Search Legislation

Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) (Diwygio) (Cymru) 2003

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 1849 (Cy.199)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) (Diwygio) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

16 Gorffennaf 2003

Yn dod i rym

18 Gorffennaf 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(c), (d) ac (f), 26(3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) a pharagraff o Atodlen 1 iddi ac a freiniwyd ynddo bellach(2) ac yntau wedi parchu yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau ar faterion diogelwch bwyd(3) ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) (Diwygio) (Cymru) 2003; maent yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 18 Gorffennaf 2003.

Diwygio Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) 1995

2.—(1I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, diwygir Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) 1995(4)) yn unol â pharagraffau canlynol y rheoliad hwn.

(2Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli)—

(a)yn lle'r diffiniad o “the 1992 Order” rhodder y diffiniad canlynol —

“the 1999 Order” means the Animal By-Products Order 1999(5);;

(b)mewnosoder y diffiniad canlynol rhwng y diffiniad o “animal by-products premises” a'r diffiniad o “carcase” —

“approved premises” means premises which are approved under article 7 of the 1999 Order;; a

(c)dileer y diffiniad o “sterilised”.

(3Ym mharagraff (1) o reoliad 3 (ystyr “animal by-product”) dileer y gair “direct”.

(4Ym mharagraff (a) o reoliad 4 (cwmpas) dileer y geiriau “sterilisation or”.

(5ym mharagraff (2) o reoliad 5 ( esemptiadau)

(a)dileer y geiriau “and sterilisation”;

(b)rhodder yr is-baragraff canlynol o flaen is-baragraff (a) —

(a)poultry heads and feet which —

(i)have been subjected to a post-mortem veterinary inspection, and

(ii)during the course of the inspection did not show gross pathological lesions indicating disease communicable to man or animals;.

(6Ym mhob un o is-baragraffau (c) a (d) o baragraff (2) o reoliad 5 (esemptiadau) rhodder yr ymadrodd “the 1999 Order” yn lle'r ymadrodd “the 1992 Order.”

(7Yn rheoliad 6 (sterileiddio a staenio sgil-gynhyrchion anifeliaid mewn storfeydd oer, tir ac adeiladau torri, cyfleusterau prosesu helgig neu ladd-dai) —

(a)yn y pennawd dileer y geiriau “sterilisation and”;

(b)ym mharagraff (1) dileer y geiriau “sterilised or”;

(c)dileer paragraff (2)(a);

(ch)ym mharagraff (2)(b) —

(i)dileer y gair “or” pan ymddangoso ar ddiwedd is-baragraff (i), a

(ii)ar ôl is-baragraff (ii) mewnosoder yr is-baragraff canlynol —

(iii)is immediately moved, in the manner specified in paragraph (4), to approved premises for rendering there, or to premises which are adequately separated from the cold store, cutting premises, game processing facility or slaughterhouse concerned for incineration there in accordance with article 10 of the 1999 Order.;

(d)dileer paragraff 2(c);

(dd)ym mharagraff (3) —

(i)rhodder yr ymadrodd “paragraph (2)(b) above” yn lle'r ymadrodd “paragraph (2)(a) or (b) above”, a

(ii)dileer yr ymadrodd “sterilised or, as the case may be,”; ac

(e)yn lle paragraff (4) rhodder y paragraff canlynol —

(4) The manner is that the animal by-product is moved through a sealed and leak-proof pipe which connects the cold-store, cutting premises, game processing facility or slaughterhouse concerned directly with the relevant approved premises or, as the case may be, premises at which the animal by-product is to be incinerated..

(8Yn rheoliad 7 (sterileiddio a staenio sgil-gynhyrchion anifeiliaid ar dir ac mewn adeiladau sgil-gynhychion anifeiliaid) —

(a)yn y pennawd dileer y geiriau “sterilisation and”;

(b)ym mharagraff (1) —

(i)rhodder yr ymadrodd “paragraphs (2) and (3)” yn lle'r ymadrodd “paragraph (2)”, a

(ii) dileer y geiriau “sterilised or”; a

(c)yn lle paragraffau (2) a (3), rhodder y paragraffau canlynol —

(2) The duty imposed by paragraph (1) shall not apply in relation to any animal by-product which is immediately moved, in the manner specified in paragraph (3), to approved premises for rendering there, or to premises which are adequately separated from the animal by-products premises concerned for incineration there in accordance with article 10 of the 1999 Order.

