Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2003

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “Cyfarwyddeb 2002/46” (“Directive 2002/46”) yw Cyfarwyddeb 2002/46/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor(1)) ar gyd-ddynesu cyfreithiau Aelod-wladwriaethau mewn perthynas ag ychwanegion bwyd;

ystyr “defnyddiwr olaf” (“ultimate consumer”) yw unrhyw berson sy'n prynu ac eithrio —

(a)

at ddibenion ailwerthu;

(b)

at ddibenion sefydliad arlwyo; neu

(c)

at ddibenion busnes gweithgynhyrchu;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr “ffurf dogn” (“dose form”) yw ffurf megis capsiwlau, pastiliau, tabledi, pils, a ffurfiau tebyg eraill, sachets powdr, ampylau hylifau, poteli sy'n dosbarthu diferion, a ffurfiau tebyg eraill ar hylifau neu bowdrau sydd wedi'u dylunio i gael eu cymryd mewn meintiau unedol bach sydd wedi'u mesur;

mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys meddu gyda'r bwriad o werthu a chynnig, amlygu neu hysbysebu gyda'r bwriad o werthu;

mae “paratoi” (“preparation”) yn cynnwys gweithgynhyrchu ac unrhyw ffurf ar brosesu neu drin;

ystyr “sefydliad arlwyo” (“catering establishment”) yw bwyty, ffreutur, clwb, tafarn, ysgol, ysbyty neu sefydliad tebyg (gan gynnwys cerbyd neu stondin sefydlog neu symudol) os yw bwyd, wrth gynnal busnes, yn cael ei baratoi i'w gyflenwi i'r defnyddiwr olaf ac yn barod i'w fwyta heb baratoi pellach; ac

ystyr “ychwanegyn bwyd” (“food supplement”) yw unrhyw fwyd sydd wedi'i fwriadu i ychwanegu at ddeiet normal ac sydd —

(a)

yn ffynhonnell grynodedig o fitamin neu fwyn neu sylwedd arall ag effaith faethol neu ffisiolegol, ar ei ben ei hun neu mewn cyfuniad; a

(b)

yn cael ei werthu ar ffurf dogn.

(2Rhaid ystyried bod ychwanegyn bwyd wedi'i ragbacio at ddibenion y Rheoliadau hyn —

(a)os yw'n barod i'w werthu i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo, a

(b)os yw wedi'i roi mewn pecyn cyn cael ei gynnig i'w werthu yn y fath fodd ag i beidio â chaniatáu newid yr ychwanegyn bwyd heb agor neu newid y pecyn.

(3Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac ar eu ffurf Saesneg yng Nghyfarwyddeb 2002/46 yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn â'r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn y Gyfarwyddeb honno.

(1)

OJ Rhif L183, 12.7.2002, t.51.