2003 Rhif 1855 (Cy.205)

PYSGODFEYDD MÔR, CYMRUCADWRAETH PYSGOD MÔR

Gorchymyn Gwahardd Pysgota â Threillrwydi Lluosog (Cymru) 2003

Wedi'i wneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 5(1) a 15(3) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 19671, ac a freinir ynddo bellach2,a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Teitl, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gwahardd Pysgota â Threillrwydi Lluosog (Cymru) 2003.

2

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru ac yn dod i rym ar 1 Awst 2003.

3

Yn y Gorchymyn hwn mae i “Gymru” yr un ystyr â “Wales” yn adran 155(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 20023 ac mae “dyfroedd Cymru” i'w ddehongli yn unol â hynny.

Dehongli2

Yn y Gorchymyn hwn —

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967;

  • ystyr “Gorchymyn cyfatebol” (“equivalent Order”) yw Gorchymyn sy'n gymwys i Loegr, Gogledd Iwerddon neu'r Alban ac sydd wedi'i wneud o dan adran 5 o'r Ddeddf, yn unol ag Erthygl 46 o Reoliad y Cyngor, ac sy'n gwahardd pysgota ag unrhyw dreillrwyd ac eithrio treillrwyd unigol;

  • ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 850/98 dyddiedig 30 Mawrth 1998 ar gyfer cadw adnoddau pysgodfeydd drwy gyfrwng mesurau technegol i amddiffyn organeddau morol ifanc4 fel y'i cywirwyd gan y Corigendwm i Atodiad XII i Reoliad y Cyngor5 ac fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 308/19996), Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1459/19997, Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2723/19998), Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 812/20009 a Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1298/200010;

  • ystyr “rhwyd” (“net”) yw treillrwyd, Rhwyd Sân Danaidd neu rwyd lusg tebyg;

  • ystyr “treill-long drawst” (“beam trawler”) yw cwch pysgota sydd, i'r graddau y mae'n cario neu'n defnyddio rhwydi, ond yn cario neu'n defnyddio rhwydi sydd wedi'u dylunio i gael eu llusgo ar hyd gwely'r môr ac y mae eu genau wedi'u hestyn â thrawst, bar neu ddyfais anhyblyg arall;

  • ystyr “treillrwyd unigol” (“single trawl”) yw rhwyd unigol sy'n cael ei lusgo â rig dau ystof lle mae gan y rhwyd rhaff waelod un-gofl (a'r gofl yw'r rhan ganolog o'r dreillrwyd rhwng yr esgyll isaf), a lle mae'r rhaff waelod wedi'i chysylltu â'r rig llusgo ym mhen pob asgell a lle nad oes unrhyw gysylltiad arall, gan gynnwys ffrwynau, gwifrau neu raffau, yn ei chysylltu â'r rig llusgo a enwyd;

ac mae i unrhyw ymadrodd cyfatebol arall a ddefnyddir yn Rheoliad y Cyngor yr un ystyr yn y Gorchymyn hwn ag yn y Rheoliad hwnnw.

Gwahardd dull pysgota3

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, gwaherddir pysgota gan unrhyw gwch pysgota Prydeinig yn nyfroedd Cymru ag unrhyw dreillrwyd ac eithrio treillrwyd unigol.

2

Nid yw paragraff (1) uchod yn gymwys —

a

i unrhyw dreill-long drawst;

b

i bysgota â threillrwyd nad yw maint ei fasgl yn llai nag 80 milimetr.

Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig mewn perthynas â chychod pysgota4

1

Er mwyn gorfodi'r Gorchymyn hwn, neu unrhyw Orchymyn cyfatebol, caiff swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig arfer y pwerau a roddir gan baragraffau (2) i (4) o'r erthygl hon mewn perthynas ag unrhyw gwch pysgota Prydeinig yn nyfroedd Cymru.

2

Caiff y swyddog fynd ar fwrdd y cwch, gyda phersonau a neilltuwyd i gynorthwyo gyda'i ddyletswyddau neu hebddynt, a chaiff ei gwneud yn ofynnol bod y cwch yn cael ei stopio a gwneud unrhyw beth arall a fydd yn hwyluso naill ai mynd ar fwrdd y cwch neu fynd oddi arno.

3

Caiff y swyddog ei gwneud yn ofynnol bod y meistr a phersonau eraill sydd ar fwrdd y cwch yn bresennol a chaiff wneud unrhyw archwiliad ac ymholiadau sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol at y diben a grybwyllir ym mharagraff (1) o'r erthygl hon ac, yn benodol —

a

caiff archwilio unrhyw bysgod ar y cwch ac offer y cwch, gan gynnwys yr offer pysgota, a'i gwneud yn ofynnol bod personau sydd ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r archwiliad;

b

caiff ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson sydd ar fwrdd y cwch yn cyflwyno unrhyw ddogfen sy'n ymwneud â'r cwch, ag unrhyw weithrediadau pysgota neu weithrediadau ategol iddynt neu â'r personau sydd ar fwrdd y cwch sydd yng nghadwraeth neu feddiant y person hwnnw;

c

er mwyn canfod a yw meistr, perchennog neu siartrwr y cwch wedi cyflawni tramgwydd o dan adran 5(1) neu (6) o'r Ddeddf11 o'i darllen gyda'r Gorchymyn hwn neu unrhyw Orchymyn cyfatebol, caiff chwilio'r cwch am unrhyw ddogfen o'r fath a gall ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r chwilio; ac

ch

os oes gan y swyddog reswm dros amau bod tramgwydd perthnasol wedi'i chyflawni mewn perthynas â'r cwch, caiff gipio a chadw unrhyw ddogfen o'r fath a gyflwynir neu y deuir o hyd iddi ar fwrdd y cwch er mwyn galluogi defnyddio'r ddogfen fel tystiolaeth mewn achos ynglŷn â'r tramgwydd;

ond nid oes dim yn is-baragraff (ch) uchod yn caniatáu i unrhyw ddogfen y mae'r gyfraith yn mynnu ei bod yn cael ei chario ar fwrdd y cwch gael ei chipio a'i chadw ac eithrio tra bydd y cwch yn cael ei gadw mewn porthladd.

4

Os yw'n ymddangos i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig fod y Gorchymyn hwn wedi'i dorri ar unrhyw adeg, caiff y swyddog —

a

ei gwneud yn ofynnol bod meistr y cwch y credir y torrwyd y gorchymyn mewn perthynas ag ef yn mynd â'r cwch a'i griw i'r porthladd sy'n ymddangos i'r swyddog fel y porthladd cyfleus agosaf, neu caiff y swyddog wneud hynny ei hun; a

b

cadw'r cwch yn y porthladd neu ei gwneud yn ofynnol bod y meistr yn ei gadw yn y porthladd;

a phan fydd swyddog o'r fath yn cadw cwch neu'n ei gwneud yn ofynnol cadw cwch rhaid i'r swyddog gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r meistr yn datgan y caiff y cwch ei gadw neu ei bod yn ofynnol ei gadw hyd oni thynnir yr hysbysiad yn ôl drwy gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig arall a lofnodwyd gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.

Diddymu5

Diddymir drwy hyn Orchymyn Cimychiaid Norwy (Gwahardd Dull Pysgota) 199312, i'r graddau y mae'n effeithiol mewn perthynas â Chymru.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diddymu ac yn ailddeddfu gyda diwygiadau Orchymyn Cimychiaid Norwy (Gwahardd Dull Pysgota) 1993 (O.S. 1993/1887) mewn perthynas â Chymru.

Mae'r Gorchymyn yn gwahardd pysgota ag unrhyw dreillrwyd heblaw treillrwyd unigol, ac eithrio o dan amgylchiadau penodedig. Yr oedd y gwaharddiad yng Ngorchymyn 1993 yn ymwneud â physgota am gimychiaid Norwy yn unig. Nid yw'r gwaharddiad yn y Gorchymyn hwn wedi'i gyfyngu felly. Mae'r gwaharddiad yn gymwys i gwch pysgota Prydeinig yn nyfroedd Cymru (erthygl 3(1)). Mae'r Gorchymyn yn cyflwyno diffiniad o “dreillrwyd unigol” (erthygl 2(1)). Nid yw'r gwaharddiad yn gymwys i dreill-longau trawst nac i bysgota â threillrwyd nad yw maint penodedig eu masgl yn llai nag 80 milimetr (erthygl 3(2)).

Rhoddir pwerau penodol i swyddogion pysgodfeydd môr Prydain er mwyn gorfodi'r Gorchymyn (erthygl 4).

Rhagnodir tramgwyddau gan adrannau 5(1) a (6) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967 (p.84) a chosbau gan adran 11 o'r Ddeddf honno, fel y'i diwygiwyd gan adran 24(1) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p.29).

Mae'r Gorchymyn hwn yn cael ei wneud drwy ddibynnu ar Erthygl 46 o Reoliad y Cyngor (EC) 850/98 ar gyfer cadw adnoddau pysgodfeydd drwy gyfrwng mesurau technegol i amddiffyn organeddau morol ifanc (OJ Rhif L125, 27.4.98, t.1), sy'n awdurdodi Aelod-wladwriaeth i gymryd mesurau cenedlaethol penodol i gadw a rheoli stociau, ar yr amod bod mesurau o'r fath yn gymwys i bysgotwyr o'r Aelod-wladwriaeth honno yn unig.

Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi ac wedi'i adneuo yn llyfrgell y Cynulliad Cenedlaethol. Gellir cael copïau oddi wrth y Gangen Bysgodfeydd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.