Dehongli2
Yn y Gorchymyn hwn —
ystyr “anifeiliaid” (“animals”) yw gwartheg (ac eithrio buail ac iacod), ceirw, geifr, defaid a moch;
mae i “ardal i anifeiliaid” (“animal area”) yr ystyr a roddir yn erthygl 4(3)(c);
ystyr “crynhoad anifeiliaid” (“animal gathering”) yw achlysur pan gaiff anifeiliaid eu crynhoi ynghyd er mwyn —
- a
gwerthiant, sioe neu arddangosfa;
- b
eu hanfon ymlaen o fewn Prydain Fawr i'w magu ymhellach, eu pesgi neu eu lladd;
- c
archwiliad i gadarnhau bod gan yr anifeiliaid nodweddion brid penodol;
- a
mae “cyfarpar” (“equipment”) yn cynnwys corlannau a chlwydi; ac
ystyr “diheintydd a gymeradwywyd” (“approved disinfectant”) yw diheintydd a gymeradwywyd o dan Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 19782 sydd o'r cryfder y mae ei angen o dan y Gorchymyn hwnnw yn “gorchmynion cyffredinol”.