Gwaharddiad ar fewnforio

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaiff unrhyw berson fewnforio unrhyw gnau Brasil i Gymru oni bai—

(a)i'r amodau a bennir yn Erthyglau 1.1, 4.1, 4.2 ac Erthygl 5 o Benderfyniad y Comisiwn gael eu bodloni mewn perthynas â'r cnau Brasil hynny; neu

(b)i'r rhanddirymiad a gynhwysir yn Erthygl 1.2 o Benderfyniad y Comisiwn (sy'n ymwneud â llwythi a ymadawodd â Brasil cyn 5 Gorffennaf 2003) gael ei fodloni mewn perthynas â hwy.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaiff neb fewnforio unrhyw gnau Brasil i Gymru, ac eithrio drwy bwynt mynediad a restrir yn Atodlen II i Benderfyniad y Comisiwn.

(3Rhaid peidio â deall na pharagraff (1) na pharagraff (2) fel petaent yn gwahardd mewnforio i Gymru unrhyw gnau Brasil ac sydd mewn cylchrediad mewn aelod-Wladwriaeth o'r aelod-Wladwriaeth honno.

(4Euog o dramgwydd yw unrhyw berson sy'n mynd yn groes i baragraff (1) neu (2), gan wybod hynny, ac mae'n agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchar am dymor nad yw'n hwy na thri mis.