2003 Rhif 2763 (Cy.268)
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID
Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) (Rhif 2) 2003
Wedi'i wneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1, 8(1) ac 83(2) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 19811 drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Teitl, cymhwyso a chychwyn1.
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) (Rhif 2) 2003; mae'n gymwys i Gymru'n unig a daw i rym ar 31 Hydref 2003.
Diwygio Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 20022.
(1)
Diwygir Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 20022 yn unol â darpariaethau'r erthygl hon.
(2)
Yn erthygl 1(2) yn lle “1 Tachwedd 2003” rhoddir “31 Mawrth 2004”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19983
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
Ben Bradshaw
Is-Ysgrifennydd Seneddo,l Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Oni bai am y Gorchymyn hwn, byddai Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002 yn peidio â bod yn effeithiol ar 1 Tachwedd 2003. Er mwyn ymgynghori ar ddarpariaethau parhaol i gymryd lle'r darpariaethau dros dro a gynhwysir yn y Gorchymyn hwnnw, mae'r Gorchymyn hwn yn caniatáu i'r Gorchymyn hwnnw barhau mewn grym hyd 31 Mawrth 2004.