Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2003

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu yng Nghymru Gyfarwyddeb 2002/46/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyd-ddynesu cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau ynglyn ag ychwanegion bwyd.LL+C

2.  Mae'r Rheoliadau yn ymwneud â gwerthu (fel y'i diffinnir yn rheoliad 2(1)) ychwanegion bwyd sy'n cael eu gwerthu fel bwyd a'u cyflwyno fel y cyfryw (rheoliad 3). Diffinnir ychwanegyn bwyd fel bwyd sy'n cael ei werthu ar ffurf dogn ac sydd wedi'i fwriadu i ychwanegu at ddeiet normal ac yn ffynhonnell grynodedig o fitamin neu fwyn neu sylwedd arall ag effaith faethol neu ffisiolegol, naill ai ar ei ben ei hun neu mewn cyfuniad (rheoliad 2(1)).LL+C

3.  Mae'r Rheoliadau — a hynny o 1 Awst 2005 ymlaen —LL+C

(a)yn gwahardd gwerthu ychwanegyn bwyd i'r defnyddiwr olaf oni bai ei fod wedi'i ragbacio (rheoliadau 4 a 2(2)),

(b)yn gwahardd gwerthu ychwanegyn bwyd y defnyddiwyd fitamin neu fwyn wrth ei gynhyrchu, oni bai bod gofynion cyfansoddi penodol wedi'u bodloni, yn ddarostyngedig i ddarpariaeth drosiannol (rheoliad 5(3) a'r Atodlenni),

(c)yn gwahardd gwerthu ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo oni bai bod gofynion penodol ynglyn â labelu, cyflwyno a hysbysebu'r cynnyrch wedi'u bodloni (rheoliadau 6 a 7).

4.  Mae Erthygl 6(2) o'r Gyfarwyddeb (sy'n dweud bod rhaid peidio â phriodoli i ychwanegion bwyd, wrth eu labelu, eu cyflwyno a'u hysbysebu, nodweddion atal, trin neu iacháu clefyd dynol, na chyfeirio at nodweddion o'r fath) eisoes wedi'i roi ar waith yn Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 (rheoliad 40(1) ac Atodlen 6, Rhan I, paragraff 2).LL+C

5.  Mae'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth ynglyn â'r cyfrifoldebau ar gyfer gorfodi (rheoliad 8); yn creu tramgwyddau a chosbau (rheoliad 9) ac yn cymhwyso darpariaethau penodol yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 11). Mae'r Rheoliadau yn darparu amddiffyniad mewn perthynas ag allforion, yn unol ag Erthyglau 2 a 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/397/EEC (OJ Rhif L186, 30.6.89, t.23) ar reoli ar fwydydd yn swyddogol (rheoliad 10).LL+C

6.  Mae arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn ac wedi'i adneuo yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House, Caerdydd CF10 1EW.LL+C