xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Camau i'w cymryd gan yr athro neu athrawes sy'n gyfrifol am uned cyfeirio disgyblion

4.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), pan fo athro neu athrawes sy'n gyfrifol am uned cyfeirio disgyblion yn gwahardd unrhyw ddisgybl yn barhaol ar y diwrnod pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym neu ar ôl y diwrnod hwnnw, rhaid i'r athro neu athrawes yng ngofal ddilyn y camau canlynol ar unwaith—

(a)rhoi hysbysiad ysgrifenedig i'r person perthnasol yn cyfeirio at y penderfyniad hwnnw ac sy'n datgan y materion canlynol—

(i)y rhesymau am y penderfyniad,

(ii)ei hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad,

(iii)y person y dylai roi unrhyw hysbysiad apêl iddo,

(iv)bod raid i unrhyw hysbysiad apêl gynnwys seiliau'r apêl, a

(v)y diwrnod olaf y gellir gwneud yr apêl.

(b)hysbysu'r awdurdod addysg lleol bod y digybl yn cael ei wahardd yn barhaol a'r rhesymau dros hynny.

(2Nid yw'r rheoliad hwn i fod yn gymwys i unrhyw benderfyniad perthnasol a wnaed cyn y diwrnod pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym.