Search Legislation

Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi), Porthiant (Gorfodi) a Phorthiant (Sefydliadau a Chyfryngwyr) (Diwygio) (Cymru) 2003

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn diwygio Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999 (O.S. 1999/1663, fel y'u diwygiwyd eisoes), Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999 (O.S. 1999/2325, fel y'u diwygiwyd eisoes) a Rheoliadau Porthiant (Sefydliadau a Chyfryngwyr) 1999 (O.S. 1999/1872, fel y'u diwygiwyd eisoes) i'r graddau y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/70/EC sy'n gosod gofynion ar gyfer penderfynu lefelau diocsinau a biffenylau polyclorinedig (PCBs) tebyg i ddiocsinau mewn porthiant (OJ Rhif L209, 6.8.2002, t.15).

3.  Mae'r Rheoliadau —

(a)yn diwygio Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999 (“Rheoliadau 1999”) drwy wneud y canlynol—

(i)mewnosod yn rheoliad 1(2) ddiffiniad o'r term “Directive 2002/70/EC” (rheoliad 3),

(ii)yn lle'r hen reoliad 3 rhoi rheoliad 3 diwygiedig sy'n gwneud y gofynion o ran y modd rhagnodedig o gymryd a thrafod samplau, gofynion a oedd gynt yn gymwys i samplau porthiant yn unig, yn gymwys hefyd i ddeunyddiau bwyd i'w samplu yn unol â Chyfarwyddeb 2002/70/EC ac yn dileu'r cyfeiriad at baragraff 10 o Ran II o Atodlen 1 i Reoliadau 1999 (rheoliad 4),

(iii)diwygio rheoliad 6 fel ei fod bellach yn cynnwys darpariaethau sydd, o'u darllen ynghyd â darpariaethau a ychwanegwyd gan y Rheoliadau at Atodlen 2 i Reoliadau 1999, yn pennu'r dull dadansoddi sydd i'w ddefnyddio i benderfynu a yw diocsinau a PCBs tebyg i ddiocsinau yn bresennol neu'n actif mewn sampl o borthiant neu ddeunydd bwyd sydd i'w ddadansoddi yn unol â Chyfarwyddeb 2002/70/EC (ac os felly faint neu ba gyfran ohono) ac yn cymhwyso i'r penderfyniad hwnnw ddarpariaethau penodedig yn Rhan I o Atodlen 2 i Reoliadau 1999 (rheoliadau 5 a 7), a

(iv)addasu Rhan IV o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 (1970 p.40, “Deddf 1970”) yn y fath fodd ag i ddarparu, er mwyn penderfynu a yw diocsinau a PCBs tebyg i ddiocsinau yn bresennol neu'n actif mewn sampl o borthiant neu ddeunydd bwyd sydd i'w ddadansoddi yn unol â Chyfarwyddeb 2002/70/EC (ac os felly faint neu ba gyfran ohono), fod y sampl i'w gyflwyno i labordy sy'n bodloni gofynion penodedig y Gyfarwyddeb honno ac i'w ddadansoddi gan y labordy hwnnw; a chymhwyso i'r penderfyniad hwnnw ddarpariaethau penodedig yn Rhannau I a II o Atodlen 3 i Reoliadau 1999 (rheoliad 6), a

(b)yn diwygio Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999 drwy —

(i)addasu rheoliad 7 yn y fath fodd ag i'w ddatgymhwyso mewn perthynas â rheoliadau 11 ac 11A a sicrhau na fyddai'n dod yn gymwys i'r rheoliad 11B newydd (rheoliad 9);

(ii)gwneud diwygiadau canlyniadol i'r Rheoliadau hynny (rheoliadau 10 ac 11(a) a (b));

(iii)darparu bod samplau sydd wedi'u cymryd yn unol ag adran 76 o Ddeddf 1970 (fel y'i addaswyd at ddibenion y Rheoliadau hynny) i'w hystyried yn samplau sydd wedi'u cymryd yn y modd rhagnodedig at ddibenion Rhan IV o'r Ddeddf honno (rheoliad 11(c));

(iv)addasu ymhellach adran 76(9) o Ddeddf 1970 fel y'i haddaswyd at ddibenion y Rheoliadau hynny drwy fewnosod ynddi gyfeiriad at adran 76(10) fel y'i haddaswyd felly (rheoliad 11 (ch));

(v)rhoi rheoliadau diwygiedig 11 ac 11A (sy'n ymwneud â dadansoddi at ddibenion adrannau 77(4) a 78(6) o Ddeddf 1970) yn lle'r hen reoliadau 11 ac 11A, a'r cyntaf o'r rhain yn cael ei ddiwygio i gynnwys cyfeiriad at ddeunyddiau bwyd y mae Atodiad II i Gyfarwyddeb y Comisiwn 2002/70/EC yn gymwys iddynt a'r ail yn cael ei ailddeddfu gyda gwelliannau drafftio (rheoliad 12); a

(vi)mewnosod rheoliad 11B newydd, sy'n pennu o dan ba amgylchiadau, at ddibenion gorfodi Rheoliadau Porthiant (Cymru) 2001 y mae dadansoddi mewn perthynas â samplau o ddeunyddiau bwyd y mae Atodiad II i Gyfarwyddeb 2002/70/EC yn gymwys iddynt i'w drin fel dadansoddi sydd wedi'i gyflawni yn y modd penodedig at ddibenion adrannau 74(4) a 78(6) o ddeddf 1970 (rheoliad 12); ac

(c)yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Porthiant (Sefydliadau a Chyfryngwyr) 1999 (rheoliadau 14 i 17).

4.  Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn ac mae copi wedi'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â nodyn trosi sy'n nodi sut mae prif elfennau Cyfarwyddeb 2002/70/EC yn cael eu trosi i'r gyfraith ddomestig drwy'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth Uned Bwyd Anifeiliaid yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House, Caerdydd CF10 1EN.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources