Rôl fforwm3.
(1)
Rôl fforwm yw —
(a)
ystyried pa mor dda y mae'r trefniadau derbyn presennol ac arfaethedig yn gwasanaethu buddiannau plant a'u rhieni o fewn ardal yr awdurdod;
(b)
hybu cytundeb ar faterion derbyn;
(c)
ystyried pa mor gynhwysfawr a hygyrch yw'r llenyddiaeth a'r wybodaeth dderbyn i rieni, a gyhoeddir gan bob awdurdod derbyn o fewn ardal y fforwm;
(ch)
ystyried effeithiolrwydd unrhyw gyd-drefniadau derbyn arfaethedig;
(d)
ystyried pa fodd y gellir gwella'r prosesau derbyn a sut y mae'r derbyniadau gwirioneddol yn cyfateb i'r nifer derbyniadau a gyhoeddir;
(dd)
monitro derbyn plant sy'n cyrraedd ardal yr awdurdod y tu allan i'r cylch derbyn arferol gyda'r bwriad o hybu trefniadau dros ddosbarthu'r plant yn deg ymysg yr ysgolion lleol, gan gymryd i ystyriaeth unrhyw hoff ddewis a fynegir yn unol â threfniadau a wnaed o dan adran 86(1) o'r Ddeddf;
(e)
hybu trefniadau derbyn effeithiol ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig, plant sy'n derbyn gofal a phlant a waharddwyd o'r ysgol; ac
(f)
i'r graddau na chynhwysir hwy yn is-baragraffau (a) i (e), ystyried unrhyw faterion derbyn sy'n codi.
(2)
At ddibenion y rheoliad hwn —
(a)
mae plentyn i'w drin fel pe bai wedi cyrraedd y tu allan i gylch derbyn arferol os digwydd y canlynol —
(i)
ar yr adeg pan fydd y plentyn yn cyrraedd ardal yr awdurdod nid yw'r plentyn yn dod o fewn grŵ p oedran perthnasol; neu
(ii)
mae'r plentyn yn dod o fewn grŵ p oedran perthnasol ond mae unrhyw gais i'w dderbyn i ysgol i gael ei ystyried ar ôl yr adeg y mae'r awdurdod derbyn ar gyfer yr ysgol o dan sylw wedi penderfynu, yn unol â threfniadau derbyn yr ysgol, pa blant yn y grŵ p oedran hwnnw sydd i'w derbyn i'r ysgol;