xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 155 (Cy.25)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Diwygio) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

29 Ionawr 2003

Yn dod i rym

10 Chwefror 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 32, 105 a 106 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(1).

Teitl, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 10 Chwefror 2003.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Diwygio Rheoliadau

2.  Diwygir Atodlen 3 i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001(2) fel a ganlyn:

(a)ychwanegir y canlynol at y tabl o Swyddogaethau nad ydynt i fod yn Unig Gyfrifoldeb Bwrdd Awdurdod:

Cynlluniau a StrategaethauCyfeiriad
Strategaeth Iechyd a LlesiantAdran 24 o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002

(b)diddymir y cofnod “Cynllun Gwasanaethau Plant” yng Ngholofn (1) a'r cyfeiriad cysylltiedig yng Ngholofn (2).

(c)diddymir y cofnod “Cynllun Gofal Cymunedol” yng Ngholofn (1) a'r cyfeiriad cysylltiedig yng Ngholofn (2).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

29 Ionawr 2003

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rhan II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 yn darparu bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn pennu pa awdurdodau lleol a gaiff weithredu “trefniadau amgen” h.y. trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau awdurdod nad ydynt yn golygu creu a gweithredu gweithrediaeth yn unol ag adran 31(1)(b) ac adran 32(1).

Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001 yn caniatáu i bob cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru weithredu trefniadau amgen ar yr amod bod y trefniadau hynny ar y ffurf y mae'r Rheoliadau hynny yn gofyn amdani.

Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001 yn pennu hefyd pa swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldebau Bwrdd yr awdurdod neu pa swyddogaethau a fyddant yn gyfrifoldeb Bwrdd o'r fath i raddau cyfyngedig yn unig neu o dan amgylchiadau penodedig yn unig.

Mae paragraffau (1) i (3) o Reoliad 10 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001 yn dyrannu'r cyfrifoldeb dros amrywiol agweddau ar swyddogaethau sy'n ymwneud â llunio a pharatoi cynlluniau a strategaethau, o'r disgrifiadau a bennir yn Atodlen 3, rhwng awdurdod a'i Fwrdd.

Mae Adran 24 o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 yn darparu ei bod yn un o ddyletswyddau awdurdodau lleol yng Nghymru i lunio a gweithredu ar y cyd strategaeth, a elwir “strategaeth iechyd a llesiant”, ar gyfer iechyd a llesiant aelodau o'r cyhoedd yn ardal pob awdurdod lleol.

Er mwyn sicrhau bod yr awdurdod lleol yn ymgymryd â'r cyfrifoldeb dros fabwysiadu strategaeth iechyd a llesiant a bod y cyfrifoldeb hwnnw yn swyddogaeth sy'n cael ei gategoreiddio fel un nad yw'n unig gyfrifoldeb Bwrdd Awdurdod, mae Atodlen 3 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001 wedi'i hatodi o ganlyniad i hynny. Mae Rheoliad 2 yn gwneud diwygiad i Atodlen 3 i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001. Mae'r diwygiad hwn yn sicrhau bod y cyfrifoldeb dros fabwysiadu strategaeth iechyd a llesiant yn swyddogaeth na chaniateir iddi fod yn unig gyfrifoldeb Bwrdd Awdurdod.

Yn ychwanegol, mae'r cyfrifoldebau dros fabwysiadu Cynllun Gwasanaethau Plant a Chynllun Gofal Cymunedol yn cael eu dileu o Atodlen 3 i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001.

(2)

2001 Rhif 2284 (Cy.173) fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Cynrychiolwyr Rhiant-lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysi (Cymru) 2001 Rhif 3711 (Cy.307) a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Diwygio) (Cymru) 2002 Rhif 810 (Cy.90).