (f) | 1 Ebrill 2002 |
Adran 9(3) i (5) (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 9 (yn rhannot) (f) | 1 Ebrill 2002 |
Adran 10(2) i (7) (yn rhannol) (f) | 1 Ebrill 2002 |
Adrannau 11 a 12 (yn rhannol) (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adrannau 11 a 12 (yn rhannol) (f) | 1 Ebrill 2002 |
Adran 13 (yn rhannol) (f) | 1 Ebrill 2002 |
Adrannau 14 a 15 (yn rhannol) (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adrannau 14 a 15 (yn rhannol) (f) | 1 Ebrill 2002 |
Adran 16 (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adrannau 17 to 21 (yn rhannol) (f) | 1 Ebrill 2002 |
Adrannau 22 i 23 (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 24 (yn rhannol) (f) | 1 Ebrill 2002 |
Adran 25 (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adrannau 26 i 32 (yn rhannol) (f) | 1 Ebrill 2002 |
Adrannau 33 i 35 (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 36 (yn rhannol) (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 36 (yn rhannol) (f) | 1 Ebrill 2002 |
Adran 37 (yn rhannol) (f) | 1 Ebrill 2002 |
Adran 38 (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 39 (yn rhannol) (d) | 31 Gorffennaf 2001 |
Adran 39 (gweddill) (d) | 31 Awst 2001 |
Adran 40 (yn rhannol) (b) | 1 Chwefror 2001 |
Adran 40 (gweddill) (b) | 28 Chwefror 2001 |
Adran 41 (b) | 28 Chwefror 2001 |
Adrannau 42 i 43 (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adrannau 48 i 52 (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 54(1), (3) i (7) (a) | 1 Ebrill 2001 |
Adran 55 ac Atodlen 1 (a) | 1 Ebrill 2001 |
Adrannau 56 i 62 (yn rhannol) (ff) | 30 Ebrill 2002 |
Adran 63 (dd) | 31 Gorffennaf 2001 |
Adran 64(2) i (4) (yn rhannol) (ff) | 30 Ebrill 2002 |
Adran 65 (yn rhannol) (ff) | 30 Ebrill 2002 |
Adran 66 (dd) | 31 Gorffennaf 2001 |
Adran 67 (dd) | 1 Hydref 2001 |
Adran 70(1) (dd) | 1 Hydref 2001 |
Adran 71 (yn rhannol) (dd) | 31 Gorffennaf 2001 |
Adran 71 (gweddill) (ff) | 30 Ebrill 2002 |
Adran 72 ac Atodlen 2 (a) | 13 Tachwedd 2000 |
Adran 72A (e) | 26 Awst 2001 |
Adran 72B ac Atodlen 2A (e) | 26 Awst 2001 |
Adran 73 (fel y'i diwygiwyd) ac Atodlen 2B (e) | 26 Awst 2001 |
Adran 75 (fel y'i diwygiwyd) (e) | 26 Awst 2001 |
Adran 75A (e) | 26 Awst 2001 |
Adrannau 76 i 78 (fel y'u diwygiwyd) (e) | 26 Awst 2001 |
Adran 79(1) (yn rhannol) (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 79(1) (gweddill) (f) | 1 Ebrill 2002 |
Adran 79(2) ac Atodlen 3 (yn rhannol) (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 79(2) ac Atodlen 3 (gweddill) (f) | 1 Ebrill 2002 |
Adran 79(3),(4) (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 79(5) (f) | 1 Ebrill 2002 |
Adran 95 (f) | 1 Ebrill 2002 |
Adran 98 (ch) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adrannau 107 i 108 (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 110 (f) | 1 Ebrill 2002 |
Adran 112 (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 113 (2) i (4) (a) | 1 Ebrill 2001 |
Adran 114 (yn rhannol) (a) | 1 Ebrill 2001 |
Adran 114 (gweddill) (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 115 (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 116 ac Atodlen 4 (yn rhannol) (b) | 28 Chwefror 2001 |
Adran 116 ac Atodlen 4 (yn rhannol) (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 116 ac Atodlen 4 (yn rhannol) (f) | 1 Ebrill 2002 |
Adran 117(1) ac Atodlen 5 (yn rhannol) (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 117(1) ac Atodlen 5 (yn rhannol) (e) | 26 Awst 2001 |
Adran 117(2) ac Atodlen 6 (yn rhannol) (f) | 1 Ebrill 2002 |
Mae darpariaethau'r Ddeddf y gwneir cofnod mewn perthynas â hwy yn y Tabl isod wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Chymru, yn ogystal â mewn perthynas â Lloegr, ar y dyddiad a bennir gyferbyn â'r cofnod. Cafodd y darpariaethau hynny y dilynir y cofnod amdanynt ag '(a)' eu dwyn i rym gan O.S. 2000/2544 (C.72); a'r rhai y dilynir y cofnod amdanynt gan '(b)' eu dwyn i rym gan O.S. 2002/629 (C.19).
Y Ddarpariaeth | Dyddiad Cychwyn |
---|---|
Adran 80(8) (a) | 2 Hydref 2000 |
Adran 94 (a) | 2 Hydref 2000 |
Adran 96 (yn rhannol) (a) | 15 Medi 2000 |
Adran 96 (gweddill) (a) | 2 Hydref 2000 |
Adran 99 (a) | 15 Medi 2000 |
Adran 100 (a) | 2 Hydref 2000 |
Adran 101 (a) | 2 Hydref 2000 |
Adran 102 (b) | 18 Mawrth 2002 |
Adran 103 (a) | 2 Hydref 2000 |
Adran 104 (yn rhannol) (b) | 18 Mawrth 2002 |
Adran 104 (yn rhannol) (b) | 1 Ebrill 2002 |
Adran 116 ac Atodlen 4 (yn rhannol) (a) | 2 Hydref 2000 |
Adran 117(2) ac Atodlen 6 (yn rhannol) (a) | 2 Hydref 2000 |
Yn ychwanegol cafodd amryw ddarpariaethau eraill o'r Ddeddf eu dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2000/2795 (C.79); O.S. 2001/290 (C.17); O.S. 2001/731 (C.26); O.S. 2001/952 (C.35); O.S. 2001/1210 (C.41); O.S. 2001/1536 (C.55); O.S. 2001/2041 (C.68); O.S. 2001/3331 (C.109); O.S. 2001/3852 (C.125); O.S. 2001/4150 (C.134); O.S. 2002/839 (C.22); O.S. 2002/1245 (C.33); O.S. 2002/1493 (C.43); O.S. 2002/1790 (C.55) ac O.S. 2002/2215 (C.70).
2000 p.14. Rhoddwyd y pwerau i'r Gweinidog priodol. Ystyr “Gweinidog priodol” yw'r Cynulliad mewn perthynas â Chymru, a'r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon (a.121(1) o'r Ddeddf). Ystyr “Cynulliad” yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru (a.5(b) o'r Ddeddf).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: