Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 3037 (Cy.285)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

26 Tachwedd 2003

Yn dod i rym

28 Tachwedd 2003

Wrth arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(e), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo(2), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi ystyried, yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, y cyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor(3), sy'n pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewropeaidd ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

(2)

Trosglwyddwyd y swyddogaethau a oedd yn arferadwy yn y gorffennol gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.