Adennill
9. Er gwaethaf dwyn i rym y diddymiad o adran 492 o Ddeddf 1996(1), yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar 9 Ionawr 2004 ac sy'n dod i ben yn union cyn dechrau'r diwrnod y daw'r rheoliadau a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 207 i rym, mae Rheoliadau Addysg (Adennill Rhwng Awdurdodau) 1994(2) i barhau i gael effaith mewn perthynas â Chymru fel pe baent wedi'u gwneud gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 207 ac fel pe rhoddwyd yn lle'r geiriau “the Secretary of State” yn rheoliad 3(2)(b) y geiriau “the National Assembly for Wales”.
(1)
Mae adran 492 o Ddeddf 1996 i'w diddymu gan adran 215 o Ddeddf 2002, ac Atodlen 22 iddi ar 9 Ionawr 2004 (gweler O.S. 2003/2961 (Cy.278) (C.108).
(2)