(3) The manner is that the animal by-product is moved through a sealed and leak-proof pipe which connects the animal by-products premises concerned directly with the relevant approved premises or, as the case may be, premises at which the animal by-product is to be incinerated..

(9Ym mharagraff (1) o reoliad 8 (rhewi sgil-gynhyrchion anifeilaidd ar unrhyw dir ac mewn unrhyw adeiladau sgil-gynhyrchion, storfa oer, tir ac adeiladau torri, cyfleuster prosesu helgig neu ladd-dy) dileer yr ymadrodd “sterilised or”.

(10Ym mhob un o baragraffau (1) a (3) o reoliad 9 (storio a phacio sgil-gynhyrchion anifeiliaid) dileer y gair “unsterilised”.

(11Ym mhob un o baragraffau (1) a (2) o reoliad 10 (cyfyngu ar symud sgil-gynhyrchion anifeiliaid) dileer yr ymadrodd “sterilised or”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

16 Gorffennaf 2003

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) 1995 (O.S. 1995/614, fel y'u diwygiwyd eisoes) i'r graddau y maent yn perthyn i Gymru. Mae'r Rheoliadau hynny (“Rheoliadau 1995”) wrth gael eu cymhwyso i Gymru ar hyn o bryd yn darparu ar gyfer sterileiddio neu staenio sgil-gynhyrchion anifeiliaid ac ar gyfer symud y sgil-gynhyrchion hynny.

2.  Effaith y diwygiadau yw na chaniateir sterileiddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid o hyn allan. Mae staenio bellach yn ofynnol ym mhob achos, ac eithrio pan bennir hynny yn rheoliad 5(2), 6(2) neu 7(2) o Reoliadau 1995. Effaith y diwygiadau yw nad yw staenio'n ofynnol pan symudir sgil-gynnyrch anifail ar unwaith yn y dull a bennir yn rheoliad 6(4) neu, yn ôl y digwydd, 7(3) o Reoliadau 1995 i dir ac adeiladau a gymeradwyir o dan erthygl 7 o Orchymyn Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid 1999 (O.S. 1999/646, fel y'i diwygiwyd) i'w rendro yno neu i dir ac adeiladau eraill i'w hylosgi yn unol ag erthygl 10 o'r Gorchymyn hwnnw.

3.  Dileir yr esemptiad o'r gofyniad o ran staenio neu sterileiddio y mae rheoliadau 6 a 7 yn ei osod ac a gynhwysir yn rheoliad 5(2)(a) o Reoliadau 1995 ac sy'n gweithredu o blaid sgil-gynhyrchion dofednod ac yn lle'r esemptiad hwnnw rhoddir esemptiad sy'n gweithredu o blaid pennau a thraed dofednod a fu'n destun archwiliad milfeddygol post mortem na ddangosodd, yn ystod yr archwiliad hwnnw, unrhyw anafiadau patholegol sylweddol a oedd yn nodi afiechyd y gellid ei drosglwyddo i ddyn neu anifeiliaid (rheoliad 2(4)).

4.  Mae Rheoliad 2(2) o'r Rheoliadau hyn yn diwygio darpariaeth ddehongli Rheoliadau 1995 drwy roi diffiniad newydd sy'n dynodi Gorchymyn Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid 1999 ac yn mewnosod diffiniad o “approved premises” yn lle'r diffiniad sy'n dynodi Gorchymyn Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid 1992. Mae Rheoliad 2(3) o'r Rheoliadau hyn yn gwneud mân ddiwygiad i'r diffiniad o “animal by-product” yn rheoliad 3(1) o Reoliadau 1995.

5.  Mae arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Mae copi ohono wedi'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau pellach o'r asesiad oddi wrth Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, Y Llawr Cyntaf, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF1 1EW.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau “the Ministers”, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), fel y'i darllenir ag adran 40(3) Deddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28).

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.

(5)

O.S. 1999/646, a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/1704.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources