Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 2003

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 1732 (Cy.190)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

9 Gorffennaf 2003

Yn dod i rym

1 Awst 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 26 a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1) ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2):

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Awst 2003.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dirymu

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 1999(3).

Dehongli

3.  Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “anghenion addysgol arbennig” (“special educational needs”) yr ystyr a roddir i “special educational needs” yn adran 312(1) o Ddeddf Addysg 1996(4));

ystyr “awdurdod” (“authority”) yw awdurdod addysg lleol yng Nghymru;

ystyr “blwyddyn ysgol” (“school year”) yw'r flwyddyn ysgol sy'n gymwys i'r ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod o dan sylw neu, os nad yw'r un flwyddyn ysgol yn gymwys i bob ysgol o'r fath, y flwyddyn ysgol sy'n gymwys i'r nifer fwyaf o ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod hwnnw;

ystyr “cynllun” (“plan”) yw cynllun trefniadaeth ysgolion a rhaid dehongli “cynllun drafft” (“draft plan”) yn unol â hynny; ac

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

Cynnwys a hyd cynllun trefniadaeth ysgol

4.—(1At ddibenion adran 26(2)(a) ac (ab) o'r Ddeddf (sy'n darparu mai datganiad yw cynllun trefniadaeth ysgol sy'n nodi sut mae'r awdurdod yn bwriadu arfer ei swyddogaethau a'i bwerau yn ystod y cyfnod rhagnodedig gyda golwg ar sicrhau darpariaeth addysg gynradd ac uwchradd a fyddai'n diwallu anghenion poblogaeth ei ardal yn ystod cyfnod hwnnw), y cyfnod rhagnodedig yw'r cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad y caiff y cynllun ei fabwysiadu gan yr awdurdod o dan reoliad 8 neu 9 ac sy'n dod i ben ar ddiwedd y bumed flwyddyn ysgol ar ôl y flwyddyn ysgol pan gyhoeddwyd y cynllun drafft hwnnw.

(2Mae'r cyfeiriad ym mharagraff (1) at gyhoeddi'r y cynllun drafft yn gyfeiriad at y cynllun drafft cychwynnol hwnnw a gyhoeddwyd o dan reoliad 5, ni waeth a gafodd cynllun drafft o'r newydd a oedd yn disodli'r cynllun drafft hwnnw ei gyhoeddi wedyn o dan reoliad 9(1).

(3Yn benodol rhaid i'r cynllun ymdrin â —

(a)gwybodaeth ddemograffig sy'n berthnasol i gyflenwad lleoedd mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod;

(b)gwybodaeth ystadegol sy'n ymwneud â'r nifer o leoedd sydd mewn bodolaeth mewn ysgolion cynradd ac uwchradd a gynhelir gan yr awdurdod;

(c)datganiad polisïau ac egwyddorion sy'n berthnasol i ddarparu lleoedd mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod;

(ch)casgliadau, ar sail gwybodaeth ddemograffig ac ystadegol, polisïau ac egwyddorion, yn ymwneud ag unrhyw ormodedd neu annigonoldeb o ran darpariaeth addysg gynradd ac uwchradd mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod yn ystod y cyfnod y mae'r cynllun yn ymwneud ag ef;

(d)cynigion yr awdurdod ar gyfer cywiro unrhyw ormodedd neu annigonoldeb o ran darparu addysg gynradd ac uwchradd mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod yn ystod y cyfnod y mae'r cynllun yn ymwneud ag ef; a

(dd)y ddarpariaeth y mae'r awdurdod yn bwriadu ei gwneud yn ystod y cyfnod hwnnw ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig.

(4Yn gysylltiedig â pharatoi'r cynllun yn unol â'r rheoliad hwn, a mewn perthynas â gweithredu'r cynllun, mae'r awdurdod i ystyried canllawiau sy'n cael eu cyhoeddi gan y Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cyhoeddi cynllun drafft

5.—(1Rhaid i'r awdurdod gyhoeddi cynllun drafft drwy wneud y canlynol —

(a)anfon (yn ddarostyngedig i -baragraff (2)) gopi at y canlynol —

(i)corff llywodraethu pob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod;

(ii)Cyfarwyddwr Addysg Esgobaethol pob un o esgobaethau'r Eglwys yng Nghymru, lle y mae'r cyfan neu unrhyw ran o ardal yr esgobaeth honno yn dod o fewn ardal yr awdurdod;

(iii)Cyfarwyddwr Addysg Esgobaethol pob un o esgobaethau'r Eglwys Gatholig Rufeinig, lle y mae'r cyfan neu unrhyw ran o ardal yr esgobaeth honno yn dod o fewn ardal yr awdurdod;

(iv)Cyngor Cenhadaeth a Gweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru;

(v)Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru;

(vi)Cyd-bwyllgor Addysg Cymru;

(vii)Bwrdd yr Iaith Gymraeg;

(viii)Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant;

(ix)Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru;

(x)Consortiwm Cymunedol Addysg a Hyfforddiant ar gyfer ardal yr awdurdod neu gorff arall o'r fath sydd yn cynrychioli darparwyr lleol ar gyfer addysg a hyfforddiant i bersonau dros oedran ysgol gorfodol; a

(xi)Cynulliad Cenedlaethol Cymru; a

(b)adneuo copi yn y llyfrgelloedd cyhoeddus hynny yn ardal yr awdurdod y mae'r awdurdod yn barnu eu bod yn briodol.

(2Ni fydd is-baragraff (1)(a)(i) yn gymwys mewn perthynas â chorff llywodraethu unrhyw ysgol os yw'r awdurdod yn cyhoeddi'r cynllun drafft ar y Rhyngrwyd a hynny ar wefan yr awdurdod a bod gan yr ysgol gyfleusterau sy'n caniatáu cyrchu'r cynllun ar y Rhyngrwyd.

(3Ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, rhaid cyhoeddi'r cynllun drafft cyntaf ar 31 Rhagfyr 2003, neu cyn hynny.

(4Rhaid i'r awdurdod baratoi a chyhoeddi cynlluniau drafft pellach ar 31 Rhagfyr 2006 neu cyn hynny, ac ar 31 Rhagfyr neu cyn hynny o fewn pob trydedd flwyddyn ar ôl hynny.

(5Rhaid i'r awdurdod baratoi a chyhoeddi cynllun drafft ychwanegol mewn unrhyw flwyddyn pan nad yw'n rhaid iddynt gyhoeddi cynllun drafft ychwanegol yn unol â pharagraff (4), os bu unrhyw newid o ran polisi neu amgylchiadau lleol sydd yn ymwneud â darpariaeth addysg gynradd neu uwchradd ers i'r cynllun diwethaf gael ei baratoi.

(6Cyn cyhoeddi cynllun drafft rhaid i'r awdurdod ymgynghori â'r personau hynny y mae'n ymddangos iddo eu bod yn bersonau priodol.

Cyhoeddi hysbysiad o gynllun drafft

6.  Yr un pryd ag y bydd yn cyhoeddi cynllun drafft rhaid i'r awdurdod gyhoeddi hysbysiad mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn ardal yr awdurdod—

(a)yn datgan ymhle y gellir archwilio'r cynllun drafft,

(b)yn rhoi crynodeb o gasgliadau'r cynllun drafft,

(c)yn pennu'r rhannau hynny o ardal yr awdurdod, os deuir i'r casgliad yn y cynllun y dylai camau gael eu cymryd, i gywiro unrhyw ormodedd neu annigonoldeb o ran darparu addysg gynradd neu uwchradd mewn ysgolion a gynhelir mewn rhannau o ardal yr awdurdod, ac

(ch)yn datgan effaith rheoliadau 7 i 11.

Sylwadau ar gynllun drafft

7.—(1Caniateir i unrhyw berson gyflwyno sylwadau ar gynllun drafft.

(2Rhaid i'r sylwadau hynny gael eu hanfon at yr awdurdod o fewn y cyfnod o ddeufis ar ôl dyddiad cyhoeddi'r hysbysiad yn unol â rheoliad 6 (neu os cafodd hysbysiadau eu cyhoeddi mewn papurau newydd gwahanol ar ddyddiadau gwahanol, ar ôl dyddiad cyhoeddi'r hysbysiad diwethaf o'r fath).

