Search Legislation

Gorchymyn Clwy Clasurol y Moch (Cymru) 2003

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Clwy Clasurol y Moch (Cymru) 2003 a daw i rym ar 1 Hydref 2003.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn, os nad yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall—

ystyr “abwyfa” (“knacker’s yard”) yw unrhyw safle a ddefnyddir mewn cysylltiad â lladd, blingo neu dorri anifeiliaid na fwriedir i'w cig gael ei fwyta gan bobl;

ystyr carcas (“carcase”) yw carcas mochyn ac mae'n cynnwys rhan o garcas;

ystyr “y clefyd” (“the disease”) yw clwy clasurol y moch;

ystyr “daliad” (“holding”) yw unrhyw fan lle y mae unrhyw fochyn yn cael ei fridio neu ei gadw yn barhaol neu dros dro neu wedi cael eu cadw o fewn 56 diwrnod, ond nid yw'n cynnwys lladd-dy, abwyfa, cyfrwng cludo nac ardaloedd wedi eu ffensio lle y cedwir moch fferal y gellir eu hela;

ystyr “daliad a amheuir” (“suspected holding”) yw daliad y mae hysbysiad o dan erthygl 5 wedi cael ei gyflwyno ynglŷn ag ef;

ystyr “daliad heintiedig” (“infected holding”) yw daliad y mae'r Prif Swyddog Milfeddygol wedi cadarnhau bod y clefyd yn bresennol yno;

ystyr “y feirws” (“the virus”) yw feirws clwy clasurol y moch;

ystyr “lladd-dy” (“slaughterhouse”) yw unrhyw adeilad, safle neu le arall (heblaw cyfleuster trafod anifeiliaid hela a ffermir) ar gyfer cigydda anifeiliaid y bwriedir eu cig i'w fwyta gan bobl, ac mae'n cynnwys unrhyw le sydd ar gael mewn cysylltiad ag ef lle cedwir anifeiliaid cyn eu cigydda;

ystyr “mochyn” (“pig”) yw anifail o dylwyth y suidae;

ystyr “mochyn fferal” (“feral pig”) yw mochyn nas cedwir na bridir ar ddaliad ac nad yw mewn lladd-dy, mewn abwyfa nac ar gyfrwng cludo;

ystyr “y Prif Swyddog Milfeddygol” (“the Chief Veterinary Officer”) yw Prif Swyddog Milfeddygol Prydain Fawr; ac

ystyr “Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol” (“Divisional Veterinary Manager”) yw'r person a benodir dros dro gan yr Ysgrifennydd Gwladol i gael gwybod am anifeiliaid a charcasau sydd wedi eu heintio neu yr amheuir eu bod wedi eu heintio ar gyfer yr ardal lle y mae'r anifeiliaid neu'r carcasau hynny.

(2At ddibenion y Gorchymyn hwn—

(i)yr amheuir bod mochyn neu garcas mochyn wedi ei heintio gan y clefyd os oes ganddo'r arwyddion clinigol, neu namau post mortem neu os yw canlyniadau prawf diagnostig yn dangos ei bod yn bosib bod y feirws yn bresennol yn yr anifail hwnnw neu'r carcas hwnnw;

(ii)mae mochyn neu garcas mochyn wedi ei heintio gan y clefyd os yw'r Prif Swyddog Milfeddygol yn penderfynu ei fod wedi'i heintio ar sail arwyddion clinigol, neu namau post mortem, neu ganlyniadau prawf diagnostig neu amgylchiadau epidemiolegol.

Eithriadau

3.  Nid yw'r Gorchymyn hwn yn gymwys pan fo'r feirws yn bresennol mewn amgylchiadau sydd wedi eu hawdurdodi drwy drwydded a roddwyd o dan Orchymyn Pathogenau Anifeiliaid Penodedig 1998(1).

Hysbysu am y clefyd

4.—(1Rhaid i unrhyw berson sy'n amau bod y clefyd yn bresennol mewn unrhyw fochyn neu garcas—

(a)y mae'n berchen arno; neu

(b)sydd yn ei ofal; neu

(c)y mae yn ei archwilio,

hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol yn ddiymdroi.

(2Rhaid i unrhyw berson sy'n dadansoddi samplau a gymerir o unrhyw anifail neu garcas ac sy'n darganfod tystiolaeth o wrthgorffynnau neu antigenau i'r clefyd neu unrhyw frechiad i'r clefyd hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol yn ddiymdroi.

(3Ni chaiff neb symud yr un mochyn na charcas yr amheuir ei fod wedi ei heintio gan y clefyd, nac unrhyw gig, cynnyrch a wnaed o foch, semen, ofwm nac embryo mochyn, porthiant anifeiliaid, tail (tom) na biswail nac unrhyw offer, deunydd na gwastraff y maent yn debygol o drosglwyddo'r clefyd, o'r daliad nac o le arall lle y cafwyd hyd iddo, nes bydd arolygydd milfeddygol wedi ymweld â'r daliad neu'r lle arall hwnnw a bod yr arolygydd hwnnw naill ai wedi gorfodi cyfyngiadau o dan y Gorchymyn hwn neu wedi hysbysu'r person y mae'r mochyn neu'r carcas a amheuir yn ei ofal, nad oes angen, yn ei farn ef, gwneud hynny.

Camau i'w cymryd tra ymchwilir i amheuaeth o'r clefyd

5.—(1Rhaid i arolygydd milfeddygol sy'n amau bod y clefyd yn bresennol ar unrhyw ddaliad neu y gallasai fod wedi bod yn bresennol yno yn y 56 diwrnod diwethaf neu mewn lle arall neu ar gyfrwng cludo, os yw hysbysiad wedi ei roi o dan erthygl 4 ai peidio—

(a)cyflwyno hysbysiad i feddiannydd y daliad gan orfodi'r cyfyngiadau a'r gofynion a nodwyd ym mharagraff 3; a

(b)gwneud archwiliad i gadarnhau bod y clefyd yn bresennol neu'n absennol.

(2Pan gyflwynir hysbysiad o dan baragraff 1 rhaid i'r meddiannydd —

(a)gydweithio ag unrhyw arolygydd milfeddygol ar baratoi cofnod yn ôl y categorïau canlynol —

(i)sawl mochyn sydd;

(ii)sawl mochyn sydd, yn ôl eu golwg, heb y clefyd;

(iii)sawl mochyn sydd, yn ôl eu golwg, â'r clefyd arnynt;

(iv)sawl mochyn sydd wedi marw;

(b)sicrhau bod y cofnod yn cael ei ddiweddaru i gynnwys y moch sy'n cael eu geni a'r rhai sy'n marw yn ystod y cyfnod pan fo'r cyfyngiadau o dan y paragraff hwn mewn grym a chofnodi sawl mochyn sy'n mynd yn sâl a fu gynt, yn ôl eu golwg, heb y clefyd;

(c)dangos y cofnod i arolygydd ar ei gais;

(ch)sicrhau bod pob mochyn ar y safle yn cael ei gadw yn ei dwlc neu yn rhyw le arall a bennir yn yr hysbysiad;

(d)sicrhau, yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan arolygydd milfeddygol, bod dulliau priodol o ddiheintio yn cael eu rhoi wrth fynedfeydd ac allanfeydd y rhannau hynny o'r safle lle cedwir y moch a'r safle ei hunan.

(3Pan fydd hysbysiad wedi'i gyflwyno o dan baragraff (1), ni chaiff neb—

(a)symud unrhyw fochyn i'r safle neu oddi yno os na wneir hynny yn unol â thrwydded a roddwyd gan arolygydd milfeddygol a rhaid i'r meddiannydd sicrhau nad yw'r moch yn gallu crwydro o'r safle nac i mewn iddo;

(b)symud unrhyw gig, carcas mochyn, cynnyrch a wnaed o foch, semen, ofwm nac embryo mochyn, nac unrhyw borthiant anifeiliaid, offer, deunydd na gwastraff nac unrhyw beth arall y maent yn debygol o drosglwyddo'r clefyd o'r safle, heblaw os yw hynny'n cael ei wneud yn unol â thrwydded a roddwyd gan arolygydd;

(c)dod i mewn i'r safle nac ohono os nad yw'n gwneud hynny yn unol â thrwydded a roddwyd gan arolygydd milfeddygol;

(ch)symud unrhyw gerbyd i mewn i'r safle nac oddi yno os nad yw'n cael ei wneud yn unol â thrwydded a roddwyd gan arolygydd milfeddygol.

Camau pellach i'w cymryd os yw hysbysiad wedi ei gyflwyno o dan erthygl 5

6.  Os yw hysbysiad wedi ei gyflwyno o dan erthygl 5, caiff arolygydd milfeddygol, drwy gyflwyno hysbysiad pellach i feddiannydd y daliad neu le arall neu i'r person y mae'n ymddangos iddo sydd â gofal y cyfrwng cludo—

(a)gwahardd symud unrhyw rywogaeth arall o anifail i mewn i'r safle neu oddi yno;

(b)ei gwneud yn ofynnol i'r meddiannydd gymryd pob cam rhesymol i ddifa cnofilod a phryfed ar y safle;

(c)ei gwneud yn ofynnol i'r meddiannydd lanhau a diheintio'r safle neu i'r person y mae'n ymddangos iddo sydd â gofal y cyfrwng cludo ei lanhau a'i ddiheintio a hynny ar ei draul ei hun neu ar draul yr Ysgrifennydd Gwladol mewn unrhyw fodd a bennir yn yr hysbysiad, ac o fewn unrhyw amser a bennir felly;

(ch)yn achos cyfrwng cludo, ei gwneud yn ofynnol ei fod—

(i)yn cael ei ddwyn i'r gyrchfan a bennir yn yr hysbysiad;

(ii)yn cael ei ddadlwytho, ei lanhau a'i ddiheintio fel a bennir yn yr hysbysiad; a

(iii)os pennir hynny, yn cael ei ddadlwytho, ei lanhau a'i ddiheintio o dan oruchwyliaeth arolygydd milfeddygol.

Camau i'w cymryd os cadarnheir bod y clefyd yn bresennol ar ddaliad

7.—(1Os yw'r Prif Swyddog Milfeddygol wedi cadarnhau bod y clefyd yn bresennol ar ddaliad, rhaid i arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad o dan yr erthygl hon i feddiannydd y daliad hwnnw yn ei gwneud yn ofynnol iddo sicrhau y cydymffurfir â'r cyfyngiadau a'r gofynion a geir yn erthygl 5 onid oes hysbysiad o'r fath o dan erthygl 5 wedi ei gyflwyno eisoes; a

(2Pan geir cadarnhad o'r fath caiff arolygydd milfeddygol ei gwneud yn ofynnol, drwy hysbysiad, fod y camau hynny a nodir yn erthygl 6 yn cael ei roi ar waith hefyd neu fel y gwêl orau.

Camau i'w cymryd os cadarnheir bod y clefyd yn bresennol mewn lladd-dy, abwyfa neu ar gyfrwng cludo

8.  Os yw'r Prif Swyddog Meddygol wedi cadarnhau bod y clefyd yn bresennol mewn lladd-dy, mewn abwyfa neu ar gyfrwng cludo, caiff arolygydd gyflwyno hysbysiad i feddiannydd y lladd-dy, yr abwyfa neu i'r person y mae'r cyfrwng cludo yn ei ofal, yn ei gwneud yn ofynnol iddo sicrhau—

(a)yn achos lladd-dy neu abwyfa, bod pob adeilad, cyfarpar a cherbyd a bennir yn yr hysbysiad yn cael ei lanhau a'i ddiheintio yn unol â'r cyfarwyddiadau, ac o dan oruchwyliaeth arolygydd milfeddygol;

(b)yn achos cyfrwng cludo, ei fod yn cael ei gymryd i gyrchfan, ei ddadlwytho, ei lanhau a'i ddiheintio yn unol â'r cyfarwyddiadau, ac o dan oruchwyliaeth arolygydd milfeddygol;

(c)na ddeuir â'r un mochyn i mewn i'r lladd-dy, yr abwyfa na'r cyfrwng cludo nes bydd o leiaf 24 awr wedi mynd heibio ers cwblhau'r gwaith glanhau a diheintio a wnaed yn unol ag is-baragraffau (a) a (b) uchod.

Camau i'w cymryd o ran daliadau y mae'n bosib y cafodd y clefyd ei drosglwyddo iddynt neu ohonynt

9.—(1Os, yn sgil ymchwiliad i epidemioleg y clefyd ar ddaliad, y mae arolygydd milfeddygol o'r farn bod y clefyd sydd ar ddaliad sydd wedi ei heintio neu ddaliad a amheuir efallai wedi cael ei drosglwyddo i safle arall, neu ohono, caiff gyflwyno hysbysiad o dan erthygl 5 i feddiannydd y safle arall hwnnw.

(2Os yw'r clefyd wedi ei ganfod ar anifeiliaid mewn lladd-dy, mewn abwyfa neu ar gyfrwng cludo, caiff arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad o dan erthygl 5 i feddiannydd unrhyw safle y mae'r anifeiliaid neu garcasau heintiedig sydd yn y lladd-dy hwnnw, yr abwyfa honno neu'r cyfrwng cludo hwnnw wedi dod ohono yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol o fewn 56 diwrnod neu, yn achos cyfrwng cludo, unrhyw safle y mae'r cyfwng cludo hwnnw wedi teithio iddo ers hynny.

Parth Rheoli Dros Dro

10.—(1Yn sgil cyflwyno hysbysiad o dan erthygl 5, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy Orchymyn datganiadol, sefydlu parth a elwir “parth rheoli dros dro”.

(2Rhaid i'r parth rheoli dros dro fod wedi ei leoli a bod o'r fath faint ag sydd ei angen, ym marn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, er mwyn atal y clefyd rhag lledaenu.

(3Os yw parth rheoli dros dro wedi ei sefydlu, ni chaiff neb—

(a)symud yr un mochyn o unrhyw ddaliad, lladd-dy neu abwyfa yn y parth ac eithrio yn unol â thrwydded a ddyroddir gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu'n unol â chyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol;

(b)symud unrhyw wartheg, defaid, geifr nac anifail cnoi cil arall o unrhyw ddaliad, lladd-dy neu abwyfa yn y parth y mae moch ynddi ac eithrio yn unol â thrwydded a ddyroddir gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu'n unol â chyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol; nac

(c)symud yr un mochyn allan o'r parth.

(4Ni fydd y cyfyngiad ym mharagraff (3)(c) yn gymwys i foch sydd wedi eu llwytho ar gerbyd y tu allan i'r parth a'u cludo drwyddo heb i'r cerbyd gael ei lwytho na'i ddadlwytho.

(5Pan fydd parth rheoli dros dro wedi cael ei sefydlu yn Lloegr sy'n cyffwrdd â ffin Cymru caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, fel y barna'n angenrheidiol, sefydlu parth rheoli dros dro cysylltiedig yng Nghymru;

(6Ystyrir bod unrhyw ddaliad, lladd-dy neu abwyfa sy'n rhannol y tu mewn ac yn rhannol y tu allan i barth rheoli dros dro yn gyfan gwbl y tu mewn i'r parth hwnnw.

Parthau diogelu a goruchwylio

11.—(1Pan gadarnheir gan y Prif Swyddog Milfeddygol fod y clefyd yn bresennol, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy Orchymyn datganiadol, sefydlu ardal heintiedig ag iddi barth a elwir yn “barth diogelu” a pharth a elwir yn “barth goruchwylio”.

(2Rhaid i'r parth diogelu gwmpasu ardal sydd o leiaf tri chilometr ei radiws mewn parth goruchwylio sy'n cwmpasu ardal sydd o leiaf deg cilometr ei radiws, a'r daliad, y lladd-dy neu'r abwyfa y cadarnhawyd bod y clefyd yn bresennol yno fydd canolbwynt y ddau barth.

(3Mae Rhan I o Atodlen I yn gymwys i barth diogelu a Rhan II o Atodlen I yn gymwys i barth goruchwylio.

(4Os cadarnheir bod y clefyd yn bresennol ar ddaliad, lladd-dy neu abwyfa yn Lloegr sydd o fewn 10 cilometr i'r ffin â Chymru, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy Orchymyn datganiadol, sefydlu ardal heintiedig yng Nghymru fel y bydd parth diogelu sydd o leiaf tri chilometr ei radiws wedi ei gynnwys mewn parth goruchwylio sydd o leiaf 10 cilometr ei radiws, a'r daliad yn Lloegr y cadarnhawyd bod y clefyd yn bresennol ynddo fydd canolbwynt y ddau.

(5Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru gymryd unrhyw gamau sydd, yn ei farn, eu hangen i sicrhau bod pob person mewn ardal heintiedig yn llwyr ymwybodol o'r cyfyngiadau sydd mewn grym, gan gynnwys drwy roi hysbysiadau neu arwyddion ar eiddo sydd o fewn yr ardal heintiedig.

(6Rhaid i unrhyw ddaliad, lladd-dy neu abwyfa sydd yn rhannol y tu mewn i barth goruchwylio neu barth diogelu ac yn rhannol y tu allan gael ei drin fel petai i gyd o fewn y parth hwnnw.

Glanhau a diheintio

12.—(1Wrth ddiheintio o dan y Gorchymyn hwn, rhaid defnyddio diheintydd sydd wedi ei gymeradwyo at y diben hwnnw o dan Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 1978(2).

(2Rhaid i weithrediadau glanhau a diheintio ar adeiladau gael eu gwneud o dan oruchwyliaeth arolygydd milfeddygol neu arolygydd yn unol â chyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol.

Parth ymchwilio moch fferal

13.—(1Os oes gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru reswm i gredu bod y clefyd yn bresennol ymhlith moch fferal yng Nghymru neu os oes parth archwilio moch fferal wedi cael ei sefydlu yn Lloegr sy'n cyffwrdd â ffin Cymru, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy Orchymyn datganiadol, sefydlu parth ymchwilio moch fferal yng Nghymru y mae darpariaethau paragraff (3) yn gymwys iddo.

(2Rhaid i'r parth ymchwilio moch fferal gwmpasu'r ardal sydd, ym marn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ei hangen er mwyn ei alluogi i wneud archwiliad i gadarnhau bod y clefyd yn bresennol neu'n absennol.

(3Rhaid i unrhyw berson sy'n saethu moch fferal neu sy'n cael hyd i garcas moch fferal mewn ardal ymchwilio moch fferal roi gwybod i'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol. Os yw'r person wedi saethu'r mochyn, rhaid iddo gadw'r carcas am 24 awr a sicrhau ei fod ar gael i'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol ar gyfer unrhyw samplu neu brofion sydd, ym marn y Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol, yn briodol.

Camau i'w cymryd os cadarnheir bod y clefyd yn bresennol mewn mochyn fferal

14.—(1Os cadarnheir bod y clefyd yn bresennol mewn mochyn fferal yng Nghymru, neu os datgenir ardal heintiedig yn Lloegr sy'n cyffwrdd â ffin Cymru, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru sefydlu ardal heintiedig a'i maint yn ddigon i gwmpasu'r ardal yr amheuir bod y clefyd yn bresennol ynddi.

(2Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru gymhwyso rhai o gyfyngiadau a gofynion Atodiad 2, neu'r cyfan ohonynt, yn yr ardal heintiedig a chaiff hefyd atal hela a gwahardd bwydo moch fferal yn yr ardal honno.

(3Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru gymryd unrhyw gamau sydd, yn ei farn, eu hangen i sicrhau bod yr holl bersonau mewn ardal heintiedig yn llwyr ymwybodol o'r cyfyngiadau a'r gofynion sydd mewn grym mewn ardal heintiedig, gan gynnwys drwy roi hysbysiadau neu arwyddion ar eiddo sydd o fewn yr ardal honno.

(4Rhaid i unrhyw ddaliad sydd yn rhannol y tu mewn i ardal heintiedig ac yn rhannol y tu allan ei drin fel petai i gyd o fewn y parth hwnnw.

Brechu

15.  Ni chaiff neb roi brechlyn at glwy clasurol y moch i unrhyw fochyn.

Cydymffurfio â hysbysiadau etc.

16.—(1Rhaid i unrhyw hysbysiad neu drwydded o dan y Gorchymyn hwn fod yn ysgrifenedig, a chaiff fod yn gyffredinol neu'n benodol, caiff fod yn ddarostyngedig i amodau a gellir ei ddiwygio, ei atal neu ei ddirymu yn ysgrifenedig ar unrhyw adeg ac yn benodol gellir ei atal neu ei ddirymu os yw'r awdurdod dyroddi o'r farn resymol na chydymffurfir â darpariaethau'r Gorchymyn hwn.

(2Os bydd unrhyw berson yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad yn y Gorchymyn hwn neu ag unrhyw gyfarwyddyd a roddwyd, neu ag unrhyw hysbysiad neu drwydded a gyflwynwyd o'i herwydd, caiff arolygydd, heb ymrwymiad i unrhyw achos sy'n ymwneud â thramgwydd a fo'n codi o ganlyniad i'r methiant hwnnw, gymryd unrhyw gamau sydd eu hangen i sicrhau y cydymffurfir â'r gofynion, y cyfarwyddyd, yr hysbysiad neu'r drwydded neu i sicrhau iddynt gael eu rhoi ar waith.

(3Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol neu'r awdurdod lleol adfer unrhyw dreuliau sy'n deillio o waith arolygydd o dan baragraff (2) fel dyled sifil oddi wrth y person sydd mewn diffyg talu.

Pwerau Cyffredinol Arolygwyr ac Arolygwyr Milfeddygol

17.  Caiff arolygydd neu arolygydd milfeddygol neu swyddog arall Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol sy'n mynd i'r safle o dan y Gorchymyn hwn fynd â'r canlynol gydag ef —

(a)cerbyd (ar yr amod bod mynediad i gerbyd o'r fath yn rhesymol ymarferol);

(b)y cyfarpar hwnnw y mae'n barnu ei fod yn angenrheidiol; ac

(c)unrhyw berson arall y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol at unrhyw ddiben mewn perthynas â gweithredu a gorfodi'r Gorchymyn hwn.

Gorfodi

18.—(1Heblaw lle y darperir fel arall, yr awdurdod lleol fydd yn gweithredu a gorfodi darpariaethau'r Gorchymyn hwn.

(2Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol gyfarwyddo, o ran achosion o ddisgrifiad arbennig neu unrhyw achos penodol, fod y ddyletswydd orfodi a osodir ar awdurdod lleol o dan yr erthygl hon i'w chyflawni gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol ac nid gan awdurdod lleol.

Dirymu

19.  Mae'r Gorchmynion canlynol drwy hyn yn cael eu dirymu i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru—

(a)Gorchymyn Clwy'r Moch (Cyfyngiadau Ardaloedd Heintiedig) 1956(3);

(b)Gorchymyn Clwy'r Moch 1963(4).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

23 Medi 2003

Ben Bradshaw

Yr Is-Ysgrifennydd Seneddol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig

24 Medi 2003

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources