Sylwadau ar gynllun drafft7

1

Caniateir i unrhyw berson gyflwyno sylwadau ar gynllun drafft.

2

Rhaid i'r sylwadau hynny gael eu hanfon at yr awdurdod o fewn y cyfnod o ddeufis ar ôl dyddiad cyhoeddi'r hysbysiad yn unol â rheoliad 6 (neu os cafodd hysbysiadau eu cyhoeddi mewn papurau newydd gwahanol ar ddyddiadau gwahanol, ar ôl dyddiad cyhoeddi'r hysbysiad diwethaf o'r fath).