RHAN 7Cofnodion
Cofnodion i'w cadw ar gyfer llwythi o gompost neu weddill traul38
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i feddiannydd safle y mae anifeiliaid cnoi cil, moch neu ddofednod yn cael eu cadw arno gofnodi —
a
y dyddiad y daethpwyd â'r compost neu'r gweddill traul i'r safle hwnnw;
b
maint a disgrifiad o'r compost neu'r gweddill traul;
c
y tir y dodwyd y compost neu'r gweddill traul arno;
ch
dyddiad ei ddodi; a
d
y dyddiad pan roddwyd y tir dan gnwd gyntaf neu'r dyddiad y caniatawyd i anifeiliaid cnoi cil, moch neu ddofednod fynd ar y tir, p'un bynnag yw'r cynharaf;
a bydd methu â gwneud hynny yn dramgwydd.
2
Ni fydd y gofyniad ym mharagraff (1) i gadw cofnodion yn gymwys yn achos unrhyw gyflenwad o gompost neu weddill traul sydd i'w ddefnyddio ar unrhyw safle a ddefnyddir fel annedd yn unig.