(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn diwygio Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999 (O.S. 1999/1663, fel y'u diwygiwyd eisoes), Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999 (O.S. 1999/2325, fel y'u diwygiwyd eisoes) a Rheoliadau Porthiant (Sefydliadau a Chyfryngwyr) 1999 (O.S. 1999/1872, fel y'u diwygiwyd eisoes) i'r graddau y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/70/EC sy'n gosod gofynion ar gyfer penderfynu lefelau diocsinau a biffenylau polyclorinedig (PCBs) tebyg i ddiocsinau mewn porthiant (OJ Rhif L209, 6.8.2002, t.15).
3
Mae'r Rheoliadau —
a
yn diwygio Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999 (“Rheoliadau 1999”) drwy wneud y canlynol—
i
mewnosod yn rheoliad 1(2) ddiffiniad o'r term “Directive 2002/70/EC” (rheoliad 3),
ii
yn lle'r hen reoliad 3 rhoi rheoliad 3 diwygiedig sy'n gwneud y gofynion o ran y modd rhagnodedig o gymryd a thrafod samplau, gofynion a oedd gynt yn gymwys i samplau porthiant yn unig, yn gymwys hefyd i ddeunyddiau bwyd i'w samplu yn unol â Chyfarwyddeb 2002/70/EC ac yn dileu'r cyfeiriad at baragraff 10 o Ran II o Atodlen 1 i Reoliadau 1999 (rheoliad 4),
iii
diwygio rheoliad 6 fel ei fod bellach yn cynnwys darpariaethau sydd, o'u darllen ynghyd â darpariaethau a ychwanegwyd gan y Rheoliadau at Atodlen 2 i Reoliadau 1999, yn pennu'r dull dadansoddi sydd i'w ddefnyddio i benderfynu a yw diocsinau a PCBs tebyg i ddiocsinau yn bresennol neu'n actif mewn sampl o borthiant neu ddeunydd bwyd sydd i'w ddadansoddi yn unol â Chyfarwyddeb 2002/70/EC (ac os felly faint neu ba gyfran ohono) ac yn cymhwyso i'r penderfyniad hwnnw ddarpariaethau penodedig yn Rhan I o Atodlen 2 i Reoliadau 1999 (rheoliadau 5 a 7), a
iv
addasu Rhan IV o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 (1970 p.40, “Deddf 1970”) yn y fath fodd ag i ddarparu, er mwyn penderfynu a yw diocsinau a PCBs tebyg i ddiocsinau yn bresennol neu'n actif mewn sampl o borthiant neu ddeunydd bwyd sydd i'w ddadansoddi yn unol â Chyfarwyddeb 2002/70/EC (ac os felly faint neu ba gyfran ohono), fod y sampl i'w gyflwyno i labordy sy'n bodloni gofynion penodedig y Gyfarwyddeb honno ac i'w ddadansoddi gan y labordy hwnnw; a chymhwyso i'r penderfyniad hwnnw ddarpariaethau penodedig yn Rhannau I a II o Atodlen 3 i Reoliadau 1999 (rheoliad 6), a
b
yn diwygio Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999 drwy —
i
addasu rheoliad 7 yn y fath fodd ag i'w ddatgymhwyso mewn perthynas â rheoliadau 11 ac 11A a sicrhau na fyddai'n dod yn gymwys i'r rheoliad 11B newydd (rheoliad 9);
ii
gwneud diwygiadau canlyniadol i'r Rheoliadau hynny (rheoliadau 10 ac 11(a) a (b));
iii
darparu bod samplau sydd wedi'u cymryd yn unol ag adran 76 o Ddeddf 1970 (fel y'i addaswyd at ddibenion y Rheoliadau hynny) i'w hystyried yn samplau sydd wedi'u cymryd yn y modd rhagnodedig at ddibenion Rhan IV o'r Ddeddf honno (rheoliad 11(c));
iv
addasu ymhellach adran 76(9) o Ddeddf 1970 fel y'i haddaswyd at ddibenion y Rheoliadau hynny drwy fewnosod ynddi gyfeiriad at adran 76(10) fel y'i haddaswyd felly (rheoliad 11 (ch));
v
rhoi rheoliadau diwygiedig 11 ac 11A (sy'n ymwneud â dadansoddi at ddibenion adrannau 77(4) a 78(6) o Ddeddf 1970) yn lle'r hen reoliadau 11 ac 11A, a'r cyntaf o'r rhain yn cael ei ddiwygio i gynnwys cyfeiriad at ddeunyddiau bwyd y mae Atodiad II i Gyfarwyddeb y Comisiwn 2002/70/EC yn gymwys iddynt a'r ail yn cael ei ailddeddfu gyda gwelliannau drafftio (rheoliad 12); a
vi
mewnosod rheoliad 11B newydd, sy'n pennu o dan ba amgylchiadau, at ddibenion gorfodi Rheoliadau Porthiant (Cymru) 2001 y mae dadansoddi mewn perthynas â samplau o ddeunyddiau bwyd y mae Atodiad II i Gyfarwyddeb 2002/70/EC yn gymwys iddynt i'w drin fel dadansoddi sydd wedi'i gyflawni yn y modd penodedig at ddibenion adrannau 74(4) a 78(6) o ddeddf 1970 (rheoliad 12); ac
c
yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Porthiant (Sefydliadau a Chyfryngwyr) 1999 (rheoliadau 14 i 17).
4
Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn ac mae copi wedi'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â nodyn trosi sy'n nodi sut mae prif elfennau Cyfarwyddeb 2002/70/EC yn cael eu trosi i'r gyfraith ddomestig drwy'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth Uned Bwyd Anifeiliaid yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House, Caerdydd CF10 1EN.