2003 Rhif 1715 (Cy.183)

TRETH GYNGOR, CYMRU

Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 14(3) a 113(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19921 a pharagraffau 1, 2, 3 ac 8 o Atodiad 4 iddi ac a freinir yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru2 drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi a chychwyn1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 10 Gorffennaf 2003.

Cymhwyso a Dehongli2

1

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

2

Yn y Rheoliadau hyn ystyr y “Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 19923

Diwygio'r Prif Reoliadau3

Diwygir y Prif Reoliadau fel a ganlyn —

a

yn rheoliad 35(1) hepgorir —

i

“(in which case the order shall be in the form specified as Form A in Schedule 2, or a form to the like effect),”; a

ii

“(in which case the order shall be in the form specified as Form B in that Schedule, or a form to the like effect)”;

b

yn rheoliad 48(1) hepgorir “, and shall be in the form specified as Form C in Schedule 2, or in a form to the like effect”; a

c

hepgorir Atodlen 2.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984

D.Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992 (fel y'u diwygiwyd) (y “Rheoliadau”) yn rhagnodi'r pwerau y caiff awdurdodau lleol eu defnyddio i gasglu ac adennill treth gyngor. Yn benodol, mae rheoliadau 35(1) a 48(1) o'r Rheoliadau ac Atodlen 2 iddynt yn rhagnodi'r ffurflenni Gorchymyn Dyled a Gwarant Traddodi y mae'n rhaid i Lysoedd Ynadon eu defnyddio yn dilyn ceisiadau iddynt gan awdurdodau lleol ar gyfer gorchmynion neu warantau o'r fath.

Mae Adran yr Arglwydd Ganghellor yn ddiweddar wedi gwneud arolwg o'r ffurflenni a ddefnyddir mewn Llysoedd Ynadon ac maent yn awr yn dymuno defnyddio set newydd o ffurflenni sydd i gyd i fod yn gyson o ran eu harddull. Fel rhan o'r broses hon, mae'n angenrheidiol anghymhwyso'r ffurf ar Orchymyn Dyled a Gwarant Traddodi a grybwyllir uchod.

Mae'r Rheoliadau hyn yn dileu'r gofyniad ei bod yn rhaid i Lysoedd Ynadon ddefnyddio'r ffurf ar Orchymyn Dyled a Gwarant Traddodi penodedig neu ffurf sydd ag effeith tebyg mewn cysylltiad â chasglu ac adennill treth cyngor.