Search Legislation

Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2003

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 1713 (Cy.181)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

8 Gorffennaf 2003

Yn dod i rym

23 Gorffennaff 2003

Drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1)(a) ac (e), 17(1), 26(1) a (3), a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi, sydd bellach wedi eu breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymgynghori yn unol â gofynion Erthygl 9 o Reoliad (CE) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, yn pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith fwyd, yn sefydlu'r Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewropeaidd a phennu gweithdrefnau ynglyn â materion diogelwch bwyd(3) ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2003, deuant i rym ar 23 Gorffennaf a byddant yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd 1995

2.—(1Diwygir Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd 1995(4)), i'r graddau eu bod yn gymwys i Gymru, yn unol â pharagraffau canlynol y Rheoliadau hyn.

(2Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli), yn lle'r diffiniad o “permitted sweetener”, rhoddir y diffiniad canlynol—

“permitted sweetener” means the sweetener salt of aspartame-acesulfame so far as it satisfies the purity criteria for it set out at pages 19 to 21 of the Food and Agriculture Organisation’s Compendium of Food Additives Specifications Addendum 8 (2000) FAO Food and Nutrition Paper 52 Addendum 8 and any sweetener specified in column 2 of Schedule 1 which satisfies the specific purity criteria for that sweetener set out —

(a)

in the case of sucralose, at pages 119 to 124 of the Food and Agriculture Organisation’s Compendium of Food Additives Specifications Addendum 2 (1993) FAO Food and Nutrition Paper 52 Addendum 2; and

(b)

in the case of any sweetener other than sucralose, in the Annex to Directive 95/31/EC(5).

(3Rhoddir yr is-baragraff canlynol yn lle is-baragraff (c) o reoliad 2(3) —

(c)in column 4, the maximum usable dose indicated in relation to a food is —

(i)in the case of all permitted sweeteners except cyclamic acid and its Na and Ca salts, saccharin and its Na, K and Ca salts and salt of aspartame-acesulfame, the maximum amount, in milligrams, of permitted sweeteners per kilogram or, as the case may be, per litre of that food which is ready to eat having been prepared according to any instructions for use,

(ii)in the case of cyclamic acid and its Na and Ca salts and saccharin and its Na, K and Ca salts, the maximum amount of free acid contained in the cyclamic acid and its Na and Ca salts or, as the case may be saccharin, and its Na, K and Ca salts present in that food which is ready to eat having been prepared according to any instructions for use, measured in milligrams per kilogram or, as the case may be, per litre of the food..

(4Ym mharagraff (3) o reoliad 3 (gwerthu a defnyddio melysyddion) rhoddir yr ymadrodd “paragraphs (4) and (5)” yn lle'r ymadrodd “paragraph (4)”.

(5Mewnosodir y paragraff canlynol yn union ar ôl paragraff (4) o reoliad 3 —

(5) The prohibition on using aspartame and acesulfame K in or on any food which is imposed by virtue of paragraph (3) above shall apply equally in relation to the use of salt of aspartame-acesulfame in or on that food..

Diwygiadau Canlyniadol

3.—(1Bydd paragraff (2) o reoliad 3 (diwygiadau canlyniadol) o Reoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2002(6) yn peidio â bod yn effeithiol.

(2Yn y darpariaethau a bennir ym mharagraff (3), i'r graddau eu bod yn gymwys i Gymru, dehonglir cyfeiriadau at Reoliadau Melysyddion mewn Bwyd 1995 fel cyfeiriadau at y Rheoliadau hynny fel y'u digwygiwyd hyd at, a chan gynnwys, y diwygiadau y mae'r Rheoliadau hyn yn eu gwneud yn effeithiol.

(3Dyma'r darpariaethau—

(a)diffiniad “permitted sweetener” ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Jam a Chynhyrchion Tebyg 1981(7);

(b)diffiniad “additive” ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Cynhyrchion Cig a Chynhyrchion Pysgod Taenadwy 1984(8);

(c)diffiniad “sweetener” yn Rhan II o Atodlen 1 (categorïau o ychwanegion bwyd) i Reoliadau Labelu Ychwanegion Bwyd 1992(9));

(ch)diffiniad “sweetener” ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995(10); a

(d)yn Rheoliadau Labelu Bwyd 1996(11))—

(i)paragraff (1) o reoliad 34 (bwydydd sy'n cynnwys melysyddion, siwgr a melysyddion wedi eu hychwanegu, aspartame neu polyols), a

(ii)yn Atodlen 8 (disgrifiadau camarweiniol), Rhan I (cyffredinol), yr amod yng ngholofn 2 gyferbyn â disgrifiad “ice cream” yng ngholofn 1.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(12)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

8 Gorffennaf 2003

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn, sydd yn gymwys i Gymru yn unig, yn diwygio ymhellach Reoliadau Melysyddion mewn Bwyd 1995 (O.S. 1995/3123, fel y'u diwygiwyd eisoes) (“Rheoliadau 1995”), sy'n ymestyn i Brydain Fawr, drwy—

(a)rhoi awdurdod i farchnata a defnyddio halwyn aspartame-acesulfame fel melysydd, fel y caniateir gan Erthygl 5 o Gyfarwyddeb 89/107/EEC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud ag ychwanegion bwyd a awdurdodir i'w defnyddio mewn bwydydd a fwriadwyd ar gyfer eu bwyta gan bobl (OJ Rhif L40, 11.2.89, t.27). Mae Erthygl 5 yn caniatáu i Aelod-wladwriaethau awdurdodi marchnata a defnyddio melysyddion y tu mewn i'w tiriogaethau eu hunain, tra disgwylir eu cynnwys yng Nghyfarwyddeb 94/35/EC ar felysyddion i'w defnyddio mewn bwydydd (OJ Rhif L237, 10.9.94, t.3, fel y'i diwygiwyd) (rheoliadau 2(2) a (5));

(b)egluro ystyr “maximum usable dose” fel y'i defnyddir mewn perthynas ag asid cylchamig a'i halwynau Na a Ca a sacarin a'i halwynau Na, K a Ca (rheoliad 2(3));

(c)cywiro gwall drafftio yn rheoliad 3(3) o Reoliadau 1995 (rheoliad 2(4)); ac

(ch)diweddaru cyfeiriadau at Reoliadau 1995 mewn Rheoliadau eraill i adlewyrchu'r diwygiadau a wnaed i Reoliadau 1995 drwy'r Rheoliadau hyn (rheoliad 5).

2.  Gellir cael copïau o'r dogfennau y cyfeirir atynt yn y diffiniad newydd o “permitted sweeteners” a amnewidir gan reoliad 2(2), o'r Llyfrfa (TSO), Blwch SP 29, St Crispins House, Norwich NR3 1PD. Fel arall gellir cael copïau o'r we yn www.tso.com .

3.  Nid oes arfarniad rheoliadol wedi ei baratoi ynglyn â'r Rheoliadau hyn.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd yn arferadwy gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau eu bod yn arferadwy yng Nghymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.

(5)

OJ Rhif L178, 28.7.95, t.1, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb 1998/66/EC (OJ Rhif L257, 19.9.98, t.35), Cyfarwyddeb 2000/51/EC (OJ Rhif L198, 4.8.2000, t.41) a Chyfarwyddeb 2001/52/EC (OJ Rhif L190, 12.7.2001, t.18).

(7)

O.S. 1981/1063; O.S. 1983/1211 ac O.S. 1995/3123 yw'r offerynnau diwygio perthnasol.

(8)

O.S. 1984/1566; O.S. 1995/3123, O.S. 1995/3124 ac O.S. 1995/3187 yw'r offerynnau diwygio perthnasol.

(9)

O.S. 1992/1978; O.S. 1995/3123 yw'r offeryn diwygio perthnasol.

(10)

O.S. 1995/3187, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r heoliadau hyn.

(11)

O.S. 1996/1499, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(12)

1998 p.38.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources