Enwi, cymhwyso a chychwynI11

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2003; deuant i rym ar 1 Awst 2005 ac maent yn gymwys i Gymru yn unig.

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 1 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1

DehongliI22

1

Yn y Rheoliadau hyn —

  • F10ystyr “Cyfarwyddeb 90/496” (“Directive 90/496”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC ar labelu maethiad ar gyfer bwydydd fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2008/100/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC ar labelu maethiad ar gyfer bwydydd o ran lwfansau dyddiol a argymhellir, ffactorau trosi ynni a diffiniadau;

  • ystyr “Cyfarwyddeb 2001/83” (“Directive 2001/83”) yw Cyfarwyddeb 2001/83/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar god y Gymuned sy'n ymwneud â chynhyrchion meddyginiaethol i'w defnyddio gan bobl fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2009/53/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2001/82/EC a Chyfarwyddeb 2001/83/EC, o ran amrywiadau i delerau awdurdodiadau marchnata ar gyfer cynhyrchion meddyginiaethol;

  • ystyr “Cyfarwyddeb 2002/46” (“Directive 2002/46”) yw Cyfarwyddeb 2002/46/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud ag ychwanegion bwyd fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1170/2009 sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2002/46/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran y rhestrau o fitamin a mwynau a'r ffurfiau arnynt y caniateir eu hychwanegu at fwydydd, gan gynnwys ychwanegion bwyd;”.

  • ystyr “defnyddiwr olaf” (“ultimate consumer”) yw unrhyw berson sy'n prynu ac eithrio —

    1. a

      at ddibenion ailwerthu;

    2. b

      at ddibenion sefydliad arlwyo; neu

    3. c

      at ddibenion busnes gweithgynhyrchu;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

  • ystyr “ffurf dogn” (“dose form”) yw ffurf megis capsiwlau, pastiliau, tabledi, pils, a ffurfiau tebyg eraill, sachets powdr, ampylau hylifau, poteli sy'n dosbarthu diferion, a ffurfiau tebyg eraill ar hylifau neu bowdrau sydd wedi'u dylunio i gael eu cymryd mewn meintiau unedol bach sydd wedi'u mesur;

  • mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys meddu gyda'r bwriad o werthu a chynnig, amlygu neu hysbysebu gyda'r bwriad o werthu;

  • mae “paratoi” (“preparation”) yn cynnwys gweithgynhyrchu ac unrhyw ffurf ar brosesu neu drin;

  • ystyr “sefydliad arlwyo” (“catering establishment”) yw bwyty, ffreutur, clwb, tafarn, ysgol, ysbyty neu sefydliad tebyg (gan gynnwys cerbyd neu stondin sefydlog neu symudol) os yw bwyd, wrth gynnal busnes, yn cael ei baratoi i'w gyflenwi i'r defnyddiwr olaf ac yn barod i'w fwyta heb baratoi pellach; ac

  • ystyr “ychwanegyn bwyd” (“food supplement”) yw unrhyw fwyd sydd wedi'i fwriadu i ychwanegu at ddeiet normal ac sydd —

    1. a

      yn ffynhonnell grynodedig o fitamin neu fwyn neu sylwedd arall ag effaith faethol neu ffisiolegol, ar ei ben ei hun neu mewn cyfuniad; a

    2. b

      yn cael ei werthu ar ffurf dogn.

2

Rhaid ystyried bod ychwanegyn bwyd wedi'i ragbacio at ddibenion y Rheoliadau hyn —

a

os yw'n barod i'w werthu i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo, a

b

os yw wedi'i roi mewn pecyn cyn cael ei gynnig i'w werthu yn y fath fodd ag i beidio â chaniatáu newid yr ychwanegyn bwyd heb agor neu newid y pecyn.

3

Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac ar eu ffurf Saesneg yng Nghyfarwyddeb 2002/46 yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn â'r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn y Gyfarwyddeb honno.

F24

Yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at Atodiad i Gyfarwyddeb 2002/46 yn gyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.

Cwmpas y RheoliadauI33

1

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ychwanegion bwyd sy'n cael eu gwerthu fel bwyd a'u cyflwyno fel y cyfryw.

F32

Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gynhyrchion meddyginiaethol fel y'u diffinnir gan Gyfarwyddeb 2001/83.

Cyfyngiad ar y ffurf a ddefnyddir i werthu ychwanegion bwyd i'r defnyddiwr olafI44

Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd i'r defnyddiwr olaf oni bai ei fod wedi'i ragbacio.

Annotations:
Commencement Information
I4

Rhl. 4 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1

Gwaharddiadau gwerthu sy'n ymwneud â chyfansoddiad ychwanegion bwydI55

1

F4..., ni chaiff neb werthu ychwanegyn bwyd y mae fitamin neu fwyn wedi'i ddefnyddio wrth ei gynhyrchu oni bai bod y fitamin neu'r mwyn hwnnw—

a

wedi'i restru F5yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 2002/46 ; a

b

ar ffurf sydd

i

wedi'i rhestru yn F6Atodiad II i Gyfarwyddeb 2002/46 , a

ii

yn bodloni'r meini prawf purdeb perthnasol.

2

Y meini prawf purdeb perthnasol at ddibenion paragraff (1)(b)(ii) yw —

a

y meini prawf purdeb, os o gwbl, a bennwyd drwy ddeddfwriaeth Gymunedol ar gyfer defnyddio'r sylwedd o dan sylw wrth gynhyrchu bwyd at ddibenion heblaw'r rhai y mae Cyfarwyddeb 2002/46 yn ymdrin â hwy; neu

b

yn absenoldeb meini prawf purdeb o'r fath, y meini prawf purdeb sy'n dderbyniol yn gyffredinol ar gyfer y sylwedd o dan sylw ac sy'n cael eu hargymell gan gyrff rhyngwladol.

F73

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Cyfyngiadau ar werthu sy'n ymwneud â labelu etc ychwanegion bwydI66

1

Ni chaiff neb werthu ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo os nad yw'r enw y mae'n cael ei werthu odano yn “ychwanegyn bwyd”.

2

Heb ragfarnu Rheoliadau Labelu Bwyd 19966, ni chaiff neb werthu ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo oni bai ei fod wedi'i farcio neu wedi'i labelu â'r manylion canlynol —

a

enw categori unrhyw fitamin neu fwyn neu sylwedd arall ag effaith faethol neu ffisiolegol sy'n nodweddu'r cynnyrch neu fynegiant o natur y fitamin neu'r mwyn neu'r sylwedd arall;

b

y gyfran o'r cynnyrch yr argymhellir ei bwyta'n ddyddiol;

c

rhybudd i beidio â chymryd mwy na'r dogn dyddiol penodedig a argymhellir;

ch

datganiad i'r perwyl na ddylid defnyddio ychwanegion bwyd yn lle deiet amrywiol;

d

datganiad i'r perwyl y dylid storio'r cynnyrch y tu allan i gyrraedd plant bach; ac

dd

faint o unrhyw fitamin neu fwyn neu sylwedd arall ag effaith faethol neu ffisiolegol sy'n bresennol yn y cynnyrch.

3

Rhaid i'r wybodaeth sy'n ofynnol o dan baragraff (2)(dd) —

a

cael ei rhoi ar ffurf Rhif au;

F8b

cael ei rhoi, yn achos fitamin neu fwyn a restrir yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 2002/46, drwy ddefnyddio'r uned berthnasol a bennir mewn cromfachau ar ôl enw'r fitamin neu'r mwyn hwnnw;

c

datgan y swm fesul cyfran o'r cynnyrch fel yr argymhellir ei fwyta'n ddyddiol ar label y cynnyrch;

ch

bod yn faint cyfartalog ar sail dadansoddiad y gweithgynhyrchydd o'r cynnyrch; a

F9d

cael ei mynegi hefyd, yn achos fitamin neu fwyn a restrir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb 90/496, fel canran (y caniateir ei rhoi hefyd ar ffurf graff) o'r lwfans dyddiol a argymhellir ac sy'n berthnasol ac a bennir yn yr Atodiad hwnnw.

4

Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo os yw dull ei labelu, ei gyflwyno neu ei hysbysu yn cynnwys sôn, naill ai'n ddiamwys neu'n ymhlyg, na all deiet cytbwys ac amrywiol ddarparu meintiau priodol o fitaminau neu fwynau yn gyffredinol.

Dull marcio neu labeluI77

1

Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd sydd

a

yn barod i'w ddanfon i'r defnyddiwr olaf, neu

b

yn barod i'w ddanfon i sefydliad arlwyo ac wedi'i ragbacio,

os nad yw'r manylion y mae'n ofynnol ei farcio neu ei labelu â hwy o dan reoliad 6 (2) yn ymddangos —

i

ar y pecyn;

ii

ar label sydd ynghlwm wrth y pecyn; neu

iii

ar label sydd i'w weld yn glir drwy'r pecyn,

ac eithrio pan werthir i unrhyw un heblaw'r defnyddiwr olaf, y caiff y manylion hyn fel arall ymddangos ar y dogfennau masnachol ynglyn â'r ychwanegyn bwyd os oes modd gwarantu bod y dogfennau hynny, sy'n cynnwys y manylion hyn i gyd, naill ai gyda'r ychwanegyn bwyd y maent yn ymwneud ag ef neu wedi cael eu hanfon cyn i'r ychwanegyn bwyd gael ei anfon, neu'r un pryd â hynny ac ar yr amod bod y manylion sy'n ofynnol o dan reoliad 5(a), (c) ac (e) o Reoliadau Labelu Bwyd 1996 wedi'u marcio neu wedi'u labelu hefyd ar y pecyn allanol y mae'r ychwanegyn bwyd hwnnw wedi'i werthu gydag ef.

2

Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon i sefydliad arlwyo ac nad yw wedi'i ragbacio os nad yw'r manylion y mae'n ofynnol eu marcio neu eu labelu â hwy o dan reoliad 6(2) yn ymddangos —

a

ar label sydd ynghlwm wrth yr ychwanegyn bwyd;

b

ar docyn neu hysbysiad y mae'n hawdd i ddarpar brynwr ei ddirnad yn y man lle mae'n dewis yr ychwanegyn bwyd hwnnw; neu

c

mewn dogfennau masnachol sy'n ymwneud â'r ychwanegyn bwyd os oes modd gwarantu bod y dogfennau yn naill ai gyda'r ychwanegyn bwyd y maent yn ymwneud ag ef neu wedi cael eu hanfon cyn hynny, neu'r un pryd ag anfon yr ychwanegyn bwyd hwnnw.

3

Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo os nad yw'r manylion y mae'n ofynnol marcio neu labelu ychwanegyn bwyd â hwy o dan reoliad 6(2) yn hawdd i'w deall, yn hollol ddarllenadwy, yn annileadwy a, phan fydd bwyd yn cael ei werthu i'r defnyddiwr olaf, rhaid i'r manylion hynny gael eu marcio mewn man amlwg mewn ffordd sy'n eu gwneud yn hawdd i'w gweld.

4

Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo os yw'r manylion y mae'n ofynnol marcio neu labelu'r ychwanegyn bwyd â hwy yn rhinwedd rheoliad 6(2) wedi'u cuddio neu wedi'u tywyllu mewn unrhyw ffordd neu os ymyrryd mewn unrhyw ffordd â'r manylion hynny ag unrhyw fater ysgrifenedig neu ddarluniadol arall.

Annotations:
Commencement Information
I7

Rhl. 7 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1

GorfodiI88

Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal.

Annotations:
Commencement Information
I8

Rhl. 8 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1

Tramgwyddau a chosbauI99

Bydd unrhyw berson sy'n torri rheoliad 4, 5, 6 neu 7 yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Annotations:
Commencement Information
I9

Rhl. 9 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1

Amddiffyniad mewn perthynas ag allforionF1I1010

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Cymhwyso amryw o ddarpariaethau'r DdeddfI1111

Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad y bydd unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni yn cael eu dehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —

a

adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc.);

b

adran 3 (rhagdybiaethau bod bwyd wedi'i fwriadu i bobl ei fwyta);

c

adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);

ch

adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) fel y mae'n gymwys at ddibenion adrannau 8, 14 neu 15;

d

adran 22 (amddiffyniad o gyhoeddi wrth gynnal busnes);

dd

adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);

e

adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);

f

adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofynion o'r fath a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan baragraff (e) uchod;

ff

adran 35(1) (cosbi tramgwyddau), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan baragraff (e) uchod;

g

adran 35(2) a (3), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan baragraff (f) uchod;

ng

adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac

h

adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).

Annotations:
Commencement Information
I11

Rhl. 11 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1

F11Darpariaeth drosiannol12

Mewn unrhyw achosion am dramgwydd o dan reoliad 9 sy'n ymwneud â thorri rheoliad 6 neu 7 drwy fynd yn groes i reoliad 6(3)(d) neu fethu â chydymffurfio ag ef, bydd profi'r canlynol yn amddiffyniad—

a

bod yr ychwanegiad bwyd o dan sylw wedi ei werthu cyn 31 Hydref 2012; a

b

na fyddai'r materion sy'n dramgwydd honedig wedi bod yn dramgwydd o dan y Rheoliadau hynny pe na fyddai'r diwygiadau a wnaed gan reoliad 2(2) a (6)(b) o Reoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Cymru) ac Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) (Diwygio) 2009 wedi bod yn weithredol pan werthwyd y bwyd.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19988.

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol