Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2003

Pwerau mynediad

45.—(1Os bydd gofyn iddo wneud hynny, caiff arolygydd, drwy ddangos dogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos awdurdod yr arolygydd, fynd ar unrhyw safle (ac eithrio unrhyw safle a ddefnyddir fel annedd yn unig) ar bob adeg resymol at ddibenion gweinyddu a gorfodi'r Rheoliadau hyn a Rheoliad y Gymuned.

(2Caiff arolygydd —

(a)atafaelu unrhyw sgil-gynhyrchion anifeiliaid a'u gwaredu yn ôl yr angen;

(b)cyflawni unrhyw ymholiadau, archwiliadau a phrofion;

(c)cymryd unrhyw samplau;

(ch)gweld, ac archwilio a chopïo unrhyw gofnodion (ar ba ffurf bynnag y cedwir hwy) sy'n cael eu cadw o dan y Rheoliadau hyn neu Reoliad y Gymuned, neu fynd â'r cofnodion hynny oddi yno i'w gwneud yn bosibl eu copïo;

(d)mynd at, archwilio a gwirio gweithrediad, unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig sy'n cael ei ddefnyddio neu sydd wedi'i ddefnyddio mewn cysylltiad â'r cofnodion; ac at y diben hwn caiff ofyn i unrhyw berson sydd â gofal dros y cyfrifiadur, y cyfarpar neu'r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â'u gweithredu, i roi i'r arolygydd unrhyw gymorth y bydd yn rhesymol i'r arolygydd ofyn amdano ac, os cedwir cofnod drwy gyfrwng cyfrifiadur, caiff ofyn i'r cofnodion gael eu cyflwyno ar ffurf sy'n caniatáu mynd â hwy oddi yno.

(dd)marcio unrhyw anifail, sgil-gynnyrch anifeiliaid neu beth arall at ddibenion eu hadnabod; ac

(e)mynd â'r personau canlynol gydag ef —

(i)y personau eraill y mae'r arolygydd yn barnu eu bod yn angenrheidiol;

(ii)unrhyw gynrychiolydd y Comisiwn Ewropeaidd sy'n gweithredu at ddibenion Rheoliad y Gymuned.

(3Bydd unrhyw berson sy'n difwyno, difodi neu dynnu unrhyw farc a ddodwyd o dan baragraff (2) yn euog o dramgwydd.

(4Os bydd ynad heddwch wedi'i fodloni ar wybodaeth ysgrifenedig ar lw fod sail resymol i arolygydd fynd i mewn i unrhyw safle (gan eithrio safle sy'n cael ei ddefnyddio fel annedd yn unig) at unrhyw ddiben a grybwyllir yn y rheoliad hwn a bod y naill neu'r llall o'r canlynol yn wir, sef —

(a)bod mynediad i'r safle wedi'i wrthod, neu y disgwylir iddo gael ei wrthod, a bod hysbysiad o'r bwriad i wneud cais am warant wedi'i roi i'r meddiannydd; neu

(b)y byddai cais am fynediad, neu roi hysbysiad o'r fath, yn rhwystro bwriad y mynediad, neu fod yna frys ynghylch yr achos, neu nad yw'r safle yn cael ei feddiannu neu fod y meddiannydd yn absennol,

caiff yr ynad heddwch ddyroddi gwarant yn awdurdodi arolygydd i fynd i'r safle at y diben hwnnw gan ddefnyddio grym rhesymol os oes ei angen.

(5Bydd pob gwarant a ddyroddir o dan y rheoliad hwn yn parhau mewn grym am gyfnod o fis.

(6Caiff arolygydd sy'n mynd i mewn i unrhyw safle yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu warant a ddyroddir odano, fynd â'r canlynol gydag ef —

(a)y personau eraill y mae'r arolygydd yn barnu eu bod yn angenrheidiol; a

(b)unrhyw gynrychiolydd y Comisiwn Ewropeaidd sy'n gweithredu at ddibenion Rheoliad y Gymuned.

(7Os bydd arolygydd yn mynd i unrhyw safle nad yw wedi'i feddiannu, rhaid iddo ei adael wedi'i ddiogelu mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag yr oedd pan aeth yno gyntaf.

(8Yn y rheoliad hwn mae “safle” yn cynnwys unrhyw gerbyd neu gynhwysydd.