Rhl. 1 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1
Rhl. 2 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1
Rhl. 3 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1
Rhl. 4 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1
Rhl. 5 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1
Rhl. 6 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1
Rhl. 7 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1
Rhl. 8 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1
Rhl. 9 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1
Rhl. 10 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1
Rhl. 11 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1
Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu hepgor (13.12.2014) yn rhinwedd Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2303), rhl. 1(3), Atod. 7 para. 25(a)
Geiriau yn rhl. 2 wedi eu hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Maethiad (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/179), rhlau. 1(2), 3(2)(a); 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)
Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu hamnewid (1.1.2010) gan Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Cymru) ac Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) (Diwygio) 2009 (O.S. 2009/3252), rhlau. 1, 2(2)
Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu mewnosod (13.12.2014) gan Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2303), rhl. 1(3), Atod. 7 para. 25(b)
Rhl. 2(3)(4) wedi ei hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Maethiad (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/179), rhlau. 1(2), 3(2)(b); 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)
Rhl. 3(2) wedi ei amnewid (1.1.2010) gan Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Cymru) ac Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) (Diwygio) 2009 (O.S. 2009/3252), rhlau. 1, 2(4)
Geiriau yn rhl. 3(2) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Maethiad (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/179), rhlau. 1(2), 3(3); 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)
Geiriau yn rhl. 5(1) wedi eu hepgor (1.1.2010) yn rhinwedd Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Cymru) ac Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) (Diwygio) 2009 (O.S. 2009/3252), rhlau. 1, 2(5)(a)
Geiriau yn rhl. 5(1)(a) wedi eu hamnewid (1.1.2010) gan Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Cymru) ac Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) (Diwygio) 2009 (O.S. 2009/3252), rhlau. 1, 2(5)(b)
Geiriau yn rhl. 5(1)(a) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Maethiad (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/179), rhlau. 1(2), 3(4)(a)(i); 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)
Geiriau yn rhl. 5(1)(b)(i) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Maethiad (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/179), rhlau. 1(2), 3(4)(a)(ii); 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)
Rhl. 5(2)(a) wedi ei amnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Maethiad (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/179), rhlau. 1(2), 3(4)(b); 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)
Gair yn rhl. 5(2)(a) wedi ei amnewid (1.1.2024) gan Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/1332), rhlau. 1(2), 5
Rhl. 5(3) wedi ei hepgor (1.1.2010) yn rhinwedd Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Cymru) ac Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) (Diwygio) 2009 (O.S. 2009/3252), rhlau. 1, 2(5)(d)
Geiriau yn rhl. 6(2) wedi eu hamnewid (13.12.2014) gan Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2303), rhl. 1(3), Atod. 7 para. 26(a)
Rhl. 6(3)(b) wedi ei amnewid (1.1.2010) gan Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Cymru) ac Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) (Diwygio) 2009 (O.S. 2009/3252), rhlau. 1, 2(6)(a)
Geiriau yn rhl. 6(3)(b) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Maethiad (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/179), rhlau. 1(2), 3(5); 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)
Rhl. 6(3)(d) wedi ei amnewid (1.1.2010) gan Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Cymru) ac Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) (Diwygio) 2009 (O.S. 2009/3252), rhlau. 1, 2(6)(b)
Geiriau yn rhl. 6(3)(d) wedi eu hamnewid (13.12.2014) gan Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2303), rhl. 1(3), Atod. 7 para. 26(b)(i)
Geiriau yn rhl. 6(3)(d) wedi eu hamnewid (13.12.2014) gan Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2303), rhl. 1(3), Atod. 7 para. 26(b)(ii)
Geiriau yn rhl. 7(1) wedi eu hamnewid (13.12.2014) gan Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2303), rhl. 1(3), Atod. 7 para. 27
Rhl. 10 wedi ei dirymu (1.1.2006) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3254), rhl. 1, Atod. 6 Rhn. 2
Rhl. 12 wedi ei ychwanegu (1.1.2010) gan Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Cymru) ac Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) (Diwygio) 2009 (O.S. 2009/3252), rhlau. 1, 2(7)
Rhl. 12(1): rhl. 12 wedi ei ailrifo fel rhl. 12(1) (10.2.2023) gan The Food Supplements and Food for Specific Groups (Miscellaneous Amendments) (No. 2) Regulations 2023 (O.S. 2023/131), rhlau. 1(2), 6(2)
Rhl. 12(2) wedi ei fewnosod (10.2.2023) gan The Food Supplements and Food for Specific Groups (Miscellaneous Amendments) (No. 2) Regulations 2023 (O.S. 2023/131), rhlau. 1(2), 6(3)
Atod. 1 wedi ei hepgor (1.1.2010) yn rhinwedd Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Cymru) ac Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) (Diwygio) 2009 (O.S. 2009/3252), rhlau. 1, 2(8)
Atod. 2 wedi ei hepgor (1.1.2010) yn rhinwedd Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Cymru) ac Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) (Diwygio) 2009 (O.S. 2009/3252), rhlau. 1, 2(8)
Rheoliadau wedi eu cymhwyso yn rhannol (ynghyd â addasiadau) (1.10.2023) gan The Windsor Framework (Retail Movement Scheme: Public Health, Marketing and Organic Product Standards and Miscellaneous Provisions) Regulations 2023 (O.S. 2023/959), rhlau. 1(2), 4(b), Atod. 2 (ynghyd â rhlau. 7, 8)
Drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(a) ac (e), 17(1), 26(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 Trosglwyddwyd swyddogaethau yr Ysgifennydd Gwladol o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir ar y Cyd ag adran 40(3) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990. OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2003; deuant i rym ar 1 Awst 2005 ac maent yn gymwys i Gymru yn unig.
Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “defnyddiwr olaf” (“ultimate consumer”) yw unrhyw berson sy'n prynu ac eithrio —
at ddibenion ailwerthu;
at ddibenion sefydliad arlwyo; neu
at ddibenion busnes gweithgynhyrchu;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr “ffurf dogn” (“dose form”) yw ffurf megis capsiwlau, pastiliau, tabledi, pils, a ffurfiau tebyg eraill, sachets powdr, ampylau hylifau, poteli sy'n dosbarthu diferion, a ffurfiau tebyg eraill ar hylifau neu bowdrau sydd wedi'u dylunio i gael eu cymryd mewn meintiau unedol bach sydd wedi'u mesur;
mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys meddu gyda'r bwriad o werthu a chynnig, amlygu neu hysbysebu gyda'r bwriad o werthu;
mae “paratoi” (“preparation”) yn cynnwys gweithgynhyrchu ac unrhyw ffurf ar brosesu neu drin;
ystyr “sefydliad arlwyo” (“catering establishment”) yw bwyty, ffreutur, clwb, tafarn, ysgol, ysbyty neu sefydliad tebyg (gan gynnwys cerbyd neu stondin sefydlog neu symudol) os yw bwyd, wrth gynnal busnes, yn cael ei baratoi i'w gyflenwi i'r defnyddiwr olaf ac yn barod i'w fwyta heb baratoi pellach; ac
ystyr “ychwanegyn bwyd” (“food supplement”) yw unrhyw fwyd sydd wedi'i fwriadu i ychwanegu at ddeiet normal ac sydd —
yn ffynhonnell grynodedig o fitamin neu fwyn neu sylwedd arall ag effaith faethol neu ffisiolegol, ar ei ben ei hun neu mewn cyfuniad; a
yn cael ei werthu ar ffurf dogn.
Rhaid ystyried bod ychwanegyn bwyd wedi'i ragbacio at ddibenion y Rheoliadau hyn —
os yw'n barod i'w werthu i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo, a
os yw wedi'i roi mewn pecyn cyn cael ei gynnig i'w werthu yn y fath fodd ag i beidio â chaniatáu newid yr ychwanegyn bwyd heb agor neu newid y pecyn.
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ychwanegion bwyd sy'n cael eu gwerthu fel bwyd a'u cyflwyno fel y cyfryw.
Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gynhyrchion meddyginiaethol
Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd i'r defnyddiwr olaf oni bai ei fod wedi'i ragbacio.
wedi'i restru
ar ffurf sydd
wedi'i rhestru yn
yn bodloni'r meini prawf purdeb perthnasol.
Y meini prawf purdeb perthnasol at ddibenion paragraff (1)(b)(ii) yw —
y meini prawf purdeb, os oes rhai, a bennir
yn absenoldeb meini prawf purdeb o'r fath, y meini prawf purdeb sy'n dderbyniol yn gyffredinol ar gyfer y sylwedd o dan sylw ac sy'n cael eu hargymell gan gyrff rhyngwladol.
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Ni chaiff neb werthu ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo os nad yw'r enw y mae'n cael ei werthu odano yn “ychwanegyn bwyd”.
Heb ragfarnu
enw categori unrhyw fitamin neu fwyn neu sylwedd arall ag effaith faethol neu ffisiolegol sy'n nodweddu'r cynnyrch neu fynegiant o natur y fitamin neu'r mwyn neu'r sylwedd arall;
y gyfran o'r cynnyrch yr argymhellir ei bwyta'n ddyddiol;
rhybudd i beidio â chymryd mwy na'r dogn dyddiol penodedig a argymhellir;
datganiad i'r perwyl na ddylid defnyddio ychwanegion bwyd yn lle deiet amrywiol;
datganiad i'r perwyl y dylid storio'r cynnyrch y tu allan i gyrraedd plant bach; ac
faint o unrhyw fitamin neu fwyn neu sylwedd arall ag effaith faethol neu ffisiolegol sy'n bresennol yn y cynnyrch.
Rhaid i'r wybodaeth sy'n ofynnol o dan baragraff (2)(dd) —
cael ei rhoi ar ffurf Rhif au;
cael ei rhoi, yn achos fitamin neu fwyn a restrir yn
datgan y swm fesul cyfran o'r cynnyrch fel yr argymhellir ei fwyta'n ddyddiol ar label y cynnyrch;
bod yn faint cyfartalog ar sail dadansoddiad y gweithgynhyrchydd o'r cynnyrch; a
cael ei mynegi hefyd, yn achos fitamin neu fwyn a restrir
Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo os yw dull ei labelu, ei gyflwyno neu ei hysbysu yn cynnwys sôn, naill ai'n ddiamwys neu'n ymhlyg, na all deiet cytbwys ac amrywiol ddarparu meintiau priodol o fitaminau neu fwynau yn gyffredinol.
Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd sydd
yn barod i'w ddanfon i'r defnyddiwr olaf, neu
yn barod i'w ddanfon i sefydliad arlwyo ac wedi'i ragbacio,
os nad yw'r manylion y mae'n ofynnol ei farcio neu ei labelu â hwy o dan reoliad 6 (2) yn ymddangos —
ar y pecyn;
ar label sydd ynghlwm wrth y pecyn; neu
ar label sydd i'w weld yn glir drwy'r pecyn,
ac eithrio pan werthir i unrhyw un heblaw'r defnyddiwr olaf, y caiff y manylion hyn fel arall ymddangos ar y dogfennau masnachol ynglyn â'r ychwanegyn bwyd os oes modd gwarantu bod y dogfennau hynny, sy'n cynnwys y manylion hyn i gyd, naill ai gyda'r ychwanegyn bwyd y maent yn ymwneud ag ef neu wedi cael eu hanfon cyn i'r ychwanegyn bwyd gael ei anfon, neu'r un pryd â hynny ac ar yr amod bod y manylion sy'n ofynnol o dan
Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon i sefydliad arlwyo ac nad yw wedi'i ragbacio os nad yw'r manylion y mae'n ofynnol eu marcio neu eu labelu â hwy o dan reoliad 6(2) yn ymddangos —
ar label sydd ynghlwm wrth yr ychwanegyn bwyd;
ar docyn neu hysbysiad y mae'n hawdd i ddarpar brynwr ei ddirnad yn y man lle mae'n dewis yr ychwanegyn bwyd hwnnw; neu
mewn dogfennau masnachol sy'n ymwneud â'r ychwanegyn bwyd os oes modd gwarantu bod y dogfennau yn naill ai gyda'r ychwanegyn bwyd y maent yn ymwneud ag ef neu wedi cael eu hanfon cyn hynny, neu'r un pryd ag anfon yr ychwanegyn bwyd hwnnw.
Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo os nad yw'r manylion y mae'n ofynnol marcio neu labelu ychwanegyn bwyd â hwy o dan reoliad 6(2) yn hawdd i'w deall, yn hollol ddarllenadwy, yn annileadwy a, phan fydd bwyd yn cael ei werthu i'r defnyddiwr olaf, rhaid i'r manylion hynny gael eu marcio mewn man amlwg mewn ffordd sy'n eu gwneud yn hawdd i'w gweld.
Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo os yw'r manylion y mae'n ofynnol marcio neu labelu'r ychwanegyn bwyd â hwy yn rhinwedd rheoliad 6(2) wedi'u cuddio neu wedi'u tywyllu mewn unrhyw ffordd neu os ymyrryd mewn unrhyw ffordd â'r manylion hynny ag unrhyw fater ysgrifenedig neu ddarluniadol arall.
Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal.
