Search Legislation

Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2002

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Addasu adran 29 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (caffael samplau) a dadansoddi samplau

5.—(1Wrth ei chymhwyso at gymryd sampl o unrhyw fwyd a nodwyd yn adrannau 1 i 5 o Atodiad I i Reoliad y Comisiwn, caiff adran 29 o'r Ddeddf ei haddasu er mwyn ei gwneud yn ofynnol i'r pwer i gymryd samplau o dan is-adran (b) a (d) o'r adran honno gael ei arfer yn unol â'r dulliau o gymryd samplau a ddisgrifir neu y cyfeirir atynt yn —

(a)yn ddarostyngedig i'r gofyniad a bennir ym mharagraff (2) yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Comisiwn 2002/63/EC sy'n sefydlu dulliau'r Gymuned o samplo ar gyfer rheoli'n swyddogol weddillion plaladdwyr mewn cynnyrch sy'n deillio o blanhigion ac o anifeiliaid ac arno, a diddymu Cyfarwyddeb 79/700/EC (1)), pan fo'r bwyd dan sylw yn ateb y disgrifiad a nodwyd yn Adran 1 o Atodiad I i Reoliad y Comisiwn y mae'r Gyfarwyddeb honno yn ymwneud â'i samplo yn unol ag Erthygl 1.3 o'r Rheoliad hwnnw;

(b)Atodiad I i Gyfarwyddeb 98/53/EC pan fo'r bwyd dan sylw yn ateb y disgrifiad a nodwyd yn Adran 2 o Atodiad I i Reoliad y Comisiwn y mae'r Gyfarwyddeb honno yn ymwneud â'i samplo yn unol ag Erthygl 1.3 o'r Rheoliad hwnnw;

(c)Atodiad I i Gyfarwyddeb 2002/26/EC pan fo'r bwyd dan sylw yn ateb y disgrifiad a nodwyd yn Adran 2 o Atodiad I i Reoliad y Comisiwn y mae'r Gyfarwyddeb honno yn ymwneud â'i samplo yn unol ag Erthygl 1.3 o'r Rheoliad hwnnw;

(ch)Atodiad I i Gyfarwyddeb 2001/22/EC pan fo'r bwyd dan sylw yn ateb y disgrifiad a nodwyd yn Adran 3 neu 4 o Atodiad I i Reoliad y Comisiwn y mae'r Gyfarwyddeb honno yn ymwneud â'i samplo yn unol ag Erthygl 1.3 o'r Rheoliad hwnnw; a

(d)Atodiad I i Gyfarwyddeb 2002/69/EC pan fo'r bwyd dan sylw yn ateb y disgrifiad a nodwyd yn Adran 5 o Atodiad I i reoliad y Comisiwn y mae'r Gyfarwyddeb honno'n ymwneud â'i samplo yn unol ag Erthygl 1.3 o'r Rheoliad hwnnw.

(2Y gofyniad yw, yn achos letys o'r math a nodir ym mhwynt 1.3 neu 1.4 o Adran 1 o Atodiad I i Reoliad y Comisiwn, isafswm nifer yr unedau sydd eu hangen ar gyfer pob sampl labordy fydd deg.

(3Pan fo swyddog awdurdodedig, yn unol ag adran 29(b) neu (d) o'r Ddeddf fel y'i haddaswyd gan baragraff (1), wedi cymryd sampl o fwyd sy'n cyfateb i ddisgrifiad y mae is-baragraff (b) o'r paragraff hwnnw yn ymwneud ag ef, a phan fo'r swyddog awdurdodedig hwnnw wedi cyflwyno'r sampl hwnnw i'w ddadansoddi yn unol ag adran 30(1)(a) o'r Ddeddf bydd y person sy'n dadansoddi'r sampl yn sicrhau bod —

(a)y sampl yn cael ei baratoi yn unol â —

(i)paragraffau 1.1, 2 a 3 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 98/53/EC, a

(ii)yn achos cnau cyflawn, paragraff 1.2 o'r Atodiad hwnnw;

(b)unrhyw ddadansoddiad o'r sampl yn cael ei wneud yn unol â'r dulliau dadansoddi sydd —

(i)i'r graddau y bo hynny'n ymarferol, yn cydymffurfio â pharagraffau 1 a 2 o'r Atodiad i Gyfarwyddeb 85/591/EEC, a

(ii)yn bodloni'r meini prawf a bennwyd ym mharagraff 4.3 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 98/53/EC fel y'i darllenir gyda'r nodiadau i'r paragraff hwnnw;

(c)bod unrhyw ddadansoddiad yn cael ei wneud gan labordy sy'n cydymffurfio â Chyfarwyddeb 93/99/EEC; ac

(ch)bod adroddiad ar ganlyniadau y dadansoddiad o'r sampl hwnnw —

(i)yn defnyddio'r diffiniadau ym mharagraff 4.1 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 98/53/EC, a

(ii)yn unol â pharagraff 4.4 o'r Atodiad hwnnw.

(4Pan fo swyddog awdurdodedig, yn unol ag adran 29(b) neu (d) o'r Ddeddf fel y'i haddaswyd gan baragraff (1), wedi cymryd sampl o fwyd sy'n ateb y disgrifiad y mae is-baragraff (c) o'r paragraff hwnnw yn ymwneud ag ef, a phan fo'r swyddog awdurdodedig wedi cyflwyno'r sampl hwnnw i'w ddadansoddi yn unol ag adran 39(1)(a) o'r Ddeddf bydd y person sy'n dadansoddi'r sampl yn sicrhau —

(a)bod y sampl yn cael ei baratoi yn unol â pharagraffau 1 i 3 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2002/26/EC;

(b)bod unrhyw ddadansoddiad o'r sampl yn cael ei wneud yn unol â dulliau dadansoddi sy'n —

(i)cydymffurfio â pharagraffau 1 a 2 o'r Atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 85/591/EEC, a

(ii)bodloni'r meini prawf a nodwyd ym mharagraff 4.3 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2002/26/EC fel y'i darllenir gyda'r nodiadau i'r paragraff hwnnw;

(c)bod unrhyw ddadansoddiad yn cael ei wneud gan labordy sy'n cydymffurfio â Chyfarwyddeb 93/99/EEC; ac

(ch)bod adroddiad ar ganlyniadau'r dadansoddiad o'r sampl hwnnw —

(i)yn defnyddio'r diffiniadau ym mharagraff 4.1 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2002/26/EC, a

(ii)yn unol â pharagraff 4.4 o'r Atodiad hwnnw.

(5Pan fo swyddog awdurdodedig, yn unol ag adran 29(b) neu (d) o'r Ddeddf fel y'i haddaswyd gan baragraff (1), wedi cymryd sampl o fwyd sy'n ateb y disgrifiad y mae is-baragraff (d) o'r paragraff hwnnw yn ymwneud ag ef, a phan fo'r swyddog awdurdodedig hwnnw wedi cyflwyno'r sampl hwnnw i'w ddadansoddi yn unol ag adran 30(1)(a) o'r Ddeddf, bydd y person sy'n dadansoddi'r sampl yn sicrhau —

(a)bod y sampl yn cael ei baratoi yn unol â pharagraffau 1 a 2 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2001/22/EC, fel y'u darllenir, yn achos paragraff 2, gyda'r nodyn i'r paragraff hwnnw;

(b)bod unrhyw ddadansoddiad o'r sampl yn cael ei wneud yn unol â'r dulliau dadansoddi sy'n —

(i)cydymffurfio, i'r graddau y bo hynny'n ymarferol, â pharagraffau 1 a 2 o'r Atodiad i Gyfarwyddeb 85/591/EEC,

(ii)wrth ddadansoddi ar gyfer plwm (ac eithrio mewn gwin), mercwri neu gadmiwm, yn bodloni'r meini prawf a nodwyd ym mharagraff 3.3.1. o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2001/22/EC,

(iii)wrth ddadansoddi ar gyfer plwm mewn gwin, yn cydymffurfio â'r ail is-baragraff o baragraff 3.2 o'r Atodiad hwnnw, a

(iv)wrth ddadansoddi ar gyfer 3-MPCD, yn bodloni'r meini prawf a bennwyd ym mharagraff 3.3.2 o'r Atodiad hwnnw fel y'i darllenir gyda'r nodyn i'r paragraff hwnnw;

(c)bod unrhyw ddadansoddiad o'r sampl yn cael ei wneud gan labordy sy'n cydymffurfio â Chyfarwyddeb 93/99/EEC;

(ch)bod unrhyw ddadansoddiad o'r sampl yn cael ei wneud yn y fath fodd fel ei fod yn cydymffurfio ag is-baragraff cyntaf ac ail is-baragraff paragraff 3.4 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2001/22/EC, fel y'u darllenir yn achos yr ail is-baragraff gyda'r nodyn i'r is-baragraff hwnnw; a —

(d)bod adrodd ar ganlyniadau'r dadansoddiad o'r sampl hwnnw —

(i)yn defnyddio'r diffiniadau ym mharagraff 3.1 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2001/22/EC fel y'i darllenir gyda'r nodiadau i'r paragraff hwnnw, a

(ii)yn unol â thrydydd is-baragraff paragraff 3.4 ac â pharagraff 3.6 o'r Atodiad hwnnw.

(6Pan fo swyddog awdurdodedig, yn unol ag adran 29(b) neu (d) o'r Ddeddf fel y'i haddaswyd gan baragraff (1), wedi cymryd sampl o fwyd sy'n ateb y disgrifiad y mae is-baragraff (e) o'r paragraff hwnnw yn ymwneud ag ef, a phan fo'r swyddog awdurdodedig hwnnw wedi cyflwyno'r sampl hwnnw i'w ddadansoddi yn unol ag adran 30(1) (a) o'r Ddeddf, bydd y person sy'n dadansoddi'r sampl yn sicrhau —

(a)y caiff y sampl ei baratoi yn unol â pharagraff 3 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2002/69/EC, fel y'i darllenir gyda pharagraffau 1 a 2 yr Atodiad hwnnw;

(b)y bydd unrhyw ddadansoddiad o'r sampl yn cael ei wneud —

(i)yn unol â dulliau dadansoddi sydd yn bodloni'r meini prawf a bennir ym mharagraffau 5, 6 a 7 Atodiad II i Gyfarwyddeb 2002/69/EC, fel y'u darllenir gyda pharagraffau 1 a 2 o'r Atodiad hwnnw, a

(ii)gan labordy sy'n cydymffurfio â gofynion paragraff 4 Atodiad II i Gyfarwyddeb 2002/69/EC; ac

(c)y bydd yr adroddiad ar ganlyniadau'r dadansoddiad o'r sampl yn unol â pharagraff 8 Atodiad II i Gyfarwyddeb 2002/69/EC.

(1)

OJ Rhif L187, 16.7.2002, t.30.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources