Rheoliadau Diogelu'r Arfordir (Hysbysiadau) (Cymru) 2003

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu fwrdeistref sirol, mewn perthynas â Chymru, neu, mewn perthynas â Lloegr, cyngor sir, dosbarth neu fwrdeistref;

  • mae gan “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i'r term “electronic communication” gan adran 15(1) Deddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(1);

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelu'r Arfordir 1949;

  • ystyr “hysbysiad o gynnig i wneud gwaith diogelu'r arfordir” (“notice of a proposal to carry out coast protection work”) yw hysbysiad y mae'n rhaid i awdurdod diogelu'r arfordir ei gyhoeddi o dan adran 5(1) o'r Ddeddf.