Mabwysiadu cynllun drafft gan yr awdurdod

8.—(1Ar ôl cyhoeddi cynllun drafft ac ar ôl i'r cyfnod y cyfeiriwyd ato yn rheoliad 7(2) ddod i ben, rhaid i'r awdurdod, ar ôl ystyried unrhyw sylwadau a anfonwyd ato o fewn y cyfnod hwnnw, benderfynu a ddylai'r cynllun gael ei fabwysiadu ganddo neu beidio (a hynny gydag addasiadau neu hebddynt).

(2Rhaid i'r awdurdod wneud ei benderfyniad o dan baragraff (1) o fewn y cyfnod o ddeufis ar ôl i'r cyfnod y cyfeiriwyd ato yn rheoliad 7(2) ddod i ben.

(3Os yw'r awdurdod yn penderfynu mabwysiadu'r cynllun drafft (gydag addasiadau neu hebddynt), rhaid i'w fabwysiadu dod i rym ar ddyddiad y penderfyniad.

Cyhoeddi a mabwysiadu cynllun drafft o'r newydd gan yr awdurdod

9.—(1Os yw'r awdurdod yn penderfynu o dan reoliad 8 i beidio â mabwysiadu'r cynllun drafft (gydag addasiadau neu hebddynt), rhaid iddo baratoi a chyhoeddi o dan y paragraff hwn gynllun drafft o'r newydd yn lle'r cynllun drafft hwnnw.

(2Mae rheoliadau 5(1), 5(6), 6 a 7 i fod yn gymwys mewn perthynas â chynllun drafft o'r newydd a gyhoeddwyd o dan baragraff (1) yn yr un modd ag y maent yn gymwys i gynlluniau drafft, ac eithrio bod rhaid i'r crynodeb o gasgliadau'r cynllun drafft a roddir yn yr hysbysiad sy'n cael ei gyhoeddi o dan reoliad 6 (fel y'i cymhwysir) gynnwys, yn achos cynllun drafft o'r newydd, ddatganiad byr o sut mae'r casgliadau hynny yn wahanol i'r rhai a roddwyd yn yr hysbysiad a gyhoeddwyd o dan y rheoliad hwnnw mewn perthynas â'r cynllun drafft y mae'r cynllun drafft o'r newydd yn ei ddisodli, a rhaid i'r hysbysiad ddatgan effaith rheoliadau 7, 9(4), 10 ac 11 (yn lle effaith rheoliadau 7 i 11).

(3Os yw'n ofynnol cyhoeddi cynllun drafft o'r newydd o dan baragraff (1), rhaid ei gyhoeddi o fewn y cyfnod o dri mis ar ôl i'r cyfnod, pan oedd yn ofynnol cyflwyno unrhyw sylwadau ar y cynllun drafft y mae'n ei ddisodli yn unol â rheoliad 7(2), ddod i ben.

(4Ar ôl cyhoeddi cynllun drafft o'r newydd o dan y rheoliad hwn, ac ar ôl i'r cyfnod y cyfeiriwyd ato yn rheoliad 7(2) (fel y'i cymhwysir gan baragraff (1)) fel cyfnod cyflwyno sylwadau ar y cynllun drafft o'r newydd ddod i ben, rhaid i'r awdurdod, o fewn y cyfnod o ddeufis ar ôl i'r cyfnod hwnnw ddod i ben, fabwysiadu'r cynllun drafft o'r newydd (gydag addasiadau neu hebddynt) a bydd ei fabwysiadu yn effeithiol ar ddyddiad ei fabwysiadu.

Cyhoeddi cynllun a fabwysiadwyd

10.  Os yw cynllun wedi'i fabwysiadu gan awdurdod o dan reoliad 8 neu 9, rhaid i'r awdurdod gyhoeddi'r cynllun fel y'i mabwysiadwyd drwy wneud y canlynol—

(a)gosod copi ar y Rhyngrwyd a hynny ar wefan yr awdurdod;

(b)hysbysu pob person a chorff a grybwyllwyd yn rheoliad 5(1) bod y cynllun ar gael ar y Rhyngrwyd a hynny ar wefan yr awdurdod; ac

(c)hysbysu'r llyfrgelloedd cyhoeddus hynny yn ei ardal y mae'n barnu eu bod yn briodol, bod y cynllun ar gael ar y Rhyngrwyd a hynny ar wefan yr awdurdod.

Cyhoeddi hysbysiad o gynllun a fabwysiadwyd

11.  Yr un pryd ag y byddant yn cyhoeddi cynllun a fabwysiadwyd o dan reoliad10, rhaid i'r awdurdod gyhoeddi hysbysiad mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn ardal yr awdurdod—

(a)yn datgan ymhle y gellir archwilio'r cynllun, ac ymhle y gellir ei ddarganfod ar y Rhyngrwyd, a

(b)yn rhoi crynodeb o gasgliadau'r cynllun, ac

(c)yn pennu'r rhannau hynny o ardal yr awdurdod os deuir i'r casgliad yn y cynllun, y dylai camau gael eu cymryd i gywiro unrhyw ormodedd neu annigonoldeb o ran darparu addysg gynradd neu uwchradd mewn ysgolion a gynhelir mewn rhannau o ardal yr awdurdod.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)

D.Elis-Thomas

Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

9 Gorffennaf 2003

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae adran 26 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau addysg lleol baratoi, ar gyfer eu hardaloedd, gynlluniau trefniadaeth ysgolion sy'n nodi sut y maent, yn ystod y cyfnod y mae'r cynllun yn ymwneud ag ef, yn bwriadu arfer eu swyddogaethau gyda golwg ar sicrhau darpariaeth o ran addysg gynradd ac uwchradd a fydd yn bodloni anghenion poblogaeth eu hardal, ac yn ei gwneud yn ofynnol iddynt bennu unrhyw gyfleusterau y maent yn disgwyl iddynt fod ar gael y tu allan i'w hardal ar gyfer darparu addysg o'r fath.

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n cael eu gwneud o dan adran 26, yn dirymu ac yn cymryd lle Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 1999. Maent yn darparu ar gyfer y materion canlynol—

  • y cyfnod y mae pob cynllun o'r fath i ymwneud ag ef (rheoliad 4(1) a (2));

  • y materion y mae'n rhaid ymdrin â hwy ym mhob cynllun (rheoliad 4(3));

  • paratoi a chyhoeddi cynllun drafft, ac ym mha ddull y mae'r cynlluniau drafft i'w cyhoeddi (rheoliadau 5(1) ac (2));

  • y gofynion newydd yn ymwneud â'r cyfnodau rhwng pob tro y mae'n rhaid i'r cynlluniau drafft gael eu paratoi, a'r dyddiadau erbyn pryd y mae'n rhaid eu cyhoeddi (rheoliad 5(3) i (5));

  • gofyniad bod yr awdurdod yn ymgynghori â'r personnau hynny y mae'n credu eu bod yn briodol cyn cyhoeddi'r cynlluniau drafft (rheoliad 5(6));

  • cyhoeddi hysbysiad ynghylch pob cynllun drafft mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn ardal yr awdurdod, a'r wybodaeth sydd i'w chynnwys mewn hysbysiad o'r fath (rheoliad 6);

  • y weithdrefn i'w defnyddio pan fo personau'n cyflwyno sylwadau ar gynllun drafft a'r amserlen y mae'n rhaid iddynt gadw ati wrth gyflwyno sylwadau o'r fath (rheoliad 7);

  • y weithdrefn i'w defnyddio gan yr awdurdod pan fydd yn mabwysiadu cynllun drafft (rheoliad 8);

  • paratoi a chyhoeddi cynllun drafft o'r newydd pan fo'r awdurdod yn penderfynu peidio â mabwysiadu cynllun drafft, ac ym mha fodd y dylid cyhoeddi cynllun o'r fath, a mabwysiadu cynllun o'r fath (rheoliad 9);

  • y gofynion newydd sydd yn gysylltiedig â chyhoeddi cynllun a fabwysiadwyd ar y Rhyngrwyd (rheoliad 10);

  • cyhoeddi hysbysiad, mewn papur newydd sy'n cylchredeg yn ardal yr awdurdod, ynghylch cynllun a fabwysiadwyd a'r wybodaeth sydd i'w chynnwys mewn hysbysiad o'r fath (rheoliad 11).

(1)

1998 p.31. Diwygiwyd adran 26 gan adran 149 o, Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p.21), a pharagraffau 1 a 80 o Atodlen 9 iddi.

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(3)

O.S. 1999/499, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/3710 (Cy.306).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources