Offerynnau Statudol Cymru
BWYD, CYMRU
Wedi'u gwneud
9 Gorffennaf 2003
Yn dod i rym
1 Awst 2005
Drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(a) ac (e), 17(1), 26(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1), ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol â gofynion Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 o Senedd Ewrop a'r Cyngor(3) yn pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu'r Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewropeaidd ac yn pennu gweithdrefnau ynglyn â materion diogelwch bwyd ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2003; deuant i rym ar 1 Awst 2005 ac maent yn gymwys i Gymru yn unig.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “Cyfarwyddeb 2002/46” (“Directive 2002/46”) yw Cyfarwyddeb 2002/46/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor(4)) ar gyd-ddynesu cyfreithiau Aelod-wladwriaethau mewn perthynas ag ychwanegion bwyd;
ystyr “defnyddiwr olaf” (“ultimate consumer”) yw unrhyw berson sy'n prynu ac eithrio —
at ddibenion ailwerthu;
at ddibenion sefydliad arlwyo; neu
at ddibenion busnes gweithgynhyrchu;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr “ffurf dogn” (“dose form”) yw ffurf megis capsiwlau, pastiliau, tabledi, pils, a ffurfiau tebyg eraill, sachets powdr, ampylau hylifau, poteli sy'n dosbarthu diferion, a ffurfiau tebyg eraill ar hylifau neu bowdrau sydd wedi'u dylunio i gael eu cymryd mewn meintiau unedol bach sydd wedi'u mesur;
mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys meddu gyda'r bwriad o werthu a chynnig, amlygu neu hysbysebu gyda'r bwriad o werthu;
mae “paratoi” (“preparation”) yn cynnwys gweithgynhyrchu ac unrhyw ffurf ar brosesu neu drin;
ystyr “sefydliad arlwyo” (“catering establishment”) yw bwyty, ffreutur, clwb, tafarn, ysgol, ysbyty neu sefydliad tebyg (gan gynnwys cerbyd neu stondin sefydlog neu symudol) os yw bwyd, wrth gynnal busnes, yn cael ei baratoi i'w gyflenwi i'r defnyddiwr olaf ac yn barod i'w fwyta heb baratoi pellach; ac
ystyr “ychwanegyn bwyd” (“food supplement”) yw unrhyw fwyd sydd wedi'i fwriadu i ychwanegu at ddeiet normal ac sydd —
yn ffynhonnell grynodedig o fitamin neu fwyn neu sylwedd arall ag effaith faethol neu ffisiolegol, ar ei ben ei hun neu mewn cyfuniad; a
yn cael ei werthu ar ffurf dogn.
(2) Rhaid ystyried bod ychwanegyn bwyd wedi'i ragbacio at ddibenion y Rheoliadau hyn —
(a)os yw'n barod i'w werthu i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo, a
(b)os yw wedi'i roi mewn pecyn cyn cael ei gynnig i'w werthu yn y fath fodd ag i beidio â chaniatáu newid yr ychwanegyn bwyd heb agor neu newid y pecyn.
(3) Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac ar eu ffurf Saesneg yng Nghyfarwyddeb 2002/46 yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn â'r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn y Gyfarwyddeb honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1
3.—(1) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ychwanegion bwyd sy'n cael eu gwerthu fel bwyd a'u cyflwyno fel y cyfryw.
(2) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gynhyrchion meddyginiaethol fel y'u diffinnir gan Gyfarwyddeb 2001/83/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor(5) ar god y Gymuned ynglyn â chynhyrchion meddyginiaethol i bobl eu defnyddio.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1
4. Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd i'r defnyddiwr olaf oni bai ei fod wedi'i ragbacio.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 4 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1
5.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaiff neb werthu ychwanegyn bwyd y mae fitamin neu fwyn wedi'i ddefnyddio wrth ei gynhyrchu oni bai bod y fitamin neu'r mwyn hwnnw—
(a)wedi'i restru yng ngolofn 1 o Atodlen 1; a
(b)ar ffurf sydd
(i)wedi'i rhestru yn Atodlen 2, a
(ii)yn bodloni'r meini prawf purdeb perthnasol.
(2) Y meini prawf purdeb perthnasol at ddibenion paragraff (1)(b)(ii) yw —
(a)y meini prawf purdeb, os o gwbl, a bennwyd drwy ddeddfwriaeth Gymunedol ar gyfer defnyddio'r sylwedd o dan sylw wrth gynhyrchu bwyd at ddibenion heblaw'r rhai y mae Cyfarwyddeb 2002/46 yn ymdrin â hwy; neu
(b)yn absenoldeb meini prawf purdeb o'r fath, y meini prawf purdeb sy'n dderbyniol yn gyffredinol ar gyfer y sylwedd o dan sylw ac sy'n cael eu hargymell gan gyrff rhyngwladol.
(3) Yn achos fitamin neu fwyn nad yw wedi'i restru yng ngholofn 1 o Atodlen 1 neu nad yw ar ffurf a restrir yn Atodlen 2, ni fydd y gwaharddiadau ym mharagraff (1) yn gymwys tan 1 Ionawr 2010 —
(a)os oedd y sylwedd o dan sylw yn cael ei ddefnyddio wrth gynhyrchu ychwanegyn bwyd a oedd ar werth yn y Gymuned Ewropeaidd ar 12 Gorffennaf 2002;
(b)os cafodd coflen yn cefnogi'r defnydd ar y sylwedd o dan sylw ei chyflwyno i'r Comisiwn gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd neu unrhyw Aelod-wladwriaeth arall erbyn 12 Gorffennaf 2005; ac
(c)nad yw'r Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewropeaidd wedi rhoi barn anffafriol ynglyn â defnyddio'r sylwedd hwnnw, neu ar ei ddefnyddio ar y ffurf honno wrth gynhyrchu ychwanegion bwyd.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 5 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1
6.—(1) Ni chaiff neb werthu ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo os nad yw'r enw y mae'n cael ei werthu odano yn “ychwanegyn bwyd”.
(2) Heb ragfarnu Rheoliadau Labelu Bwyd 1996(6), ni chaiff neb werthu ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo oni bai ei fod wedi'i farcio neu wedi'i labelu â'r manylion canlynol —
(a)enw categori unrhyw fitamin neu fwyn neu sylwedd arall ag effaith faethol neu ffisiolegol sy'n nodweddu'r cynnyrch neu fynegiant o natur y fitamin neu'r mwyn neu'r sylwedd arall;
(b)y gyfran o'r cynnyrch yr argymhellir ei bwyta'n ddyddiol;
(c)rhybudd i beidio â chymryd mwy na'r dogn dyddiol penodedig a argymhellir;
(ch)datganiad i'r perwyl na ddylid defnyddio ychwanegion bwyd yn lle deiet amrywiol;
(d)datganiad i'r perwyl y dylid storio'r cynnyrch y tu allan i gyrraedd plant bach; ac
(dd)faint o unrhyw fitamin neu fwyn neu sylwedd arall ag effaith faethol neu ffisiolegol sy'n bresennol yn y cynnyrch.
(3) Rhaid i'r wybodaeth sy'n ofynnol o dan baragraff (2)(dd) —
(a)cael ei rhoi ar ffurf Rhif au;
(b)cael ei rhoi yn achos fitamin neu fwyn a rhestrir yng ngholofn 1 o Atodlen 1, gael ei roi drwy ddefnyddio'r uned berthnasol a bennir yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno;
(c)datgan y swm fesul cyfran o'r cynnyrch fel yr argymhellir ei fwyta'n ddyddiol ar label y cynnyrch;
(ch)bod yn faint cyfartalog ar sail dadansoddiad y gweithgynhyrchydd o'r cynnyrch; a
(d)cael ei mynegi hefyd, yn achos fitamin neu fwyn a restrir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC(7) ar labelu maethiad ar gyfer bwydydd, fel canran (y caniateir ei rhoi hefyd ar ffurf graff) o'r lwfans dyddiol perthnasol a argymhellir ac a bennir yn yr Atodiad hwnnw.
(4) Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo os yw dull ei labelu, ei gyflwyno neu ei hysbysu yn cynnwys sôn, naill ai'n ddiamwys neu'n ymhlyg, na all deiet cytbwys ac amrywiol ddarparu meintiau priodol o fitaminau neu fwynau yn gyffredinol.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 6 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1
7.—(1) Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd sydd
(a)yn barod i'w ddanfon i'r defnyddiwr olaf, neu
(b)yn barod i'w ddanfon i sefydliad arlwyo ac wedi'i ragbacio,
os nad yw'r manylion y mae'n ofynnol ei farcio neu ei labelu â hwy o dan reoliad 6 (2) yn ymddangos —
(i)ar y pecyn;
(ii)ar label sydd ynghlwm wrth y pecyn; neu
(iii)ar label sydd i'w weld yn glir drwy'r pecyn,
ac eithrio pan werthir i unrhyw un heblaw'r defnyddiwr olaf, y caiff y manylion hyn fel arall ymddangos ar y dogfennau masnachol ynglyn â'r ychwanegyn bwyd os oes modd gwarantu bod y dogfennau hynny, sy'n cynnwys y manylion hyn i gyd, naill ai gyda'r ychwanegyn bwyd y maent yn ymwneud ag ef neu wedi cael eu hanfon cyn i'r ychwanegyn bwyd gael ei anfon, neu'r un pryd â hynny ac ar yr amod bod y manylion sy'n ofynnol o dan reoliad 5(a), (c) ac (e) o Reoliadau Labelu Bwyd 1996 wedi'u marcio neu wedi'u labelu hefyd ar y pecyn allanol y mae'r ychwanegyn bwyd hwnnw wedi'i werthu gydag ef.
(2) Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon i sefydliad arlwyo ac nad yw wedi'i ragbacio os nad yw'r manylion y mae'n ofynnol eu marcio neu eu labelu â hwy o dan reoliad 6(2) yn ymddangos —
(a)ar label sydd ynghlwm wrth yr ychwanegyn bwyd;
(b)ar docyn neu hysbysiad y mae'n hawdd i ddarpar brynwr ei ddirnad yn y man lle mae'n dewis yr ychwanegyn bwyd hwnnw; neu
(c)mewn dogfennau masnachol sy'n ymwneud â'r ychwanegyn bwyd os oes modd gwarantu bod y dogfennau yn naill ai gyda'r ychwanegyn bwyd y maent yn ymwneud ag ef neu wedi cael eu hanfon cyn hynny, neu'r un pryd ag anfon yr ychwanegyn bwyd hwnnw.
(3) Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo os nad yw'r manylion y mae'n ofynnol marcio neu labelu ychwanegyn bwyd â hwy o dan reoliad 6(2) yn hawdd i'w deall, yn hollol ddarllenadwy, yn annileadwy a, phan fydd bwyd yn cael ei werthu i'r defnyddiwr olaf, rhaid i'r manylion hynny gael eu marcio mewn man amlwg mewn ffordd sy'n eu gwneud yn hawdd i'w gweld.
(4) Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo os yw'r manylion y mae'n ofynnol marcio neu labelu'r ychwanegyn bwyd â hwy yn rhinwedd rheoliad 6(2) wedi'u cuddio neu wedi'u tywyllu mewn unrhyw ffordd neu os ymyrryd mewn unrhyw ffordd â'r manylion hynny ag unrhyw fater ysgrifenedig neu ddarluniadol arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 7 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1
8. Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 8 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1
9. Bydd unrhyw berson sy'n torri rheoliad 4, 5, 6 neu 7 yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 9 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1
10. Mewn unrhyw achosion am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn bydd yn amddiffyniad i'r person a gyhuddir i brofi —
(a)bod y bwyd a honnir bod y tramgwydd wedi'i gyflawni mewn perthynas ag ef wedi'i fwriadu i'w allforio i wlad y mae ganddi ddeddfwriaeth gyfatebol i'r Rheoliadau hyn a bod y bwyd yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth honno; a
(b)yn achos allforio i Aelod-wladwriaeth, bod y ddeddfwriaeth yn cydymffurfio â darpariaethau Cyfarwyddeb 2002/46.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Rhl. 10 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1
11. Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad y bydd unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni yn cael eu dehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —
(a)adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc.);
(b)adran 3 (rhagdybiaethau bod bwyd wedi'i fwriadu i bobl ei fwyta);
(c)adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);
(ch)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) fel y mae'n gymwys at ddibenion adrannau 8, 14 neu 15;
(d)adran 22 (amddiffyniad o gyhoeddi wrth gynnal busnes);
(dd)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(e)adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);
(f)adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofynion o'r fath a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan baragraff (e) uchod;
(ff)adran 35(1) (cosbi tramgwyddau), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan baragraff (e) uchod;
(g)adran 35(2) a (3), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan baragraff (f) uchod;
(ng)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac
(h)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
Gwybodaeth Cychwyn
I11Rhl. 11 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(8).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Gorffennaf 2003
Rheoliadau 5(1) a (3) a 6(3)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 1 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1
Colofn 1 | Colofn 2 |
---|---|
Fitaminau a mwynau | Uned |
1. Fitaminau | |
Fitamin A | μg RE |
Fitamin D | μg |
Fitamin E | mg α-TE |
Fitamin K | μg |
Fitamin B1 | mg |
Fitamin B2 | mg |
Nïasin | mg NE |
Asid Pantothenig | mg |
Fitamin B6 | mg |
Asid ffolig | μg |
Fitamin B12 | μg |
Biotin | μg |
Fitamin C | mg |
2. Mwynau | |
Calsiwm | mg |
Magnesiwm | mg |
Haearn | mg |
Copr | μg |
Ïodin | μg |
Zinc | mg |
Manganîs | mg |
Sodiwm | mg |
Potasiwm | mg |
Seleniwm | μg |
Cromiwm | μg |
Molybdenwm | μg |
Fflworid | mg |
Clorid | mg |
Ffosfforws | mg |
Rheoliad 5(1) a (3)
1. FITAMIN ALL+C
(a)retinol
(b)retinyl asetad
(c)retinyl palmitad
(ch)beta-caroten
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1
2. FITAMIN DLL+C
(a)colecalsifferol
(b)ergocalsifferol
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1
3. FITAMIN ELL+C
(a)D-alffa-tocofferol
(b)DL-alffa-tocofferol
(c)D-alffa-tocofferyl asetad
(ch)DL-alffa-tocofferyl asetad
(d)D-alffa-sycsinad asid tocofferyl
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1
4. FITAMIN KLL+C
(a)ffyllocwinon (ffytomenadion)
Gwybodaeth Cychwyn
I16Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1
5. FITAMIN B1LL+C
(a)thiamin hydroclorid
(b)thiamin mononitrad
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1
6. FITAMIN B2LL+C
(a)ribofflafin
(b)ribofflafin 5'-ffosffad, sodiwm
Gwybodaeth Cychwyn
I18Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1
7. NÏASINLL+C
(a)asid nicotinig
(b)nicotinamid
Gwybodaeth Cychwyn
I19Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1
8. ASID PANTOTHENIGLL+C
(a)D-pantothenad, calsiwm
(b)D-pantothenad, sodiwm
(c)decspanthenol
Gwybodaeth Cychwyn
I20Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1
9. FITAMIN B6LL+C
(a)pyridocsin hydroclorid
(b)pyridocsin 5'-ffosffad
Gwybodaeth Cychwyn
I21Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1
10. ASID FFOLIGLL+C
(a)asid teroylmonoglwtamig
Gwybodaeth Cychwyn
I22Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1
11. FITAMIN B12LL+C
(a)cyanocobalamin
(b)hydrocsocobalamin
Gwybodaeth Cychwyn
I23Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1
12. BIOTINLL+C
(a)D-biotin
Gwybodaeth Cychwyn
I24Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1
13. FITAMIN CLL+C
(a)L-asid asgorbig
(b)sodiwm-L-asgorbad
(c)calsiwm-L-asgorbad
(ch)potasiwm-L-asgorbad
(d)L-asgorbyl 6-palmitad
Gwybodaeth Cychwyn
I25Atod. 2 para. 13 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1
Calsiwm carbonad
Calsiwm clorid
Halwynau calsiwm asid citrig
Calsiwm glwconad
Calsiwm glyseroffosffad
Calsiwm lactad
Halwynau calsiwm asid orthoffosfforig
Calsiwm hydrocsid
Calsiwm ocsid
Magnesiwm asetad
Magnesiwm carbonad
Magnesiwm clorid
Halwynau magnesiwm asid citrig
Magnesiwm glwconad
Magnesiwm glyseroffosffad
Halwynau magnesiwm asid orthoffosfforig
Magnesiwm lactad
Magnesiwm hydrocsid
Magnesiwm ocsid
Magnesiwm sylffad
Carbonad fferrus
Citrad fferrus
amoniwm citrad ferrig
Glwconad fferrus
Ffwmarad ferrus
Sodiwm deuffosffad fferrig
Lactad ferrus
Sylffad fferrus
Deuffosffad fferrig (pyroffosffad fferrig)
Sacarad fferrig
Haearn elfennaidd (carbonyl+electrolytig+wedi'i rydwytho â hydrogen)
Carbonad cwprig
Citrad cwprig
Glwconad cwprig
Sylffad cwprig
Cymhlygyn lysîn copr
Sodiwm ïodid
Sodiwm ïodad
Potasiwm ïodid
Potasiwm ïodad
Zinc asetad
Zinc clorid
Zinc citrad
Zinc glwconad
Zinc lactad
Zinc ocsid
Zinc carbonad
Zinc sylffad
Manganîs carbonad
Manganîs clorid
Manganîs citrad
Manganîs glwconad
Manganîs glyseroffosffad
Manganîs sylffad
Sodiwm bicarbonad
Sodiwm carbonad
Sodiwm clorid
Sodiwm citrad
Sodiwm glwconad
Sodiwm lactad
Sodiwm hydrocsid
Halwynau sodiwm asid orthoffosfforig
Potasiwm bicarbonad
Potasiwm carbonad
Potasiwm clorid
Potasiwm citrad
Potasiwm glwconad
Potasiwm glyseroffosffad
Potasiwm lactad
Potasiwm hydrocsid
Halwynau potasiwm asid orthoffosfforig
Sodiwm selenad
Sodiwm hydrogen selenit
Sodiwm selenit
Cromiwm (III) clorid
Cromiwm (III) sylffad
Amoniwm molybdad (molybdenwm (VI))
Sodiwm molybdad (molybdenwm (VI))
Potasiwm fflworid
Sodiwm fflworid
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu yng Nghymru Gyfarwyddeb 2002/46/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyd-ddynesu cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau ynglyn ag ychwanegion bwyd.LL+C
2. Mae'r Rheoliadau yn ymwneud â gwerthu (fel y'i diffinnir yn rheoliad 2(1)) ychwanegion bwyd sy'n cael eu gwerthu fel bwyd a'u cyflwyno fel y cyfryw (rheoliad 3). Diffinnir ychwanegyn bwyd fel bwyd sy'n cael ei werthu ar ffurf dogn ac sydd wedi'i fwriadu i ychwanegu at ddeiet normal ac yn ffynhonnell grynodedig o fitamin neu fwyn neu sylwedd arall ag effaith faethol neu ffisiolegol, naill ai ar ei ben ei hun neu mewn cyfuniad (rheoliad 2(1)).LL+C
3. Mae'r Rheoliadau — a hynny o 1 Awst 2005 ymlaen —LL+C
(a)yn gwahardd gwerthu ychwanegyn bwyd i'r defnyddiwr olaf oni bai ei fod wedi'i ragbacio (rheoliadau 4 a 2(2)),
(b)yn gwahardd gwerthu ychwanegyn bwyd y defnyddiwyd fitamin neu fwyn wrth ei gynhyrchu, oni bai bod gofynion cyfansoddi penodol wedi'u bodloni, yn ddarostyngedig i ddarpariaeth drosiannol (rheoliad 5(3) a'r Atodlenni),
(c)yn gwahardd gwerthu ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo oni bai bod gofynion penodol ynglyn â labelu, cyflwyno a hysbysebu'r cynnyrch wedi'u bodloni (rheoliadau 6 a 7).
4. Mae Erthygl 6(2) o'r Gyfarwyddeb (sy'n dweud bod rhaid peidio â phriodoli i ychwanegion bwyd, wrth eu labelu, eu cyflwyno a'u hysbysebu, nodweddion atal, trin neu iacháu clefyd dynol, na chyfeirio at nodweddion o'r fath) eisoes wedi'i roi ar waith yn Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 (rheoliad 40(1) ac Atodlen 6, Rhan I, paragraff 2).LL+C
5. Mae'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth ynglyn â'r cyfrifoldebau ar gyfer gorfodi (rheoliad 8); yn creu tramgwyddau a chosbau (rheoliad 9) ac yn cymhwyso darpariaethau penodol yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 11). Mae'r Rheoliadau yn darparu amddiffyniad mewn perthynas ag allforion, yn unol ag Erthyglau 2 a 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/397/EEC (OJ Rhif L186, 30.6.89, t.23) ar reoli ar fwydydd yn swyddogol (rheoliad 10).LL+C
6. Mae arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn ac wedi'i adneuo yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House, Caerdydd CF10 1EW.LL+C
Trosglwyddwyd swyddogaethau yr Ysgifennydd Gwladol o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir ar y Cyd ag adran 40(3) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.
OJ Rhif L183, 12.7.2002, t.51.
OJ Rhif L311, 28.11.2001, t.67.
O.S. 1996/1499, a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/141, 1398, 2424, 1999/747, 1136, 1483, 1540, 1603, 2000/1925 (Cy.134), 2001/1232 (Cy.66), 1440 (Cy.102), 2679 (Cy.220), 3909 (Cy.321), 2002/329 (Cy.42). .
OJ Rhif L276, 6.10.90, t.40.