RHAN 8Gweinyddu a gorfodi
Gorfodi48
1
Mae'r Rheoliadau hyn i'w gorfodi gan y Cynulliad Cenedlaethol ynglŷn â'r canlynol —
a
safleoedd sydd wedi'u trwyddedu o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Archwilio) 199517;
b
safleoedd sydd wedi'u trwyddedu o dan Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela a Ffermir a Chig Cwningen (Hylendid ac Archwilio) 199518;
c
safleoedd sydd wedi'u trwyddedu o dan Reoliadau Cig Adar Hela Gwyllt (Hylendid ac Archwilio) 199519;
ch
safleoedd cyfun fel y diffinnir “combined premises” yn Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Hylendid) 199420);
d
safleoedd cyfun fel y diffinnir “combined premises” yn Rheoliadau Briwgig a Pharatoadau Cig (Hylendid) 199521.
2
Ac eithrio fel a bennir ym mharagraff (1) mae'r Rheoliadau hyn i'w gorfodi gan yr awdurdod lleol.
3
Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol, fod dyletswydd i orfodi a osodir ar awdurdod lleol o dan y rheoliad hwn i'w chyflawni gan y Cynulliad Cenedlaethol ac nid gan yr awdurdod lleol.