RHAN 3Trwyddedau

Trwyddedau penodol14

1

O ran anifail a symudir o dan drwydded benodol—

a

rhaid iddo gael ei symud ar hyd y llwybr mwyaf uniongyrchol sydd ar gael i'r gyrchfan a bennir yn y drwydded, a

b

rhaid i'r drwydded fynd gydag ef ar hyd y daith.

2

Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am unrhyw anifail a symudir o dan drwydded benodol, os myn cwnstabl neu arolygydd neu unrhyw un arall o swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol, yr Ysgrifennydd Gwladol neu awdurdod lleol —

a

dangos y drwydded;

b

caniatáu i gopi ohoni neu o ddyfyniad ohoni gael ei gymryd; ac

c

os gofynnir hynny iddo, roi ei enw a'i gyfeiriad.

3

Rhaid i bob anifail sy'n cael ei symud o dan awdurdod trwydded o dan y Gorchymyn hwn gael ei gadw ar wahân i unrhyw anifail nad yw'n cael ei symud o dan awdurdod y drwydded honno, a hynny ar hyd y daith.

4

Pan fydd anifeiliaid yn cael eu symud o dan drwydded benodol, yna, onid yw'r drwydded yn darparu fel arall, rhaid i feddiannydd y safle y symudir hwy iddo—

a

sicrhau y rhoddir y drwydded iddo ef neu i'w gynrychiolydd cyn caniatáu i'r anifeiliaid gael eu dadlwytho; a

b

cadw'r drwydded am chwe mis ac yn ystod y cyfnod hwnnw ei dangos i arolygydd os gofynnir am ei gweld.