- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn, sydd yn gymwys i Gymru yn unig, yn diwygio ymhellach Reoliadau Melysyddion mewn Bwyd 1995 (O.S. 1995/3123, fel y'u diwygiwyd eisoes) (“Rheoliadau 1995”), sy'n ymestyn i Brydain Fawr, drwy—
(a)rhoi awdurdod i farchnata a defnyddio halwyn aspartame-acesulfame fel melysydd, fel y caniateir gan Erthygl 5 o Gyfarwyddeb 89/107/EEC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud ag ychwanegion bwyd a awdurdodir i'w defnyddio mewn bwydydd a fwriadwyd ar gyfer eu bwyta gan bobl (OJ Rhif L40, 11.2.89, t.27). Mae Erthygl 5 yn caniatáu i Aelod-wladwriaethau awdurdodi marchnata a defnyddio melysyddion y tu mewn i'w tiriogaethau eu hunain, tra disgwylir eu cynnwys yng Nghyfarwyddeb 94/35/EC ar felysyddion i'w defnyddio mewn bwydydd (OJ Rhif L237, 10.9.94, t.3, fel y'i diwygiwyd) (rheoliadau 2(2) a (5));
(b)egluro ystyr “maximum usable dose” fel y'i defnyddir mewn perthynas ag asid cylchamig a'i halwynau Na a Ca a sacarin a'i halwynau Na, K a Ca (rheoliad 2(3));
(c)cywiro gwall drafftio yn rheoliad 3(3) o Reoliadau 1995 (rheoliad 2(4)); ac
(ch)diweddaru cyfeiriadau at Reoliadau 1995 mewn Rheoliadau eraill i adlewyrchu'r diwygiadau a wnaed i Reoliadau 1995 drwy'r Rheoliadau hyn (rheoliad 5).
2. Gellir cael copïau o'r dogfennau y cyfeirir atynt yn y diffiniad newydd o “permitted sweeteners” a amnewidir gan reoliad 2(2), o'r Llyfrfa (TSO), Blwch SP 29, St Crispins House, Norwich NR3 1PD. Fel arall gellir cael copïau o'r we yn www.tso.com .
3. Nid oes arfarniad rheoliadol wedi ei baratoi ynglyn â'r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: