2003 Rhif 1713 (Cy.181)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1)(a) ac (e), 17(1), 26(1) a (3), a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901 a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi, sydd bellach wedi eu breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru2, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymgynghori yn unol â gofynion Erthygl 9 o Reoliad (CE) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, yn pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith fwyd, yn sefydlu'r Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewropeaidd a phennu gweithdrefnau ynglyn â materion diogelwch bwyd3 ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2003, deuant i rym ar 23 Gorffennaf a byddant yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd 19952

1

Diwygir Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd 19954), i'r graddau eu bod yn gymwys i Gymru, yn unol â pharagraffau canlynol y Rheoliadau hyn.

2

Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli), yn lle'r diffiniad o “permitted sweetener”, rhoddir y diffiniad canlynol—

  • “permitted sweetener” means the sweetener salt of aspartame-acesulfame so far as it satisfies the purity criteria for it set out at pages 19 to 21 of the Food and Agriculture Organisation’s Compendium of Food Additives Specifications Addendum 8 (2000) FAO Food and Nutrition Paper 52 Addendum 8 and any sweetener specified in column 2 of Schedule 1 which satisfies the specific purity criteria for that sweetener set out —

    1. a

      in the case of sucralose, at pages 119 to 124 of the Food and Agriculture Organisation’s Compendium of Food Additives Specifications Addendum 2 (1993) FAO Food and Nutrition Paper 52 Addendum 2; and

    2. b

      in the case of any sweetener other than sucralose, in the Annex to Directive 95/31/EC5.

3

Rhoddir yr is-baragraff canlynol yn lle is-baragraff (c) o reoliad 2(3) —

c

in column 4, the maximum usable dose indicated in relation to a food is —

i

in the case of all permitted sweeteners except cyclamic acid and its Na and Ca salts, saccharin and its Na, K and Ca salts and salt of aspartame-acesulfame, the maximum amount, in milligrams, of permitted sweeteners per kilogram or, as the case may be, per litre of that food which is ready to eat having been prepared according to any instructions for use,

ii

in the case of cyclamic acid and its Na and Ca salts and saccharin and its Na, K and Ca salts, the maximum amount of free acid contained in the cyclamic acid and its Na and Ca salts or, as the case may be saccharin, and its Na, K and Ca salts present in that food which is ready to eat having been prepared according to any instructions for use, measured in milligrams per kilogram or, as the case may be, per litre of the food.

4

Ym mharagraff (3) o reoliad 3 (gwerthu a defnyddio melysyddion) rhoddir yr ymadrodd “paragraphs (4) and (5)” yn lle'r ymadrodd “paragraph (4)”.

5

Mewnosodir y paragraff canlynol yn union ar ôl paragraff (4) o reoliad 3 —

5

The prohibition on using aspartame and acesulfame K in or on any food which is imposed by virtue of paragraph (3) above shall apply equally in relation to the use of salt of aspartame-acesulfame in or on that food.

Diwygiadau Canlyniadol3

1

Bydd paragraff (2) o reoliad 3 (diwygiadau canlyniadol) o Reoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 20026 yn peidio â bod yn effeithiol.

2

Yn y darpariaethau a bennir ym mharagraff (3), i'r graddau eu bod yn gymwys i Gymru, dehonglir cyfeiriadau at Reoliadau Melysyddion mewn Bwyd 1995 fel cyfeiriadau at y Rheoliadau hynny fel y'u digwygiwyd hyd at, a chan gynnwys, y diwygiadau y mae'r Rheoliadau hyn yn eu gwneud yn effeithiol.

3

Dyma'r darpariaethau—

a

diffiniad “permitted sweetener” ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Jam a Chynhyrchion Tebyg 19817;

b

diffiniad “additive” ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Cynhyrchion Cig a Chynhyrchion Pysgod Taenadwy 19848;

c

diffiniad “sweetener” yn Rhan II o Atodlen 1 (categorïau o ychwanegion bwyd) i Reoliadau Labelu Ychwanegion Bwyd 19929);

ch

diffiniad “sweetener” ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 199510; a

d

yn Rheoliadau Labelu Bwyd 199611)—

i

paragraff (1) o reoliad 34 (bwydydd sy'n cynnwys melysyddion, siwgr a melysyddion wedi eu hychwanegu, aspartame neu polyols), a

ii

yn Atodlen 8 (disgrifiadau camarweiniol), Rhan I (cyffredinol), yr amod yng ngholofn 2 gyferbyn â disgrifiad “ice cream” yng ngholofn 1.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 199812

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1

Mae'r Rheoliadau hyn, sydd yn gymwys i Gymru yn unig, yn diwygio ymhellach Reoliadau Melysyddion mewn Bwyd 1995 (O.S. 1995/3123, fel y'u diwygiwyd eisoes) (“Rheoliadau 1995”), sy'n ymestyn i Brydain Fawr, drwy—

a

rhoi awdurdod i farchnata a defnyddio halwyn aspartame-acesulfame fel melysydd, fel y caniateir gan Erthygl 5 o Gyfarwyddeb 89/107/EEC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud ag ychwanegion bwyd a awdurdodir i'w defnyddio mewn bwydydd a fwriadwyd ar gyfer eu bwyta gan bobl (OJ Rhif L40, 11.2.89, t.27). Mae Erthygl 5 yn caniatáu i Aelod-wladwriaethau awdurdodi marchnata a defnyddio melysyddion y tu mewn i'w tiriogaethau eu hunain, tra disgwylir eu cynnwys yng Nghyfarwyddeb 94/35/EC ar felysyddion i'w defnyddio mewn bwydydd (OJ Rhif L237, 10.9.94, t.3, fel y'i diwygiwyd) (rheoliadau 2(2) a (5));

b

egluro ystyr “maximum usable dose” fel y'i defnyddir mewn perthynas ag asid cylchamig a'i halwynau Na a Ca a sacarin a'i halwynau Na, K a Ca (rheoliad 2(3));

c

cywiro gwall drafftio yn rheoliad 3(3) o Reoliadau 1995 (rheoliad 2(4)); ac

ch

diweddaru cyfeiriadau at Reoliadau 1995 mewn Rheoliadau eraill i adlewyrchu'r diwygiadau a wnaed i Reoliadau 1995 drwy'r Rheoliadau hyn (rheoliad 5).

2

Gellir cael copïau o'r dogfennau y cyfeirir atynt yn y diffiniad newydd o “permitted sweeteners” a amnewidir gan reoliad 2(2), o'r Llyfrfa (TSO), Blwch SP 29, St Crispins House, Norwich NR3 1PD. Fel arall gellir cael copïau o'r we yn www.tso.com .

3

Nid oes arfarniad rheoliadol wedi ei baratoi ynglyn â'r Rheoliadau hyn.