7.—(1) Rhaid i'r awdurdod perthnasol ymgynghori â'r fforwm yn flynyddol —
(a)ar arfer swyddogaethau'r awdurdod perthnasol sy'n ymwneud â'i gyllideb ysgolion, a
(b)ar newidiadau rhagolygol i gynllun yr awdurdod perthnasol ar gyfer ariannu ysgolion.
(2) Caiff yr awdurdod perthnasol ymghynghori â'r fforwm ynghylch unrhyw faterion eraill o'r fath sy'n ymwneud ag ariannu ysgolion fel y mae'n gweld yn briodol.
8.—(1) Rhaid i'r awdurdod perthnasol ymgynghori â'r fforwm ynghylch:—
(a)unrhyw newidiadau arfaethedig mewn cysylltiad â'r materion a'r meini prawf a ystyriwyd, neu'r dulliau, yr egwyddorion a'r rheolau a fabwysiadwyd, yn ei fformiwla yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 47 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, a
(b)effaith ariannol tebygol unrhyw newid o'r fath.
(2) Rhaid i'r ymgynghori o dan baragraff (1) gael ei wneud gan roi digon o amser fel bo'r safbwyntiau a fynegwyd yn gallu cael eu hystyried wrth bennu fformiwla'r awdurdod perthnasol ac wrth wneud y penderfyniad cychwynnol ynghylch cyfrannau ysgolion o'r gyllideb cyn dechrau'r flwyddyn ariannol.
9.—(1) Rhaid i'r awdurdod perthnasol, o leiaf dri mis cyn cyhoeddi gwahoddiadau i dendro, ymgynghori â'r fforwm ynghylch amodau unrhyw gontract arfaethedig am gyflenwadau neu wasanaethau, a hwnnw'n gontract sydd wedi ei dalu neu sydd i'w dalu o'i gyllideb ysgolion os: —
(a)nad yw amcangyfrif gwerth contract gwasanaethau cyhoeddus arfaethedig yn llai na'r trothwy penodol sy'n gymwys i'r awdurdod perthnasol yn unol â Rheoliad 7(1) o Reoliadau Contractau Gwasanaethau Cyhoeddus 1993(1); neu
(b)nad yw amcangyfrif gwerth contract cyflenwi cyhoeddus arfaethedig yn llai na'r trothwy penodol sy'n gymwys i'r awdurdod perthnasol yn unol â Rheoliad 7(2) o Reoliadau Contractau Cyflenwi Cyhoeddus 1995(2).
(2) Rhaid i'r awdurdod perthnasol, o leiaf dri mis cyn y dyddiad pan fo'n bwriadu gwneud y cytundeb terfynol, ymgynghori â'r fforwm ynghylch amodau unrhyw gytundeb lefel gwasanaeth y byddai'r ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod perthnasol yn cael nwyddau neu wasanaethau gan yr awdurdod oddi tano ac y byddai cost y nwyddau neu'r gwasanaethau yn cael eu talu (yn gyfan gwbl neu'n rhannol) o gyfraniadau'r gyllideb ysgolion.
10. Rhaid i'r fforwm, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, roi gwybod i gyrff llywodraethu'r ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod perthnasol am bob ymgynghoriad a wnaed o dan y Rhan hon yn y rheoliadau hyn.
O.S. 1993/3228. Diwygiwyd rheoliad 7 gan Reoliad 4 o Reoliadau Contractau Cyhoeddus (Gweithfeydd, Gwasanaethau a Chyflenwi) (Diwygio) 2000 (O.S. 2000/2009).
O.S. 1995/201. Diwygiwyd rheoliad 7 gan Reoliad 5 o Reoliadau Contractau Cyhoeddus (Gweithfeydd, Gwasanaethau a Chyflenwi) (Diwygio) 2000 (O.S. 2000/2009).