ATODLEN 3Mesurau Trosiannol

RHAN IIIOLEW COGINIO DEFNYDDIEDIG MEWN BWYD ANIFEILIAID42

Rhestr o safleoedd19

1

Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gadw rhestr o enwau a chyfeiriadau'r personau canlynol a gymeradwywyd:

a

casglwyr olew coginio defnyddiedig;

b

gweithredwyr safleoedd trin; ac

c

gweithredwyr safleoedd blendio.

2

Rhaid pennu Rhif adnabod swyddogol ar gyfer pob casglydd a gweithredydd safle a gymeradwywyd.

3

Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn trefnu bod y rhestr hon ar gael i'r cyhoedd.