Enwi, cymhwyso a dehongli

1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2003.

2

Mae'r darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn yn cael eu dwyn i rym mewn perthynas รข Chymru yn unig.

3

Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at Rannau, adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at Rannau ac adrannau o Ddeddf Addysg 2002 a'r Atodlenni iddi.

Diwrnodau penodedig

4

1 Rhagfyr 2003 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan I o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.

5

4 Rhagfyr 2003 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan II o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.

6

1 Ionawr 2004 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan III o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.

7

9 Ionawr 2004 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan IV o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19982

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol