xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
BWYD, CYMRU
Wedi'u gwneud
9 Gorffennaf 2003
Yn dod i rym
1 Awst 2005
Drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(a) ac (e), 17(1), 26(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1), ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol â gofynion Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 o Senedd Ewrop a'r Cyngor(3) yn pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu'r Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewropeaidd ac yn pennu gweithdrefnau ynglyn â materion diogelwch bwyd ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rheoliadau wedi eu cymhwyso yn rhannol (ynghyd â addasiadau) (1.10.2023) gan The Windsor Framework (Retail Movement Scheme: Public Health, Marketing and Organic Product Standards and Miscellaneous Provisions) Regulations 2023 (O.S. 2023/959), rhlau. 1(2), 4(b), Atod. 2 (ynghyd â rhlau. 7, 8)
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2003; deuant i rym ar 1 Awst 2005 ac maent yn gymwys i Gymru yn unig.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn —
F1...
F2...
[F3ystyr “Cyfarwyddeb 2002/46” (“Directive 2002/46”) yw Cyfarwyddeb 2002/46/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud ag ychwanegion bwyd fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1170/2009 sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2002/46/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran y rhestrau o fitamin a mwynau a'r ffurfiau arnynt y caniateir eu hychwanegu at fwydydd, gan gynnwys ychwanegion bwyd;”.]
ystyr “defnyddiwr olaf” (“ultimate consumer”) yw unrhyw berson sy'n prynu ac eithrio —
at ddibenion ailwerthu;
at ddibenion sefydliad arlwyo; neu
at ddibenion busnes gweithgynhyrchu;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr “ffurf dogn” (“dose form”) yw ffurf megis capsiwlau, pastiliau, tabledi, pils, a ffurfiau tebyg eraill, sachets powdr, ampylau hylifau, poteli sy'n dosbarthu diferion, a ffurfiau tebyg eraill ar hylifau neu bowdrau sydd wedi'u dylunio i gael eu cymryd mewn meintiau unedol bach sydd wedi'u mesur;
mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys meddu gyda'r bwriad o werthu a chynnig, amlygu neu hysbysebu gyda'r bwriad o werthu;
mae “paratoi” (“preparation”) yn cynnwys gweithgynhyrchu ac unrhyw ffurf ar brosesu neu drin;
[F4ystyr “Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011” (“Regulation (EU) No 1169/2011”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, sy’n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 1924/2006 ac (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor, ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Comisiwn 87/250/EEC, Cyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/10/EC, Cyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, Cyfarwyddebau’r Comisiwn 2002/67/EC a 2008/5/EC a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 608/2004;]
ystyr “sefydliad arlwyo” (“catering establishment”) yw bwyty, ffreutur, clwb, tafarn, ysgol, ysbyty neu sefydliad tebyg (gan gynnwys cerbyd neu stondin sefydlog neu symudol) os yw bwyd, wrth gynnal busnes, yn cael ei baratoi i'w gyflenwi i'r defnyddiwr olaf ac yn barod i'w fwyta heb baratoi pellach; ac
ystyr “ychwanegyn bwyd” (“food supplement”) yw unrhyw fwyd sydd wedi'i fwriadu i ychwanegu at ddeiet normal ac sydd —
yn ffynhonnell grynodedig o fitamin neu fwyn neu sylwedd arall ag effaith faethol neu ffisiolegol, ar ei ben ei hun neu mewn cyfuniad; a
yn cael ei werthu ar ffurf dogn.
(2) Rhaid ystyried bod ychwanegyn bwyd wedi'i ragbacio at ddibenion y Rheoliadau hyn —
(a)os yw'n barod i'w werthu i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo, a
(b)os yw wedi'i roi mewn pecyn cyn cael ei gynnig i'w werthu yn y fath fodd ag i beidio â chaniatáu newid yr ychwanegyn bwyd heb agor neu newid y pecyn.
F5(3) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F5(4) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu hepgor (13.12.2014) yn rhinwedd Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2303), rhl. 1(3), Atod. 7 para. 25(a)
F2Geiriau yn rhl. 2 wedi eu hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Maethiad (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/179), rhlau. 1(2), 3(2)(a); 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)
F3Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu hamnewid (1.1.2010) gan Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Cymru) ac Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) (Diwygio) 2009 (O.S. 2009/3252), rhlau. 1, 2(2)
F4Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu mewnosod (13.12.2014) gan Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2303), rhl. 1(3), Atod. 7 para. 25(b)
F5Rhl. 2(3)(4) wedi ei hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Maethiad (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/179), rhlau. 1(2), 3(2)(b); 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1
3.—(1) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ychwanegion bwyd sy'n cael eu gwerthu fel bwyd a'u cyflwyno fel y cyfryw.
[F6(2) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gynhyrchion meddyginiaethol [F7fel y’u diffinnir gan reoliad 2(1) o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012] .]
Diwygiadau Testunol
F6Rhl. 3(2) wedi ei amnewid (1.1.2010) gan Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Cymru) ac Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) (Diwygio) 2009 (O.S. 2009/3252), rhlau. 1, 2(4)
F7Geiriau yn rhl. 3(2) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Maethiad (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/179), rhlau. 1(2), 3(3); 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1
4. Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd i'r defnyddiwr olaf oni bai ei fod wedi'i ragbacio.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 4 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1
5.—(1) F8..., ni chaiff neb werthu ychwanegyn bwyd y mae fitamin neu fwyn wedi'i ddefnyddio wrth ei gynhyrchu oni bai bod y fitamin neu'r mwyn hwnnw—
(a)wedi'i restru [F9yn [F10Atodlen 1 i Reoliadau Maethiad (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019]] ; a
(b)ar ffurf sydd
(i)wedi'i rhestru yn [F11Atodlen 2 i Reoliadau Maethiad (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019] , a
(ii)yn bodloni'r meini prawf purdeb perthnasol.
(2) Y meini prawf purdeb perthnasol at ddibenion paragraff (1)(b)(ii) yw —
[F12(a)y meini prawf purdeb, os oes rhai, a bennir yng nghyfraith yr UE a ddargedwir neu mewn rheoliadau sy’n gymwys o ran Cymru ac a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 3 o Reoliadau Maethiad (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019; neu]
(b)yn absenoldeb meini prawf purdeb o'r fath, y meini prawf purdeb sy'n dderbyniol yn gyffredinol ar gyfer y sylwedd o dan sylw ac sy'n cael eu hargymell gan gyrff rhyngwladol.
F13(3) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F8Geiriau yn rhl. 5(1) wedi eu hepgor (1.1.2010) yn rhinwedd Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Cymru) ac Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) (Diwygio) 2009 (O.S. 2009/3252), rhlau. 1, 2(5)(a)
F9Geiriau yn rhl. 5(1)(a) wedi eu hamnewid (1.1.2010) gan Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Cymru) ac Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) (Diwygio) 2009 (O.S. 2009/3252), rhlau. 1, 2(5)(b)
F10Geiriau yn rhl. 5(1)(a) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Maethiad (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/179), rhlau. 1(2), 3(4)(a)(i); 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)
F11Geiriau yn rhl. 5(1)(b)(i) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Maethiad (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/179), rhlau. 1(2), 3(4)(a)(ii); 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)
F12Rhl. 5(2)(a) wedi ei amnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Maethiad (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/179), rhlau. 1(2), 3(4)(b); 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)
F13Rhl. 5(3) wedi ei hepgor (1.1.2010) yn rhinwedd Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Cymru) ac Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) (Diwygio) 2009 (O.S. 2009/3252), rhlau. 1, 2(5)(d)
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 5 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1
6.—(1) Ni chaiff neb werthu ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo os nad yw'r enw y mae'n cael ei werthu odano yn “ychwanegyn bwyd”.
(2) Heb ragfarnu [F14Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011], ni chaiff neb werthu ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo oni bai ei fod wedi'i farcio neu wedi'i labelu â'r manylion canlynol —
(a)enw categori unrhyw fitamin neu fwyn neu sylwedd arall ag effaith faethol neu ffisiolegol sy'n nodweddu'r cynnyrch neu fynegiant o natur y fitamin neu'r mwyn neu'r sylwedd arall;
(b)y gyfran o'r cynnyrch yr argymhellir ei bwyta'n ddyddiol;
(c)rhybudd i beidio â chymryd mwy na'r dogn dyddiol penodedig a argymhellir;
(ch)datganiad i'r perwyl na ddylid defnyddio ychwanegion bwyd yn lle deiet amrywiol;
(d)datganiad i'r perwyl y dylid storio'r cynnyrch y tu allan i gyrraedd plant bach; ac
(dd)faint o unrhyw fitamin neu fwyn neu sylwedd arall ag effaith faethol neu ffisiolegol sy'n bresennol yn y cynnyrch.
(3) Rhaid i'r wybodaeth sy'n ofynnol o dan baragraff (2)(dd) —
(a)cael ei rhoi ar ffurf Rhif au;
[F15(b)cael ei rhoi, yn achos fitamin neu fwyn a restrir yn [F16Atodlen 1 i Reoliadau Maethiad (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019] , drwy ddefnyddio'r uned berthnasol a bennir mewn cromfachau ar ôl enw'r fitamin neu'r mwyn hwnnw;]
(c)datgan y swm fesul cyfran o'r cynnyrch fel yr argymhellir ei fwyta'n ddyddiol ar label y cynnyrch;
(ch)bod yn faint cyfartalog ar sail dadansoddiad y gweithgynhyrchydd o'r cynnyrch; a
[F17(d)cael ei mynegi hefyd, yn achos fitamin neu fwyn a restrir [F18ym mhwynt 1 o Ran A o Atodiad XIII i Reoliad (EU) Rhif 1169/2011] , fel canran (y caniateir ei rhoi hefyd ar ffurf graff) o'r [F19gwerth cyfeirio perthnasol a bennir yn y pwynt hwnnw] .]
(4) Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo os yw dull ei labelu, ei gyflwyno neu ei hysbysu yn cynnwys sôn, naill ai'n ddiamwys neu'n ymhlyg, na all deiet cytbwys ac amrywiol ddarparu meintiau priodol o fitaminau neu fwynau yn gyffredinol.
Diwygiadau Testunol
F14Geiriau yn rhl. 6(2) wedi eu hamnewid (13.12.2014) gan Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2303), rhl. 1(3), Atod. 7 para. 26(a)
F15Rhl. 6(3)(b) wedi ei amnewid (1.1.2010) gan Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Cymru) ac Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) (Diwygio) 2009 (O.S. 2009/3252), rhlau. 1, 2(6)(a)
F16Geiriau yn rhl. 6(3)(b) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Maethiad (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/179), rhlau. 1(2), 3(5); 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)
F17Rhl. 6(3)(d) wedi ei amnewid (1.1.2010) gan Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Cymru) ac Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) (Diwygio) 2009 (O.S. 2009/3252), rhlau. 1, 2(6)(b)
F18Geiriau yn rhl. 6(3)(d) wedi eu hamnewid (13.12.2014) gan Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2303), rhl. 1(3), Atod. 7 para. 26(b)(i)
F19Geiriau yn rhl. 6(3)(d) wedi eu hamnewid (13.12.2014) gan Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2303), rhl. 1(3), Atod. 7 para. 26(b)(ii)
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 6 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1
7.—(1) Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd sydd
(a)yn barod i'w ddanfon i'r defnyddiwr olaf, neu
(b)yn barod i'w ddanfon i sefydliad arlwyo ac wedi'i ragbacio,
os nad yw'r manylion y mae'n ofynnol ei farcio neu ei labelu â hwy o dan reoliad 6 (2) yn ymddangos —
(i)ar y pecyn;
(ii)ar label sydd ynghlwm wrth y pecyn; neu
(iii)ar label sydd i'w weld yn glir drwy'r pecyn,
ac eithrio pan werthir i unrhyw un heblaw'r defnyddiwr olaf, y caiff y manylion hyn fel arall ymddangos ar y dogfennau masnachol ynglyn â'r ychwanegyn bwyd os oes modd gwarantu bod y dogfennau hynny, sy'n cynnwys y manylion hyn i gyd, naill ai gyda'r ychwanegyn bwyd y maent yn ymwneud ag ef neu wedi cael eu hanfon cyn i'r ychwanegyn bwyd gael ei anfon, neu'r un pryd â hynny ac ar yr amod bod y manylion sy'n ofynnol o dan [F20bwyntiau (a), (f), (g) ac (h) o Erthygl 9(1) o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011] wedi'u marcio neu wedi'u labelu hefyd ar y pecyn allanol y mae'r ychwanegyn bwyd hwnnw wedi'i werthu gydag ef.
(2) Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon i sefydliad arlwyo ac nad yw wedi'i ragbacio os nad yw'r manylion y mae'n ofynnol eu marcio neu eu labelu â hwy o dan reoliad 6(2) yn ymddangos —
(a)ar label sydd ynghlwm wrth yr ychwanegyn bwyd;
(b)ar docyn neu hysbysiad y mae'n hawdd i ddarpar brynwr ei ddirnad yn y man lle mae'n dewis yr ychwanegyn bwyd hwnnw; neu
(c)mewn dogfennau masnachol sy'n ymwneud â'r ychwanegyn bwyd os oes modd gwarantu bod y dogfennau yn naill ai gyda'r ychwanegyn bwyd y maent yn ymwneud ag ef neu wedi cael eu hanfon cyn hynny, neu'r un pryd ag anfon yr ychwanegyn bwyd hwnnw.
(3) Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo os nad yw'r manylion y mae'n ofynnol marcio neu labelu ychwanegyn bwyd â hwy o dan reoliad 6(2) yn hawdd i'w deall, yn hollol ddarllenadwy, yn annileadwy a, phan fydd bwyd yn cael ei werthu i'r defnyddiwr olaf, rhaid i'r manylion hynny gael eu marcio mewn man amlwg mewn ffordd sy'n eu gwneud yn hawdd i'w gweld.
(4) Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo os yw'r manylion y mae'n ofynnol marcio neu labelu'r ychwanegyn bwyd â hwy yn rhinwedd rheoliad 6(2) wedi'u cuddio neu wedi'u tywyllu mewn unrhyw ffordd neu os ymyrryd mewn unrhyw ffordd â'r manylion hynny ag unrhyw fater ysgrifenedig neu ddarluniadol arall.
Diwygiadau Testunol
F20Geiriau yn rhl. 7(1) wedi eu hamnewid (13.12.2014) gan Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2303), rhl. 1(3), Atod. 7 para. 27
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 7 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1
8. Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 8 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1
9. Bydd unrhyw berson sy'n torri rheoliad 4, 5, 6 neu 7 yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 9 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1
F2110. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F21Rhl. 10 wedi ei dirymu (1.1.2006) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3254), rhl. 1, Atod. 6 Rhn. 2
Gwybodaeth Cychwyn
I10Rhl. 10 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1
11. Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad y bydd unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni yn cael eu dehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —
(a)adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc.);
(b)adran 3 (rhagdybiaethau bod bwyd wedi'i fwriadu i bobl ei fwyta);
(c)adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);
(ch)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) fel y mae'n gymwys at ddibenion adrannau 8, 14 neu 15;
(d)adran 22 (amddiffyniad o gyhoeddi wrth gynnal busnes);
(dd)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(e)adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);
(f)adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofynion o'r fath a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan baragraff (e) uchod;
(ff)adran 35(1) (cosbi tramgwyddau), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan baragraff (e) uchod;
(g)adran 35(2) a (3), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan baragraff (f) uchod;
(ng)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac
(h)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
Gwybodaeth Cychwyn
I11Rhl. 11 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1
12.—[F23(1)] Mewn unrhyw achosion am dramgwydd o dan reoliad 9 sy'n ymwneud â thorri rheoliad 6 neu 7 drwy fynd yn groes i reoliad 6(3)(d) neu fethu â chydymffurfio ag ef, bydd profi'r canlynol yn amddiffyniad—
(a)bod yr ychwanegiad bwyd o dan sylw wedi ei werthu cyn 31 Hydref 2012; a
(b)na fyddai'r materion sy'n dramgwydd honedig wedi bod yn dramgwydd o dan y Rheoliadau hynny pe na fyddai'r diwygiadau a wnaed gan reoliad 2(2) a (6)(b) o Reoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Cymru) ac Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) (Diwygio) 2009 wedi bod yn weithredol pan werthwyd y bwyd.]
[F24(2) Mewn unrhyw achosion am dramgwydd o dan reoliad 9 sy’n ymwneud â thorri rheoliad 6 neu 7 drwy fynd yn groes i reoliad 6(3)(b) neu fethu â chydymffurfio ag ef, bydd profi’r canlynol yn amddiffyniad—
(a)bod zinc wedi’i ddefnyddio wrth weithgynhyrchu’r ychwanegyn bwyd a bod yr ychwanegyn bwyd wedi’i farcio neu wedi’i labelu cyn 10 Chwefror 2023; a
(b)na fyddai’r materion sy’n dramgwydd honedig wedi bod yn dramgwydd o dan y Rheoliadau hynny fel yr oeddent yn cael effaith yn union cyn 10 Chwefror 2023.]
