http://www.legislation.gov.uk/wsi/2003/1967/article/1/made/welsh
Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2003
cy
King's Printer of Acts of Parliament
2011-07-05
ANIFEILIAID, CYMRU;IECHYD ANIFEILIAID
Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn disodli Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2003. Dyma'r newidiadau y mae'n eu gwneud i'r Gorchymyn hwnnw —mae'n ehangu diffiniad “crynoadau anifeiliaid” i gynnwys anifeiliaid a ddaethpwyd ynghyd i'w harchwilio er mwyn sicrhau bod ganddynt nodweddion brid penodol (erthygl 2);mae'n gwneud darpariaeth ar gyfer safleoedd mewn grŵ p meddiannaeth unigol (erthygl 3);mae'n gosod terfyn amser 48 awr ar grynoadau anifeiliaid at ddibenion gwerthu ac anfon anifeiliaid ymlaen o fewn Prydain Fawr er mwyn eu lladd, eu magu ymhellach neu eu pesgi. Caiff arolygydd milfeddygol estyn y terfyn amser ar werthiannau anifeiliaid os bydd angen gwneud hynny er lles yr anifeiliaid neu os bach yw'r perygl o gyflwyno salwch yn y gwerthiant neu wrth anfon anifeiliaid ymlaen wedi hynny (erthygl 7);mae'n ehangu paragraff 4 o'r Atodlen i gynnwys ysgarthion anifeiliaid sydd wedi cael eu dadlwytho o gerbyd mewn safle trwyddedig. Mae hefyd yn darparu mai at ddibenion glanhau a diheintio cerbyd yn unig y caiff cerbydau neu gyfarpar sydd wedi eu halogi ag ysgarthion anifeiliaid fynd i mewn i safle trwyddedig.
Enw, cymhwyso a chychwyn1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2003; mae'n gymwys i Gymru a daw i rym ar 1 Awst 2003.