(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae adran 26 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau addysg lleol baratoi, ar gyfer eu hardaloedd, gynlluniau trefniadaeth ysgolion sy'n nodi sut y maent, yn ystod y cyfnod y mae'r cynllun yn ymwneud ag ef, yn bwriadu arfer eu swyddogaethau gyda golwg ar sicrhau darpariaeth o ran addysg gynradd ac uwchradd a fydd yn bodloni anghenion poblogaeth eu hardal, ac yn ei gwneud yn ofynnol iddynt bennu unrhyw gyfleusterau y maent yn disgwyl iddynt fod ar gael y tu allan i'w hardal ar gyfer darparu addysg o'r fath.

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n cael eu gwneud o dan adran 26, yn dirymu ac yn cymryd lle Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 1999. Maent yn darparu ar gyfer y materion canlynol—

  • y cyfnod y mae pob cynllun o'r fath i ymwneud ag ef (rheoliad 4(1) a (2));

  • y materion y mae'n rhaid ymdrin â hwy ym mhob cynllun (rheoliad 4(3));

  • paratoi a chyhoeddi cynllun drafft, ac ym mha ddull y mae'r cynlluniau drafft i'w cyhoeddi (rheoliadau 5(1) ac (2));

  • y gofynion newydd yn ymwneud â'r cyfnodau rhwng pob tro y mae'n rhaid i'r cynlluniau drafft gael eu paratoi, a'r dyddiadau erbyn pryd y mae'n rhaid eu cyhoeddi (rheoliad 5(3) i (5));

  • gofyniad bod yr awdurdod yn ymgynghori â'r personnau hynny y mae'n credu eu bod yn briodol cyn cyhoeddi'r cynlluniau drafft (rheoliad 5(6));

  • cyhoeddi hysbysiad ynghylch pob cynllun drafft mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn ardal yr awdurdod, a'r wybodaeth sydd i'w chynnwys mewn hysbysiad o'r fath (rheoliad 6);

  • y weithdrefn i'w defnyddio pan fo personau'n cyflwyno sylwadau ar gynllun drafft a'r amserlen y mae'n rhaid iddynt gadw ati wrth gyflwyno sylwadau o'r fath (rheoliad 7);

  • y weithdrefn i'w defnyddio gan yr awdurdod pan fydd yn mabwysiadu cynllun drafft (rheoliad 8);

  • paratoi a chyhoeddi cynllun drafft o'r newydd pan fo'r awdurdod yn penderfynu peidio â mabwysiadu cynllun drafft, ac ym mha fodd y dylid cyhoeddi cynllun o'r fath, a mabwysiadu cynllun o'r fath (rheoliad 9);

  • y gofynion newydd sydd yn gysylltiedig â chyhoeddi cynllun a fabwysiadwyd ar y Rhyngrwyd (rheoliad 10);

  • cyhoeddi hysbysiad, mewn papur newydd sy'n cylchredeg yn ardal yr awdurdod, ynghylch cynllun a fabwysiadwyd a'r wybodaeth sydd i'w chynnwys mewn hysbysiad o'r fath (rheoliad 11).