Bydd unrhyw berson sy'n torri rheoliad 4, 5, 6 neu 7 yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad y bydd unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni yn cael eu dehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —
adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc.);
adran 3 (rhagdybiaethau bod bwyd wedi'i fwriadu i bobl ei fwyta);
adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);
adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) fel y mae'n gymwys at ddibenion adrannau 8, 14 neu 15;
adran 22 (amddiffyniad o gyhoeddi wrth gynnal busnes);
adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);
adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofynion o'r fath a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan baragraff (e) uchod;
adran 35(1) (cosbi tramgwyddau), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan baragraff (e) uchod;
adran 35(2) a (3), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan baragraff (f) uchod;
adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac
adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
Mewn unrhyw achosion am dramgwydd o dan reoliad 9 sy'n ymwneud â thorri rheoliad 6 neu 7 drwy fynd yn groes i reoliad 6(3)(d) neu fethu â chydymffurfio ag ef, bydd profi'r canlynol yn amddiffyniad—
bod yr ychwanegiad bwyd o dan sylw wedi ei werthu cyn 31 Hydref 2012; a
na fyddai'r materion sy'n dramgwydd honedig wedi bod yn dramgwydd o dan y Rheoliadau hynny pe na fyddai'r diwygiadau a wnaed gan reoliad 2(2) a (6)(b) o Reoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Cymru) ac Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) (Diwygio) 2009 wedi bod yn weithredol pan werthwyd y bwyd.
Mewn unrhyw achosion am dramgwydd o dan reoliad 9 sy’n ymwneud â thorri rheoliad 6 neu 7 drwy fynd yn groes i reoliad 6(3)(b) neu fethu â chydymffurfio ag ef, bydd profi’r canlynol yn amddiffyniad—
bod zinc wedi’i ddefnyddio wrth weithgynhyrchu’r ychwanegyn bwyd a bod yr ychwanegyn bwyd wedi’i farcio neu wedi’i labelu cyn 10 Chwefror 2023; a
na fyddai’r materion sy’n dramgwydd honedig wedi bod yn dramgwydd o dan y Rheoliadau hynny fel yr oeddent yn cael effaith yn union cyn 10 Chwefror 2023.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
Rheoliadau 5(1) a (3) a 6(3)(b)
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Rheoliad 5(1) a (3)
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu yng Nghymru Gyfarwyddeb 2002/46/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyd-ddynesu cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau ynglyn ag ychwanegion bwyd.
Mae'r Rheoliadau yn ymwneud â gwerthu (fel y'i diffinnir yn rheoliad 2(1)) ychwanegion bwyd sy'n cael eu gwerthu fel bwyd a'u cyflwyno fel y cyfryw (rheoliad 3). Diffinnir ychwanegyn bwyd fel bwyd sy'n cael ei werthu ar ffurf dogn ac sydd wedi'i fwriadu i ychwanegu at ddeiet normal ac yn ffynhonnell grynodedig o fitamin neu fwyn neu sylwedd arall ag effaith faethol neu ffisiolegol, naill ai ar ei ben ei hun neu mewn cyfuniad (rheoliad 2(1)).
Mae'r Rheoliadau — a hynny o 1 Awst 2005 ymlaen —
yn gwahardd gwerthu ychwanegyn bwyd i'r defnyddiwr olaf oni bai ei fod wedi'i ragbacio (rheoliadau 4 a 2(2)),
yn gwahardd gwerthu ychwanegyn bwyd y defnyddiwyd fitamin neu fwyn wrth ei gynhyrchu, oni bai bod gofynion cyfansoddi penodol wedi'u bodloni, yn ddarostyngedig i ddarpariaeth drosiannol (rheoliad 5(3) a'r Atodlenni),
yn gwahardd gwerthu ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo oni bai bod gofynion penodol ynglyn â labelu, cyflwyno a hysbysebu'r cynnyrch wedi'u bodloni (rheoliadau 6 a 7).
Mae Erthygl 6(2) o'r Gyfarwyddeb (sy'n dweud bod rhaid peidio â phriodoli i ychwanegion bwyd, wrth eu labelu, eu cyflwyno a'u hysbysebu, nodweddion atal, trin neu iacháu clefyd dynol, na chyfeirio at nodweddion o'r fath) eisoes wedi'i roi ar waith yn Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 (rheoliad 40(1) ac Atodlen 6, Rhan I, paragraff 2).
Mae'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth ynglyn â'r cyfrifoldebau ar gyfer gorfodi (rheoliad 8); yn creu tramgwyddau a chosbau (rheoliad 9) ac yn cymhwyso darpariaethau penodol yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 11). Mae'r Rheoliadau yn darparu amddiffyniad mewn perthynas ag allforion, yn unol ag Erthyglau 2 a 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/397/EEC (OJ Rhif L186, 30.6.89, t.23) ar reoli ar fwydydd yn swyddogol (rheoliad 10).
Mae arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn ac wedi'i adneuo yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House, Caerdydd CF10 1EW.