Diwygiadau Testunol
F22Rhl. 12 wedi ei ychwanegu (1.1.2010) gan Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Cymru) ac Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) (Diwygio) 2009 (O.S. 2009/3252), rhlau. 1, 2(7)
F23Rhl. 12(1): rhl. 12 wedi ei ailrifo fel rhl. 12(1) (10.2.2023) gan The Food Supplements and Food for Specific Groups (Miscellaneous Amendments) (No. 2) Regulations 2023 (O.S. 2023/131), rhlau. 1(2), 6(2)
F24Rhl. 12(2) wedi ei fewnosod (10.2.2023) gan The Food Supplements and Food for Specific Groups (Miscellaneous Amendments) (No. 2) Regulations 2023 (O.S. 2023/131), rhlau. 1(2), 6(3)
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Gorffennaf 2003
Rheoliadau 5(1) a (3) a 6(3)(b)
Diwygiadau Testunol
F25Atod. 1 wedi ei hepgor (1.1.2010) yn rhinwedd Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Cymru) ac Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) (Diwygio) 2009 (O.S. 2009/3252), rhlau. 1, 2(8)
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Rheoliad 5(1) a (3)
Diwygiadau Testunol
F26Atod. 2 wedi ei hepgor (1.1.2010) yn rhinwedd Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Cymru) ac Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) (Diwygio) 2009 (O.S. 2009/3252), rhlau. 1, 2(8)
F261. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .LL+C
F262. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .LL+C
F263. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .LL+C
F264. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .LL+C
F265. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .LL+C
F266. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .LL+C
F267. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .LL+C
F268. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .LL+C
F269. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .LL+C
F2610. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .LL+C
F2611. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .LL+C
F2612. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .LL+C
F2613. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .LL+C
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu yng Nghymru Gyfarwyddeb 2002/46/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyd-ddynesu cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau ynglyn ag ychwanegion bwyd.LL+C
2. Mae'r Rheoliadau yn ymwneud â gwerthu (fel y'i diffinnir yn rheoliad 2(1)) ychwanegion bwyd sy'n cael eu gwerthu fel bwyd a'u cyflwyno fel y cyfryw (rheoliad 3). Diffinnir ychwanegyn bwyd fel bwyd sy'n cael ei werthu ar ffurf dogn ac sydd wedi'i fwriadu i ychwanegu at ddeiet normal ac yn ffynhonnell grynodedig o fitamin neu fwyn neu sylwedd arall ag effaith faethol neu ffisiolegol, naill ai ar ei ben ei hun neu mewn cyfuniad (rheoliad 2(1)).LL+C
3. Mae'r Rheoliadau — a hynny o 1 Awst 2005 ymlaen —LL+C
(a)yn gwahardd gwerthu ychwanegyn bwyd i'r defnyddiwr olaf oni bai ei fod wedi'i ragbacio (rheoliadau 4 a 2(2)),
(b)yn gwahardd gwerthu ychwanegyn bwyd y defnyddiwyd fitamin neu fwyn wrth ei gynhyrchu, oni bai bod gofynion cyfansoddi penodol wedi'u bodloni, yn ddarostyngedig i ddarpariaeth drosiannol (rheoliad 5(3) a'r Atodlenni),
(c)yn gwahardd gwerthu ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo oni bai bod gofynion penodol ynglyn â labelu, cyflwyno a hysbysebu'r cynnyrch wedi'u bodloni (rheoliadau 6 a 7).
4. Mae Erthygl 6(2) o'r Gyfarwyddeb (sy'n dweud bod rhaid peidio â phriodoli i ychwanegion bwyd, wrth eu labelu, eu cyflwyno a'u hysbysebu, nodweddion atal, trin neu iacháu clefyd dynol, na chyfeirio at nodweddion o'r fath) eisoes wedi'i roi ar waith yn Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 (rheoliad 40(1) ac Atodlen 6, Rhan I, paragraff 2).LL+C
5. Mae'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth ynglyn â'r cyfrifoldebau ar gyfer gorfodi (rheoliad 8); yn creu tramgwyddau a chosbau (rheoliad 9) ac yn cymhwyso darpariaethau penodol yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 11). Mae'r Rheoliadau yn darparu amddiffyniad mewn perthynas ag allforion, yn unol ag Erthyglau 2 a 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/397/EEC (OJ Rhif L186, 30.6.89, t.23) ar reoli ar fwydydd yn swyddogol (rheoliad 10).LL+C
6. Mae arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn ac wedi'i adneuo yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House, Caerdydd CF10 1EW.LL+C
Trosglwyddwyd swyddogaethau yr Ysgifennydd Gwladol o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir ar y Cyd ag adran 40(3) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.