- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn disodli Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2003(1). Mae'n newid y darpariaethau yn y Gorchymyn hwnnw fel a ganlyn—
Mae'n dileu'r ddarpariaeth ddarfod fel bod gan y Gorchymyn bellach effaith barhaol (erthygl 1);
Mae'n diwygio'r darpariaethau ynglŷn â'r cyfnod segur fel bod cyrhaeddiad mochyn yn sbarduno cyfnod segur o 20 diwrnod ar gyfer unrhyw foch ar y safle a chyfnod segur o chwe diwrnod ar gyfer unrhyw wartheg, geifr a defaid (erthygl 3);
Mae'n diwygio Atodlen 2 fel bod symudiadau anifeiliaid i safle sydd wedi'i drwyddedu o dan Orchymyn Crynoadau Anifeiliaid 2003(2) ddim yn sbarduno'r cyfnod segur;
Mae'n ychwanegu paragraff 12 at Atodlen 1 (symud hyrddod a theirw ar gyfer bridio) a pharagraffau 6, 7 ac 8 (darpariaethau ynghylch hyrddod, teirw a geifr bridio) i Atodlen 2.
Mae rhan 2 o'r Gorchymyn yn darparu na chaniateir symud gwartheg, geifr, a defaid o safle os yw anifeiliaid penodedig wedi'u symud i'r safle hwnnw yn ystod y chwe diwrnod blaenorol (erthygl 4). Mae'n darparu hefyd na chaiff moch eu symud o safle os yw moch wedi'u symud i'r safle hwnnw yn ystod yr 20 diwrnod blaenorol neu os yw gwartheg, geifr, neu ddefaid wedi'u symud i'r safle hwnnw yn ystod y chwe diwrnod blaenorol (erthygl 5).
Mae'n darparu ar gyfer eithriadau i'r gofynion hyn (erthyglau 6, 7 ac 8 ac Atodlenni 1 a 2). Mae Atodlen 1 yn rhestru'r symudiadau oddi ar safleoedd a ganiateir yn ystod y cyfnod segur ac mae Atodlen 2 yn rhestru'r symudiadau i safleoedd nad ydynt yn sbarduno'r cyfnod segur.
Mae'n darparu ar gyfer marcio defaid a geifr sy'n teithio i sioeau neu arddangosfeydd (erthygl 9).
Mae'n rheoli symudiadau anifeiliaid yn ôl ac ymlaen i ladd-dai (erthygl 10) ac yn darparu ar gyfer cysylltu setiau o safleoedd â'i gilydd yn grwpiau meddiannaeth unigol (erthygl 11).
Mae rhan 3 o'r Gorchymyn yn darparu na chaniateir symud gwartheg, ceirw, moch, geifr a defaid ac eithrio yn unol â thrwydded (erthygl 12).
Mae'n gwneud darpariaethau ar gyfer trwyddedau, caniatadau ac awdurdodiadau ac yn awdurdodi'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol i gyflwyno hysbysiadau sy'n atal safleoedd neu bersonau unigol rhag gweithredu o dan drwydded gyffredinol (erthyglau 13 i 19).
Mae'n darparu ar gyfer diheintio cerbydau (erthygl 20).
Mae'n darparu ar gyfer newid meddiannaeth safle yr effeithir arno gan y Gorchymyn (erthygl 21).
Mae'n cael ei orfodi gan yr awdurdod lleol (erthygl 22).
Mae torri'r Gorchymyn yn dramgwydd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, ac yn dwyn cosb yn unol ag adran 75 o'r Ddeddf honno.
Mae'n diwygio Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002, fel y'i diwygiwyd, i ddileu'r cyfeiriad at y ffaith y byddai hwnnw'n colli ei effaith ar 1 Awst 2003. Fe fydd felly'n parhau mewn grym wedi'r dyddiad hwnnw (erthygl 24).
Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ac wedi'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae copïau ar gael oddi wrth yr Is-adran Iechyd Anifeiliaid, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: