2003 Rhif 287 (Cy.39)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Apelau yn erbyn Gwaharddiadau Parhaol) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraff 3 o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg 19961 ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru2, a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 52(7) ac (8) a 210(7) o Ddeddf Addysg 20023, ac ar ôl ymgynghori gyda'r Cyngor Tribiwnlysoedd yn unol ag adran 8 o Ddeddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 19924), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Apelau yn erbyn Gwaharddiadau Parhaol) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 18 Chwefror 2003.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.

Darpariaethau dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;

  • ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 19985;

  • ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;

  • ystyr “penderfyniad perthnasol” (“relevant decision”) yw unrhyw benderfyniad a wnaed ar ôl 31 Awst 1994 gan yr athro neu athrawes sy'n gyfrifol am uned cyfeirio disgyblion i wahardd disgybl yn barhaol (sy'n cynnwys penderfyniad y dylid gwneud unrhyw waharddiad o ddisgybl a wneir am gyfnod penodedig yn barhaol), yn unol â pharagraff 7 o Atodlen 1 i Ddeddf 1996 neu baragraff 7 o Atodlen 18 i Ddeddf Addysg 19936;

  • ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw—

    1. a

      mewn perthynas â disgybl o dan 18, ei riant;

    2. b

      mewn perthynas â disgybl sydd wedi cyrraedd yr oedran hwnnw, y disgybl ei hun.

Apelio yn erbyn gwaharddiad parhaol o uned cyfeirio disgyblion3

1

Mae'r rheoliad hwn yn rhagnodi at ddibenion adran 52(7) o Ddeddf 2002 y person all apelio i banel apelau yn erbyn penderfynad i wahardd disgybl yn barhaol o uned cyfeirio disgyblion.

2

Y person a ragnodir yw'r person perthnasol mewn perthynas ag unrhyw ddisgybl sy'n destun penderfyniad perthnasol.

Camau i'w cymryd gan yr athro neu athrawes sy'n gyfrifol am uned cyfeirio disgyblion4

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), pan fo athro neu athrawes sy'n gyfrifol am uned cyfeirio disgyblion yn gwahardd unrhyw ddisgybl yn barhaol ar y diwrnod pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym neu ar ôl y diwrnod hwnnw, rhaid i'r athro neu athrawes yng ngofal ddilyn y camau canlynol ar unwaith—

a

rhoi hysbysiad ysgrifenedig i'r person perthnasol yn cyfeirio at y penderfyniad hwnnw ac sy'n datgan y materion canlynol—

i

y rhesymau am y penderfyniad,

ii

ei hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad,

iii

y person y dylai roi unrhyw hysbysiad apêl iddo,

iv

bod raid i unrhyw hysbysiad apêl gynnwys seiliau'r apêl, a

v

y diwrnod olaf y gellir gwneud yr apêl.

b

hysbysu'r awdurdod addysg lleol bod y digybl yn cael ei wahardd yn barhaol a'r rhesymau dros hynny.

2

Nid yw'r rheoliad hwn i fod yn gymwys i unrhyw benderfyniad perthnasol a wnaed cyn y diwrnod pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym.

Trefniadau ar gyfer apelau yn erbyn gwahardd disgyblion yn barhaol5

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i awdurdod addysg lleol wneud trefniadau yn unol â'r Rheoliadau hyn i alluogi person perthnasol i apelio yn erbyn unrhyw benderfyniad perthnasol.

2

Ni ellir gwneud unrhyw apêl mewn perthynas ag unrhyw benderfyniad perthnasol y mae rheoliad 4(2) yn gymwys iddo oni roddir hysbysiad ysgrifenedig yn nodi'r seiliau am yr apêl gan y person perthnasol i'r awdurodd addysg lleol cyn pen 30 diwrnod ysgol ar ôl y diwrnod pan ddaw'r rheoliadau hyn i rym.

Cymhwyso deddfwriaeth bresennol6

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Atodlen 18 i Ddeddf 1998 i fod yn gymwys gyda'r addasiadau a ragnodwyd yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn mewn perthynas ag unrhyw apêl yn erbyn penderfyniad perthnasol yn unol â threfniadau a wnaed o dan reoliad 5.

2

Mewn perthynas ag unrhyw benderfyniad perthnasol a wnaed cyn y diwrnod pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym, nid yw paragraff 1(1) o Atodlen 18 i Ddeddf 1998 fel y cafodd ei haddasu gan y Rheoliadau hyn i fod yn gymwys.

Penderfyniad panel apelau yn benderfyniad rhwymol7

Bydd penderfyniad panel apelau ar apêl yn unol â threfniadau a wnaed o dan reoliad 5 yn rhwymol ar y person perthnasol, yr athro neu athrawes sy'n gyfrifol a'r awdurdod addysg lleol.

Cyfarwyddyd i adsefydlu disgybl8

Pan o dan apêl yn unol â'r Rheoliadau hyn bod panel apelau yn penderfynu na ddylai'r disgybl dan sylw fod wedi cael ei wahardd yn barhaol, rhaid i'r panel apelau naill ai—

a

gyfarwyddo ei fod yn cael ei adsefydlu (naill ai ar unwaith neu erbyn dyddiad a bennnir yn y cyfarwyddyd); neu

b

mewn achosion pan na fyddai'n ymarferol rhoi cyfarwyddyd sy'n ei gwneud hi'n ofynnol ei adsefydlu, benderfynu y byddai fel arall wedi bod yn briodol i roi cyfarwyddyd o'r fath.

Parchu canllawiau9

Rhaid i athro neu athrawes sy'n gyfrifol am uned cyfeirio disgyblion, awdurdod addysg lleol neu banel apelau sy'n cyflawni unrhyw swyddogaeth a roddwyd iddo gan neu o dan y Rheoliadau hyn a Deddf 1998 (fel y cafodd ei haddasu gan y Rheoliadau hyn) barchu canllawiau a roddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Ddeddf 2002.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19987.

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

YR ATODLENAddasu Atodlen 18 i Ddeddf 1998

Rheoliad 6

1

Yn lle “section 67(1)”, bob tro y digwydd, rhoddir “regulation 5 of the Education (Pupil Referral Units) (Appeals Against Permanent Exclusion) (Wales) Regulations 2003”.

2

Yn lle “section 66(6)(b)”, bob tro y digwydd, rhoddir “regulation 4(1)(a) of the Education (Pupil Referral Units) (Appeals Against Permanent Exclusion) (Wales) Regulations 2003”.

3

Ym mharagraff 1, yn lle “not to reinstate”, bob tro y digwydd, rhoddir “to permanently exclude”.

4

Ym mharagraff 2(7)—

a

ym mharagraff (a), yn lle “governing body of the school” rhoddir “management committee (where one has been established) of the pupil referral unit”;

b

ym mharagraff (b) hepgorir “or the governing body”; ac

c

ym mharagraff (c), yn lle “school”, bob tro y digwydd, rhoddir “pupil referral unit”.

5

Ym mharagraff 10(2)—

a

ym mharagraff (a), yn lle “head teacher”, rhoddir “teacher in charge”;

b

ym mharagraff (b) hepgorir “and the governing body” ac ar ôl “written representations,” ychwanegir “and”;

c

ym mharagraff (c) hepgorir “, and a governor nominated by the governing body,” ac “, and”; ac

ch

hepgorir paragraff (d).

6

Ym mharagraff 14—

a

hepgorir “the governing body”; a

b

yn lle “head teacher” rhoddir “teacher in charge”.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r person perthnasol (hynny yw rhiant disgybl, neu'r disgybl ei hun os ydyw'n 18) sy'n gallu apelio yn erbyn penderfyniad athro neu athrawes sy'n gyfrifol am uned cyfeirio disgyblion i wahardd y disgybl yn barhaol. Mae'r hawl newydd hwn i apelio yn gymwys i unrhyw benderfyniad a wneir gan athro neu athrawes sy'n gyfrifol am uned cyfeirio disgyblion i wahardd disgybl yn barhaol ar neu ar ôl 1 Medi 1994.

Mae Rheoliad 4 yn darparu bod rhaid i'r athro neu athrawes sy'n gyfrifol hysbysu'r person perthnasol a'r awdurdod addysg lleol ar unwaith am y penderfyniad a'r rheswm drosto pan gaiff disgybl ei wahardd yn barhaol ar ôl dyddiad dod i rym y Rheoliadau hyn. Yn ogystal, rhaid hysbysu'r person perthnasol o'i hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad a sut y gall fynd ati i wneud apêl o'r fath.

Mae Rheoliad 5 yn gosod dyletswydd ar awdurdod addysg lleol i wneud trefniadau sy'n galluogi'r person perthnasol i wneud apêl. Fodd bynnag, rhaid i'r person perthnasol gydymffufio â'r terfynau amser ar gyfer hysbysu'r awdurdod addysg lleol o'i fwriad i apelio. Mewn perthynas â phenderfyniad perthnasol a wnaed ar y diwrnod pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym neu ar ôl y diwrnod hwnnw, y terfyn amser yw 15 diwrnod ysgol ar ôl y diwrnod pan dderbyniodd y person perthnasol hysbysiad ysgrifenedig o dan reoliad 4(1). Mewn perthynas â phenderfyniad perthnasol a wnaed cyn y diwrnod pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym, y terfyn amser yw 30 diwrnod ysgol ar ôl y diwrnod hwnnw.

Mae rheoliad 6 yn cymhwyso Atodlen 18 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, fel y caiff ei haddasu gan yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, ar gyfer unrhyw benderfyniad a wneir yn unol â rheoliad 5.

Mae rheoliadau 7 ac 8 yn ailadrodd y darpariaethau sydd eisoes yn bodoli yn adran 67(3) a (4) o Ddeddf 1998 ar gyfer unedau cyfeirio disgyblion, gan ychwanegu darpariaeth (yn rheoliad 8(b)) i'r panel apelau wneud penderfyniad y byddai adsefydlu wedi bod yn briodol mewn achos pan na fyddai fel arall mewn gwirionedd wedi bod yn ymarferol i roi cyfarwyddyd o'r fath.

Mae rheoliad 9 yn ei gwneud hi'n ofynnol i athro neu athrawes sy'n gyfrifol am uned cyfeirio disgyblion, awdurdod addysg lleol neu banel apelau, barchu canllawiau a roddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru wrth gyflawni swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn.